TOCYN DIWRNOD AM DDIM AM AMSER CYFYNGEDIG YN UNIG!
Rhowch gynnig ar unrhyw un o’n 8 safle hamdden cyn i chi ymuno a phrofwch gyfleusterau gwych a chyfarpar modern gan dderbyn cefnogaeth gan staff gwybodus a phrofiadol.
Ydi’n well gennych chi hyfforddi mewn grwpiau? Rhowch gynnig ar un o’n dosbarthiadau ysgogol gyda thocyn dosbarth am ddim!
Dyma’ch amser i gysylltu
gyda ni, gydag aelodau eraill a gyda’n technoleg!
Mae Peiriannau Asesiad Tanita Body ar gael yn ein safleoedd a gall pob aelod o Hamdden Sir Ddinbych gael gafael ar ap Technogym MyWellness.


Ein Haelodau Ysbrydoledig
Llongyfarchiadau i bob un o’n haelodau a symudodd ym mis Mawrth ac sydd bellach yn falch o fod yn cynrychioli Hamdden Sir Ddinbych. Gyda chefnogaeth gan staff ymroddedig a’r dechnoleg ddiweddaraf, mae nodau’n cael eu cyrraedd a hyder yn cynyddu.
Efallai mai fel ‘ma y byddwch chi fis nesaf!


