Chwaraeon cynhwysol

Chwaraeon cynhwysol
Bikeability
5 x 60
Campau'r Ddraig

Chwaraeon cynhwysol

O fewn Sir Ddinbych mae clybiau a darpariaethau sy’n cynnig amryw o weithgareddau chwaraeon i bobl anabl, yn amrywio o Nofio a Thrampolinio i Bêl-fasged Cadair Olwyn a Thriathlon.
Os ydych chi’n hyfforddwr neu’n wirfoddolwr mae Cwrs Hyfforddi Ymgynnwys Anabl y DU (UK DIT) sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r cyrsiau yn cael eu cynnal nifer o weithiau yn ystod y flwyddyn, felly cysylltwch â mi ar gyfer y dyddiadau.
Er mwyn helpu cefnogi clybiau i ddarparu sesiynau o ansawdd da, mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi cyflwyno insport. Mae’n broses adnabod ac achredu (Rhuban, Efydd, Arian ac Aur) bedair haen y gall unrhyw glwb chwaraeon fynd drwyddi i ddangos eu bod wedi ymrwymo i ddarparu a chyflawni chwaraeon cynhwysol. Os ydych chi’n glwb prif ffrwd sydd eisoes yn darparu chwaraeon cynhwysol neu os hoffech ddechrau, cysylltwch â mi.
Os hoffech ragor o wybodaeth ar ba gyfleoedd sydd ar gael ar draws Sir Ddinbych, cysylltwch â Brett Jones, Swyddog Chwaraeon Cymunedol a Chwaraeon Anabledd trwy ein tudalennau â ni.

Bikeability

Mae rhaglen ‘Bikeability’ Hamdden Sir Ddinbych yn seiliedig ar ddiogelwch y ffordd wrth feicio ac wedi’i anelu at addysgu pobl ifanc (10-11 oed) y gwybodaeth a’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i feicio yn ddiogel ar y ffordd.
Mae ein darpariaeth yn cynnwys dwy lefel; Lefel 1, sy’n cael ei gynnal ar iard yr ysgol mewn amodau ‘heb draffig’ ac yn caniatáu hyfforddwyr i asesu sgiliau penodol a balans beic pobl ifanc, cyflymder beicio a cyfforddusrwydd cyffredinol wrth feicio. Os yw person ifanc yn llwyddo i ddangos yr holl sgiliau hanfodol sydd eu hangen i feicio mewn modd effeithlon a diogel, byddent yn mynd ymlaen i’r lefel nesaf.
Mae lefel 2 yn hyfforddiant a gynhelir ar y ffordd. Mae gan yr holl feicio yn lefel 2 y posibilrwydd o newidiadau posibl mewn amodau traffig ar unrhyw adeg, felly bydd yr holl sgiliau sy’n cael eu hymarfer yn lefel 1 (e.e. gwirio dros yr ysgwydd, pŵer pedalau, brecio, arwyddion) yn cael eu defnyddio’n gyson yn lefel 2 er mwyn galluogi beicwyr i fagu hyder a dod i arfer â senarios beicio ar y ffordd.
Rhaglen weithgar a hwyliog i bobl ifanc gymryd rhan ynddi, mae hyfforddiant Bikeability yn cael ei gynnig mewn ysgolion cynradd ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 ar hyn o bryd. Os oes gan eich ysgol ddiddordeb yn y rhaglen Bikeability, cysylltwch â’n tîm Bikeability trwy ein tudalen â ni.

5 x 60

Mae’r rhaglen 5×60 yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion uwchradd ddweud pa gampau yr hoffent gymryd rhan ynddynt, boed yn bêl-osgoi, codi hwyl, pêl-rwyd neu weithgaredd arall.

Mae swyddogion 5×60 neu Swyddogion PIE yn siarad â disgyblion, athrawon a rhieni i ddarganfod pa weithgareddau y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt ac, os oes modd, yn trefnu amserlen i roi’r cyfle i’r disgyblion gymryd rhan yn y gweithgaredd o’u dewis.

Gall y gweithgareddau hyn gael eu cynnal cyn ysgol, yn ystod amser cinio ac ar ôl ysgol. Bydd y gweithgareddau yn targedu unigolion nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu sydd mewn perygl o golli diddordeb yn bennaf.

Mae yna swyddogion 5×60 yn yr ysgolion canlynol a gallwch ddilyn eu rhaglenni ar dudalen Twitter DLLActive:

  • Llion Williams yn Ysgol Uwchradd y Rhyl

  • Llion Williams yn Crist y Gair

  • Guy Butterworth yn Ysgol Uwchradd Prestatyn

  • Aled Williams yn Ysgol Glan Clwyd

  • Gareth Evans yn Ysgol Uwchradd Dinbych

  • Ffion White yn Bryn Hyfryd

  • Nicola Wainwright yn Dinas Brân

Campau’r Ddraig

Mae ysgolion Cynradd Sir Ddinbych yn chwarae rhan hanfodol i gael pobl ifanc yn weithgar ac yn rhoi blociau adeiladu yn eu lle ar gyfer mwynhad gydol oes o chwaraeon. Trwy chwaraeon cwricwlaidd ac allgyrsiol, dylai fod cyfleoedd drwy gydol y diwrnod ysgol i gyfranogi. Mae Cymunedau Gweithgar Sir Ddinbych yn cefnogi rhaglenni i gyflawni Llythrennedd Corfforol, megis Chwarae a Dysgu ac Aml-Sgiliau a Champau’r Ddraig, a gwyliau cynradd sy’n cysylltu chwaraeon mewn ysgolion gyda chwaraeon yn y gymuned leol. Rydym yn darparu’r rhaglen Llysgenhadon Ifanc Efydd, sydd wedi datblygu byddin o arweinwyr ifanc ar dras Cymru sy’n helpu i gynllunio, cefnogi a darparu chwaraeon o fewn eu hysgolion. Cysylltwch â’ch Cydlynydd Campau’r Ddraig lleol i drafod syniadau a derbyn adnoddau i gefnogi athrawon a staff ysgol yn y cyfnod cynradd ac ar gyfer chwaraeon allgyrsiol mewn ysgolion cynradd. Hefyd, bob dwy flynedd rydym yn casglu data ar gyfranogiad mewn chwaraeon mewn ysgolion lleol trwy ein Harolwg Chwaraeon Ysgolion.

Prif Wyliau a Digwyddiadau

Mae pob clwstwr yn Sir Ddinbych yn trefnu amrywiol wyliau chwaraeon a digwyddiadau i fynd gyda chlybiau ysgol allgwricwlar. Mae rhai yn wyliau hwyliog ble mae disgyblion yn dod ac yn rhoi cynnig ar chwaraeon a dysgu’r rheolau ac mae eraill yn ddigwyddiadau ble byddai’r enillwyr yn cymhwyso i Sir Ddinbych terfynol, gyda’r siawns i gynrychioli Sir Ddinbych yng Ngogledd Cymru a thu hwnt. Bydd pob tymor yn canolbwyntio ar chwaraeon penodol, gyda dyddiadau a lleoliadau yn cael eu trafod yng nghyfarfodydd Clwstwr Cynradd Sir Ddinbych.

Clybiau Chwaraeon Cymunedol

Ar draws Sir Ddinbych mae yna fwy na 200 o glybiau lleol, llawer yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i oedolion a/neu blant i gyfrannu at chwaraeon. Os hoffech wybodaeth am glwb yn eich ardal chi, yn ystyried cymryd rhan mewn chwaraeon penodol, neu yr hoffech fod yn fwy heini, yna cysylltwch â ni drwy’r dudalen Cysylltu â ni.  Mae’r tîm Cymunedau Egnïol yn gweithio’n agos gyda llawer o glybiau lleol a bydd yn gallu darparu mwy o wybodaeth a manylion cyswllt.

Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu