Celfyddydau Cymunedol

Adnoddau Cymunedol
Criw Celf
Y Celfyddydau Mewn Iechyd a Lles
Ymgolli mewn Celf
Noson Allan

Rydym yn gweithio i hyrwyddo, cefnogi a datblygu gweithgaredd celfyddydol yng nghymunedau’r sir, yn amrywio o’r celfyddydau gweledol i gerddoriaeth, dawns, drama, ysgrifennu creadigol a ffilm. Mae Celfyddydau Cymunedol yn rhoi cyfle i bawb gymryd rhan yn y celfyddydau beth bynnag yw eu profiad, oed neu gefndir.

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid, o sefydliadau trydydd sector i grwpiau cymunedol ar draws meysydd iechyd a lles, addysg ac adfywio. Mae ein Rhaglen Celf Cymunedol wedi’i dylunio i gefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) Llywodraeth Cymru ac fe’i noddir gan gan Gyngor Sir Ddinbych a Chyngor Celfyddydau Cymru, yn ogystal â drwy nawdd grant a nawdd partneriaeth arall ar sail prosiectau unigol.

Mae celf yn gwneud pethau gwych yn ein cymunedau lleol:

  • Dod â phobl ynghyd
  • Creu swyddi
  • Cynnig cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd
  • Datblygu diddordebau newydd
  • Gwneud pentrefi, trefi a dinasoedd yn llefydd gwych i fyw, i weithio, ac i ymweld â nhw

Criw Celf

Mae Criw Celf yn rhaglen Cymru gyfan sy’n cynnig hyfforddiant arbenigol i blant a phobl ifanc sy’n arddangos gallu a thalent amlwg yn y celfyddydau gweledol. Mae’r prosiect yn cynnwys dosbarthiadau meistr wedi’u teilwra’n arbennig gydag artistiaid proffesiynol sy’n rhoi cyfle i’r aelodau ….

  • Gael mynediad i addysg ychwanegol fanylach, o ansawdd uchel yn y celfyddydau
  • Meithrin a datblygu sgiliau a dealltwriaeth o gelf a chrefft weledol
  • Dysgu am yrfaoedd yn y sector celfyddydau
  • Cydweithio gydag artistiaid i ddatblygu eu potensial a’u gallu
  • Arddangos eu gwaith mewn oriel gelf broffesiynol

Mae gan Griw Celf Sir Ddinbych 3 grŵp, pob un yn cael 6 dosbarth meistr y flwyddyn rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf, sef grŵp o ddisgyblion ysgol cynradd o flynyddoedd 5 a 6, un grŵp o ddisgyblion ysgol uwchradd o flynyddoedd 7 ac 8 a grŵp o ddisgyblion blwyddyn 9.  Mae’r dosbarthiadau meistr yn cael eu cynnal ar draws y sir mewn amrywiaeth o leoliadau yn cynnwys neuaddau tref a phentref a hefyd yng Nghanolfan Grefft Rhuthun lle defnyddir yr arddangosfeydd yn yr oriel i ysbrydoli’r artistiaid ifanc.  Yn y gorffennol rydym hefyd wedi cynnal gweithdai tirlun yn yr awyr agored e.e. ger camlas Llangollen, yng ngerddi Plas Newydd a hyd yn oed ddysgu sut i dynnu llun anifeiliaid byw yn Sioe Caerwys.

I gael eu derbyn i Griw Celf mae’n rhaid i fyfyrwyr gyflwyno darn o waith celf ynghyd â datganiad yn dweud pam yr hoffent fod yn rhan o Griw Celf.  Mae llefydd yn gyfyngedig i tua 20 fesul grŵp felly nid ydym yn gallu dderbyn pawb sy’n gwneud cais am le.

Caiff y broses o ymgeisio fel arfer ei chynnal ym mis Hydref. Caiff gwybodaeth a ffurflenni cais eu rhannu gyda holl ysgolion Sir Ddinbych a bydd gwybodaeth hefyd yn cael ei rhannu yn y wasg leol.

Ariennir Criw Celf gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.


Galeri Criw Celf Rhithiol

Mae rhai enghreifftiau o’r gwaith a grëwyd yn ein gweithdai o bell diweddar i’w gweld yn y galeri isod.


Noson Allan

Rydym hefyd yn cefnogi ac yn rheoli Cynllun Noson Allan ar ran Cyngor Sir Ddinbych. Mae Cynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i helpu grwpiau o wirfoddolwyr o bob rhan o Gymru i ddod â’r celfyddydau i galon eu cymunedau.

Gall grwpiau cymunedol (a elwir yn Hyrwyddwyr) ddewis o blith nifer fawr o artistiaid proffesiynol gwych i berfformio mewn neuaddau cymunedol neu neuaddau pentref a lleoliadau eraill llai traddodiadol ar draws y sir.  Os ydych eisiau gwybodaeth am sut y mae’r cynllun yn gweithio a sut y caiff nosweithiau eu hyrwyddo ewch i www.nightout.org.uk

Bob blwyddyn caiff bron 550 o sioeau eu bwcio drwy’r cynllun gan tua 350 o wahanol grwpiau cymunedol. Ochr yn ochr â’r prif gynllun rydym hefyd yn rhedeg cynllun Noson Allan Fach sy’n cynnig sioeau bychan ar gyfer sefydliadau aelodaeth megis y Merched y Wawr a’r WI.

Gan weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol Cymru, mae’r tîm Noson Allan hefyd yn gwarantu yn erbyn colledion ar  ddigwyddiadau drwy dalu ffi’r perfformiwr gyda’r hyrwyddwr cymunedol yn talu’r ffi yn ôl o incwm o docynnau wrth y drws.

Nid ydym ni byth yn cymryd mwy na chostau’r perfformiwr felly fel hyrwyddwr fyddwch chi byth ar eich colled o ddefnyddio’r cynllun. Po fwyaf o arian y bydd hyrwyddwyr yn ei wneud y mwyaf o arian fydd gennym ni i allu cytuno i gais arall.

Mae ein hyrwyddwyr yn gallu bwcio amrywiaeth eang o artistiaid proffesiynol. Mae llawer yn dod at Noson Allan am gyngor ynghylch sioeau priodol o safon uchel sy’n addas ar gyfer lleoliadau cymunedol bychan.

Nod Noson Allan yw hyrwyddo, galluogi a chefnogi:
  • Perfformiadau proffesiynol o safon uchel mewn cymunedau ledled Cymru, llawer ohonynt heb fawr o fynediad at ddigwyddiadau celfyddydol.
  • Economi’r celfyddydau –  darparu llwyfan ar gyfer perfformwyr o Gymru a thu hwnt i gyrraedd cymunedau lleol.
  • Datblygiad cymunedol, gwirfoddol a’r economi lleol a chyfrannu at y defnydd o neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol fel mannau ymgynnull hyfyw ar gyfer sefydliadau lleol.
  • Grwpiau hyrwyddwyr gyda chyngor, syniadau ac argymhellion.

Cysylltwch â ni drwy ein tudalen Cysylltwch â ni.


Y Celfyddydau Mewn Iechyd a Lles

Mae pwysigrwydd y celfyddydau mewn hyrwyddo iechyd a lles yn cael ei dderbyn yn eang erbyn hyn.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi bod yn cefnogi gweithgaredd yn y maes hwn ers peth amser ac wedi sefydlu Memorandwm o Ddealltwriaeth gyda Conffederasiwn GIG Cymru, ac maent hefyd yn gweithio’n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyda chyfranogwyr Grŵp Trawsbleidiol y Celfyddydau ac Iechyd Llywodraeth Cymru. Ym mis Mai 2017, dywedodd Cyfarwyddwr Sefydliad Baring fod Cymru yn ‘arwain y byd’ yn y celfyddydau ar gyfer pobl hŷn ac rydym wedi parhau i ddatblygu ein gwaith yn y sector hwn. Mae’r adroddiad i’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol dros y Celfyddydau, Iechyd a Lles yn San Steffan hefyd yn amlygu manteision iechyd a lles cyfranogiad yn y celfyddydau creadigol: Y Celfyddydau er Iechyd a Lles.

Rydym ni yng Nghelfyddydau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych yn rhedeg rhaglen lawn o weithgareddau’r Celfyddydau mewn Iechyd mewn partneriaeth â gwasanaethau awdurdodau lleol megis y Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Gwasanaethau Ieuenctid, sefydliadau partner megis Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a sefydliadau ac elusennau trydydd sector megis Mind, Hosbis St.Kentigern, y Gymdeithas Strôc, Capel y Waun a Chanolfan Ni yng Nghorwen.

Cafodd peth o’n gwaith sylw yn nogfen fapio’r Celfyddydau ac Iechyd yng Nghymru Cyngor Celfyddydau Cymru: Astudiaeth fapio o weithgaredd presennol 2018 https://arts.wales/our-impact/how-we-reach-wider-audiences/art-and-health

Rydym ni, yn yr un modd â Chyngor Celfyddydau Cymru, yn credu’n gryf fod gan y Celfyddydau gyfraniad pwerus dros ben i’w wneud tuag at fywydau iach a ymgysylltiedig.

Wyddoch chi?

  • Mae mynychu digwyddiad celfyddydol o leiaf unwaith y mis yn ystod blynyddoedd hwyrach bywyd yn lleihau’r risg o iselder 50%.
  • Mae ymweld ag oriel neu amgueddfa bob ychydig fisoedd yn lleihau eich risg o ddatblygu dementia 44% – ac mae’r manteision yn para am hyd at 10 mlynedd ar ôl i chi stopio.

Gwobrau a Chydnabyddiaeth

Celfyddydau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych oedd yr unig bartner yng Nghymru i gymryd rhan yn y prosiect ymchwil pwysig ‘Dementia a’r Dychymyg’ (http://dementiaandimagination.org.uk/). Yn dilyn y prosiect ymchwil mae’r tîm wedi parhau i ddatblygu ei waith gyda phobl sy’n byw â dementia ac maent yn arweinwyr yn y sector gyda’r prosiect arobryn Ymgolli Mewn Celf.

Prosiect celfyddydau gweledol ar gyfer pobl sy’n byw â dementia â’u gofalwyr yw Ymgolli Mewn Celf, sydd wedi ennill y wobr Hearts for the Arts am y Prosiect Celfyddydau Awdurdod Lleol Gorau am Annog Cydlyniad Cymunedol yn 2018.

Ewch i’n tudalen Adnoddau Cymunedol i weld yr holl adnoddau a gynigiwn ar-lein:
Adnoddau Cymunedol

Ymgolli mewn Celf

Mae’r prosiect Ymgolli Mewn Celf ar gyfer pobl sy’n byw â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Nod y prosiect yw ymchwilio i’r hyn y gall y celfyddydau gweledol ei gyfrannu wrth fynd i’r afael â’r materion a all effeithio ar bobl â dementia, gan gynnwys ynysu cymdeithasol, hyder, cyfathrebu, ansawdd bywyd a lles.  Datblygwyd y prosiect gyda chefnogaeth y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor.

Mae Ymgolli Mewn Celf yn cael ei gynnal bob wythnos yng Nghanolfan Grefft Rhuthun a lleoliadau eraill ar draws Sir Ddinbych, yn cynnwys sesiynau misol yng ngrwpiau’r gwasanaethau cymdeithasol yn y Rhyl a Phrestatyn ac yn Hosbis St Kentigern yn Llanelwy.

Mewn ymateb i’r pandemig a’i gyfyngiadau ar gyswllt wyneb yn wyneb rydym yn awr yn darparu gwasanaeth Ymgolli Mewn Celf o bell. Rydym wedi datblygu blychau celf i’w danfon i gartrefi, taflenni cyfarwyddiadau electronig a ffilmiau tiwtorial byr ar gyfer yr rhai hynny sy’n byw â dementia a’u gofalwyr. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y deunyddiau hyn mae croeso i chi gysylltu â ni.

Fe welwch isod enghreifftiau o’r tiwtorialau ffilm i chi gael syniad o beth sydd wedi’i gynnwys yn y pecynnau

Ymgolli Mewn Celf 1 gyda Sian Hughes: Sut i ddefnyddio technegau Marmori yn y cartref

Ymgolli Mewn Celf 1 gyda Sian Hughes: Sut i ddefnyddio technegau Marmori yn y cartref

Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu