Iechyd Cymunedol

Llwybr Chwaraeon
Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff

Beth yw Llwybr Chwaraeon Anableddau Iechyd ChAC?

Mae Llwybr Chwaraeon Anableddau Iechyd ChAC wedi cael ei ffurfio o gydbartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chwaraeon Anabledd Cymru (ChAC), ac yn cael ei gefnogi trwy gyllid gan Alwadau i Weithredu Chwaraeon Cymru.

Cafodd y Llwybr ei chreu mewn ymateb i ddiffyg cyfathrebu rhwng iechyd a chwaraeon. Roedd deddfwriaeth diogelu data ynghyd ag anweledigrwydd traddodiadol y gymuned anabl, yn ei gwneud yn anodd i Chwaraeon Anabledd Cymru a’r rhwydwaith chwaraeon dargedu pobl anabl ar draws Gogledd Cymru, ac eu gwneud yn ymwybodol o’r cyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Cymerir yn ganiataol bod holl bobl anabl yn cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd ar rhyw gyfnod yn eu bywydau, ac felly trwy’r bartneriaeth hon, gellir tynnu’r rhwystrau i gael y neges i bobl anabl. Gallwn hefyd weithio tuag at gynyddu lefelau cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon, a all arwain at bobl yn cyflawni statws iechyd gwell a lleihau’r angen ar gyfer defnyddio gwasanaethau iechyd.

Sut mae’r Llwybr yn gweithio?

Bwriad y bartneriaeth yw cynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a chysondeb rhwng y sector iechyd a’r Rhwydwaith Chwaraeon Anabledd yng Ngogledd Cymru. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy rhaglen gynlluniedig o addysgu ac uwchsgilio gweithwyr proffesiynol yn y dau faes. Ei nod yw trawsnewid y ffordd mae staff y sector iechyd yn mynd i’r afael â gofal iechyd a gweithio tuag at ddiwylliant o hybu iechyd, lle anogir ymarfer corff a chyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol fel rhan o arferion craidd pawb.

Sut ydw i’n cael mynediad i’r Llwybr?

Bydd aelodau o staff o fewn y sector iechyd e.e. ffisiotherapydd neu baediatregydd yn trafod y prosiect gyda’u claf ac os bydd gan y claf ddiddordeb mewn cyfrannu at chwaraeon, bydd yr aelod o staff yn llenwi ffurflen arwyddbostio ac yn cyfeirio’r claf at y tîm Cymunedau Egnïol.
Bydd y Swyddog Chwaraeon Anabledd lleol neu swyddog arall o fewn y tîm yn cysylltu â phawb sy’n cael ei atgyfeirio i drafod pa gyfleoedd cyfranogi sydd ar gael.

Bydd cyswllt cychwynnol dros y ffôn, ond gellir trefnu cyfarfodydd wyneb yn wyneb fel camau dilynol.

Hyd yma, rydym wedi gweithio gyda chwsmeriaid sydd wedi cymryd rhan mewn ystod o wahanol chwaraeon gan gynnwys pêl-fasged mewn cadair olwyn ac ymuno â’r gampfa yn ein Canolfannau Hamdden. Mae’r Llwybr yn agored i bob ystod oedran.

Os hoffech dderbyn unrhyw wybodaeth bellach, gallwch gysylltu â Brett Jones, Swyddog Chwaraeon Anabledd drwy ein tudalen gyswllt.

Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff

Mae’r cynllun atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff yn rhan o gynllun atgyfeirio cenedlaethol wedi’i ariannu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i redeg mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Mae’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) wedi’i ddylunio ar gyfer oedolion anweithgar sydd naill ai mewn perygl o ddatblygu cyflwr iechyd cronig neu sydd eisoes yn dioddef o gyflwr meddygol o’r fath. Mae gweithwyr ymarfer corff proffesiynol NERS yn meddu ar gymwysterau ychwanegol a phrofiad helaeth sy’n caniatáu iddyn nhw helpu cleientiaid gyda chyflyrau iechyd penodol i ymarfer yn ddiogel. https://www.wlga.wales/national-exercise-referral-scheme-ners

Cyflyrau Iechyd Cronig

Ymhlith y cymwysterau amrywiol sydd gan y gweithwyr ymarfer corff proffesiynol, maen nhw hefyd yn hyfforddwyr cymwysedig i gefnogi cleientiaid gyda chyflyrau iechyd cronig.

  • Hyfforddwyr Adsefydlu Cardiaidd BACPRHyfforddwyr Ymarfer Anadlol Cronig
  • Hyfforddwyr Cancr ac Ymarfer Corff
  • Hyfforddwyr Gordewdra a Rheoli Clefyd y Siwgr 
  • Hyfforddwyr Osgo ac Atal Codymau
  • Hyfforddwyr Gofal Cefn
  • Hyfforddwyr Strôc / cyflwr niwrolegol hirdymor

Am ragor o wybodaeth am y cynllun cysylltwch ag Alison Couch drwy’r dudalen gyswllt.


Ydw i’n gymwys?

Mae’r cynllun yn targedu cleientiaid 16 oed a hŷn sydd naill ai wedi neu mewn perygl o ddatblygu cyflwr iechyd cronig. Bydd yn rhaid i chi fodloni cyfres o feini prawf penodol, a bydd eich gweithiwr iechyd yn gwirio hynny. Cyn dechrau’r cynllun byddwch yn cael eich asesu gan hyfforddwr cymwys i wneud yn siŵr eich bod chi’n gymwys, yn ddiogel ac yn bodloni’r meini prawf. Mae hyn hefyd yn gyfle gwych i gymryd mesuriadau ac annog cleientiaid i bennu nodau realistig a chyraeddadwy; mae hyn yn bwysig gan fod sesiynau cleientiaid wedi’u strwythuro o amgylch y nodau hyn.

Beth yw hyd y cynllun?

Gall y cynllun bara rhwng 4 a 32 wythnos, yn dibynnu ar y rheswm dros atgyfeirio. Bydd amseroedd y sesiynau yn dibynnu ar lefelau ffitrwydd y client, ond fel rheol ni fydden nhw’n para mwy nag awr. Mae gennym ni wahanol sesiynau ar gael yn dibynnu ar y safle, yn cynnwys: ymarfer corff yn y gampfa, ymarfer cylchol ysgafn, ymarfer cylchol ar eich eistedd, dosbarthiadau cydbwysedd, sesiynau ymarfer yn yr awyr agored (rhai yn rhad ac am ddim), Tai Chi a sesiynau yn y pwll. Bydd gofyn i chi ddod i’r sesiynau yn rheolaidd a mynd i ymgynghoriadau dilynol ar ôl 16 wythnos a 52 wythnos.

Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu