Agorodd parc dŵr SC2 ei ddrysau dros y penwythnos i gannoedd o bobl allu fwynhau sesiynau blasu am ddim cyn yr ailagor swyddogol.

Gyda ond dyddiau ar ol cyn ailagor parc dŵr SC2 ar y 5ed o Orffennaf, roedd tîm DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf) yn SC2 wrth eu bodd yn croesawu cwsmeriaid yn ôl i’r parc dŵr, ac i weld y pwll yn llawn wynebau hapus unwaith eto!

Gwahoddodd DLL bobl leol i fwynhau ychydig oriau yn y parc dŵr am ddim fel ‘blas’ o’r hyn sydd i ddod yr haf hwn, ac fel diolch am eu cefnogaeth yn ystod yr amser y bu’r parc dŵr ar gau ar gyfer atgyweiriadau i’r to. Cafodd dros 600 o docynnau am ddim eu cipio ar-lein mewn llai na thri deg munud, ac roedd y sesiynau’n llwyddiant ysgubol, gyda thrigolion yn llifo i mewn i fwynhau’r cyfle i gael hwyl, a chreu rhai atgofion gyda ffrindiau a theulu. Roedd y digwyddiad am ddim hefyd yn cynnwys sesiwn yn benodol ar gyfer pobl ddigartref leol, i gefnogi’r elusen Helping Homeless North Wales.

Mae archebu ar-lein eisoes ar agor, ac mae’r tîm yn SC2 yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb ac yn barod i agor y drysau’r penwythnos hwn am haf llawn hwyl! Bydd disgownt teyrngarwch lleol gwych ar gael i drigolion lleol ei ddefnyddio ar ôl 4pm bob penwythnos a thrwy gydol gwyliau haf yr ysgol. Bydd arena Ninja TAG a Chwarae Meddal Antur thema dinosoriaid hefyd ar agor ochr yn ochr â chaffi Chwarae Antur gyda choffi Costa a hufen iâ Red Boat yn cael eu gweini ledled y safle.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Mae pawb yn DLL yn gyffrous iawn i gael y Parc Dŵr yn ôl ar waith, ac allwn ni ddim aros i ailagor ddydd Sadwrn! SC2 yw ein prif atyniad ac mae wedi bod yn gyfnod anodd i bawb yn DLL heb y parc dŵr. Roedd y digwyddiadau blasu i ddangos ein diolchgarwch i’r gymuned leol am eu cefnogaeth ac i roi cipolwg iddynt ar yr hwyl wych sydd o’u blaenau’r haf hwn, roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn mwynhau’r parc dŵr eto! Mae ein tîm yn SC2 yn gyffrous iawn i groesawu pawb yn ôl ac fel yr addawyd rydym yn fwy ac yn well nag o’r blaen! Fel bob amser, rydym am roi haf o hwyl ac atgofion hapus i ymwelwyr a thrigolion yn SC2, felly archebwch eich ymweliad heddiw – allwn ni ddim aros i’ch gweld chi!”

Bydd DLL yn cyhoeddi mwy o fanylion am ailagor y Pad Sblasio yn fuan. Am ragor o wybodaeth, ewch i http://www.sc2rhyl.co.uk neu ewch i dudalennau cymdeithasol SC2 am y diweddariadau diweddaraf.