TOCYN 1 DIWRNOD AM DDIM
Os nad ydych wedi dechrau eich taith ffitrwydd eto, yna efallai ein PASS 1 DIWRNOD fydd yr union beth sydd ei angen arnoch i roi hwb i’ch hunain. Rhowch gynnig ar unrhyw un o’n 8 safle Hamdden cyn i chi ymuno a phrofwch y cyfleusterau gwych gyda’r offer diweddaraf a gefnogir gan staff gwybodus a phrofiadol.
Ein Haelodau Ysbrydoledig
Rydym yn falch bod yr aelodau yma yn mwynhau defnyddio a manteisio ar y cyfleusterau gwych yn Hamdden Sir Ddinbych. Gyda chefnogaeth staff ymroddedig a’r dechnoleg ddiweddaraf, mae nodau’n cael eu cyflawni ac mae hyder yn cael ei adeiladu. Olrhain a chyflawni eich nodau.



Eich Cael Chi ar y Trywydd iawn
Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw technoleg fodern i’ch helpu i osod eich nodau ond yn bwysicach fyth, eich cadw’n llawn cymhelliant ac ar y trywydd iawn i’w cyflawni.
Mae ein safleoedd yn falch o gynnig Peiriannau Asesu Corff Tanita a gall holl aelodau Hamdden Sir Ddinbych gael mynediad i ap Technogym MyWellness.

