🥇 Ewch amdani gyda DLL yr haf hwn! 🥇
🏋️Dathlwch Gemau Olympaidd 2024 efo ni!🏊
Ymunwch â ni yn DLL wrth i ni ddathlu Gemau Olympaidd 2024 – yr amser perffaith i ganolbwyntio ar iechyd a ffitrwydd! Mae gennym amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous wedi’u trefnu ar eich cyfer. Pa un a ydych yn frwd dros gadw’n ffit neu ddim ond eisiau cael hwyl a chadw’n actif, mae ‘na rywbeth i bawb.
🏅Cynnig Olympaidd!🏅
Dathlwch y Gemau Olympaidd gyda’n Cynnig Arbennig!
Haf o aelodaeth premiwm Hamdden Sir Ddinbych am ddim ond £20.24! Cewch fynd faint fynnoch chi i’n holl gampfeydd, dosbarthiadau ffitrwydd a’n pyllau nofio🏊
Peidiwch â cholli allan ar y cynnig hwn i arbed arian a blaenoriaethu eich iechyd a’ch ffitrwydd
*Telerau ac Amodau’n Berthnasol
Mae’r cynnig yn berthnasol i Aelodaeth Premiwm Oedolion, Premiwm Corfforaethol a Premiwm Myfyriwr.
Ymunwch â ni o 27 Gorffennaf tan Awst 11 am lu o gystadlaethau a heriau cyffrous i ddathlu Gemau Olympaidd 2024! Mwynhewch gystadlaethau pwysau a chardio ac amrywiaeth o sesiynau blasu wedi’u dylunio i hybu eich ffitrwydd a’ch mwynhad.
Pwy fydd y cyflymaf yn rhwyfo 1 cilomedr?
Allwch chi sgwatio % o bwysau eich corff?
Pwy fydd y cyflymaf yn nofio 1 cilomedr?
Bydd yna hefyd ddyddiau campfa agored am ddim ar gyfer pobl sydd ddim yn aelodau – felly cofiwch ddweud wrth ffrind!
Speak to your local site for more information. Remember, everyone is a winner! Our friendly team are here to help you adapt any challenge to suit your needs.
📸
Cofiwch ein tagio ni yn unrhyw ffotograffau ohonoch yn cymryd rhan ar Instagram, DLL_Clubs
📸
Cysylltwch â ni:
Telerau ac Amodau’n Berthnasol:
Mae’r cynnig yn berthnasol i:
- Aelodaeth Premiwm Oedolyn yn unig (16 oed a throsodd)
- Aelodaeth Premiwm Corfforaethol (GiG, yr Heddlu, Gwasanaeth Tân, y Fyddin, Llywodraeth Cymru, CSDd (angen prawf o gymhwysedd)
- Aelodaeth Premiwm Myfyriwr (16 -17 oed) a myfyrwyr consesiynol (angen prawf o gymhwysedd)
– Cynnig yn dechrau 26 Gorffennaf 2024 ac yn darfod ar 12 Awst 2024
– Mae’r cynnig ar gael yn unrhyw un o ganolfannau DLL
– Cynnig yn ddilys i aelodaeu newydd yn unig
– Bydd £20.24 yn cael ei gymryd ar y diwrnod ymuno.
– Mae dyddiadau’r taliadau nesaf fel a ganlyn ar gyfer pob math o aelodaeth:
- Aelodaeth Premiwm Oedolyn yn unig (16 oed a throsodd) 1 Medi @£42
- Aelodaeth Premiwm Corfforaethol (GiG, yr Heddlu, Gwasanaeth Tân, y Fyddin, Llywodraeth Cymru, CSDd – 1 Medi @£37 cyn belled bod prawf o gymhwysedd wedi’i uwchlwytho o fewn pythefnos o ymaelodi – os nad oes tystiolaeth codir y swm aelodaeth premiwm safonol o £42.
- Aelodaeth Premiwm Myfyriwr (16-17 oed) a myfyriwr consesiynol – 1 Medi @£32 cyn belled bod tystiolaeth o gymhwysedd wedi’i uwchlwytho o fewn pythefnos o ymaelodi – os nad oes tystiolaeth codir y swm aelodaeth premiwm safonol o £42.
– Nid oes modd cyfnewid yr Aelodaeth Gemau Olympaidd am unrhyw gynnig arall
– Nid oes modd cyfnewid yr Aelodaeth Gemau Olympaidd am arian parod
– Bydd y cynnig Aelodaeth Gemau Olympaidd yn dychwelyd i’r pris llawn ar 1 Medi.
– 1 Medi yw’r unig ddyddiad y gellir ei ddewis a bydd yn mynd yn ôl i’r dyddiad hwn os dewisir y 15fed
– Mae’n rhaid i aelodau roi gwybod yn ysgrifenedig 10 diwrnod cyn 1 Medi os ydynt yn dymuno canslo eu haelodaeth – memberships@denbighshireleisure.co.uk
– gall aelodaeth gymryd hyd at 48 awr i ddod yn weithredol, cysylltwch â’ch safle hamdden agosaf i archebu dosbarthiadau
– Mwynhewch eich Cynnig Gemau Olympaidd!