Beicio Grŵp Xtreme

Yn dod i Lanelwy a Chanolfan Hamdden y Rhyl, bydd Beicio Grŵp Xtreme yn sicrhau profiad beicio dan do a fydd yn mynd i lefel arall.

Gallwch ddisgwyl sgrin fawr, cerddoriaeth a hyfforddwyr sy’n ysbrydoli ynghyd â chysylltedd Mywellness a thracio i sicrhau y byddwch yn ymgolli’n llwyr yn y profiad.

JOIN ONLINE
MORE INFO

Cofrestrwch ar ein gwefan – Defnyddiwch y cod: DLLMTC wrth dalu i gael y cynnig unigryw hwn!

MAE 3 DOSBARTH BEICIO GRŴP GWAHANOL I DDEWIS OHONYNT

Efallai yr hoffech ddilyn trywydd eich sesiwn ymarfer, mesur eich allbwn a gwirio eich perfformiad, neu efallai yr hoffech gael eich ysbrydoli gan gerddoriaeth wych a fideos ysbrydoledig. Beth bynnag rydych ei angen neu beth bynnag fo’ch hwyliau mae gennym ni sesiwn ymarfer sy’n addas.

Y COPA
Traciwch eich perfformiad drwy gysylltu’n llawn. Traciwch eich pŵer, cyfradd y galon, rhythm a llawer mwy. Os hoffech brofi canlyniadau, cewch hynny yma!
CURIAD RHYDD
Gyda’r gerddoriaeth fywiog a lluniau pwerus, fe fyddwch yn beicio i guriad y gerddoriaeth gan anghofio’ch bod yn ymarfer corff.
RHITHIOL
Gyda hyfforddwr rhithiol yn arwain mae’r dosbarth hwn yn cyfuno adborth ar berfformiad ac elfennau rhydd.

LLE GALLWCH BROFI BEICIO GRŴP XTREME

Llanelwy

Canolfan Hamdden y Rhyl

Er mwyn cael mynediad i’n holl ddosbarthiadau Beicio Grŵp Xtreme YMUNWCH YMA neu defnyddiwch y ffurflen isod i gysylltu â ni am fwy o fanylion.

    Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

    Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

    Rhagor o wybodaeth

    Gadewch i ni gymdeithasu