Trawsnewidiwch eich ymarferion yng Nghlwb y Rhyl!
Gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf, fe fydd hwn yn brofiad ffitrwydd unigryw!

🌟 TOCYN GWESTAI AM DDIM 🌟
Dewch i brofi ffitrwydd mewn ffordd hollol newydd yng Nghlwb y Rhyl! Mae ein cyfleusterau o’r radd flaenaf yn cynnwys ardal hyfforddi gweithredol a chryfder, stiwdio 360 arloesol y cyntaf o’i math yng Nghymru, stiwdio Clwb Seiclo dynamig, ac ardal ymarfer awyr agored hyblyg. Ar ôl eich ymarfer, gallwch orffwys ac ymlacio yn ein bar arbennig i aelodau. Gyda mwy o fuddsoddiadau cyffrous ar y gweill, bydd Clwb y Rhyl yn trawsnewid eich ymarferion. Peidiwch ag oedi – dyma’r amser perffaith i ymuno â’r gymuned ffitrwydd orau erioed yng Nghlwb y Rhyl!
ARDAL HYFFORDDI GWEITHREDOL A CHRYFDER

Dewch i wella eich profiad ffitrwydd yn ein hardal hyfforddi gweithredol o’r radd flaenaf a luniwyd i ysbrydoli a grymuso pob ymarfer. Gydag ystod eang o blatfformau codi pwysau Olympaidd, peiriannau â phlatiau, ystod eang o ddymbelau a phwysau tegell, mae’r gofod hwn yn cynnig popeth sydd eu hangen arnoch i wthio eich ffiniau a chyflawni eich nodau. Lluniwyd y clwb yn ofalus er mwyn darparu cyfarpar hyfforddi ysgogol, sy’n addas ar gyfer bob lefel i ddatblygu cryfder, gwella technegau a chroesawu’r her o ffitrwydd gweithredol.
YSTAFELL GARDIO

Camwch i mewn i’r profiad cardio gorau erioed yng Nghlwb y Rhyl, lle gallwch fwynhau ymarferion egnïol gyda thechnoleg o’r radd flaenaf. Dyluniwyd ein cyfres Technogym Excite i’ch helpu i losgi calorïau, gwthio eich ffiniau, a datblygu eich ffitrwydd mewn ffordd hollol newydd. O redeg yn ddiderfyn i ddringo grisiau sy’n para am byth ac amrywiaeth ymarfer ddiddiwedd, mae popeth sydd ei angen arnoch yn yr ystafell gardio o’r radd flaenaf i’ch cymell, eich herio a sicrhau eich bod yn cyflawni eich nodau ffitrwydd. P’un a ydych yn ymarfer i wella eich dygnwch, cyflymder, neu’n chwilio am ffordd gyffrous i gadw’n heini, Clwb y Rhyl yw’r lle i fod.
BOX12 X DLL

🚨 BOX12 yng Nghlwb y Rhyl – y cyntaf yng Nghymru! 🚨
Mae Bocs 12 yn ofod ymarfer newydd sbon sy’n ddeinamig ac wedi’i ysbrydoli gan focsio. Bydd yn darparu sesiwn ymarfer dwyster uchel ac yn cyfuno hyfforddi gweithredol gyda’r holl gyffro o focsio! Darperir hyfforddiant o’r radd flaenaf drwy sgriniau digidol, mae pob ymarfer yn ddifyr, hawdd ei ddilyn ac yn llawn amrywiaeth.
STIWDIO X

Ewch â’ch ymarferion i’r cam nesaf yn Stiwdio X! P’un a ydych chi eisiau llosgi calorïau, magu nerth neu wthio’ch hun ymhellach, mae ein gofod ymarfer egnïol wedi’i ddylunio ar gyfer perfformio i’r eithaf. Cynhelir sesiynau agored a dosbarthiadau dan arweiniad arbenigwyr, felly mae digon o hyblygrwydd ichi hyfforddi fel y mynnwch. Byddwch yn barod i chwysu, herio’ch hun a chwalu drwy’r rhwystrau mewn gofod ymarfer HIIT o’r radd flaenaf – rydyn ni’n barod amdanoch chi!
STIWDIO 360

Stiwdio 360, y profiad 360 arloesol cyntaf o’i fath yng Nghymru yng Nghlwb y Rhyl! Mae’r stiwdio newydd hwn yn cynnig profiad heb ei ail o archwiliad gweledol ac antur. Byddwch yn barod i ymgolli yn y profiad arloesol hwn!
CLWB SEICLO

Beth am fynd â’ch sesiwn ymarfer corff i’r gêr nesaf gyda’r Clwb Seiclo! P’un a yw’n well gennych gael hyfforddwr byw yn eich cymell neu fanteisio ar yr hyblygrwydd o ddosbarthiadau ar-lein, rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau i gyd-fynd â’ch arddull a’ch amserlen chi. Gyda chyfarpar o’r radd flaenaf a rhestrau chwarae egnïol, dyluniwyd pob sesiwn i’ch herio, eich ysbrydoli, a’ch helpu i gyflawni eich nodau ffitrwydd.
AssistFit

Mae ein hystafell les newydd sbon, Assist Fit, yn cynnwys technoleg ymarfer gyda chymorth pŵer o’r radd flaenaf, gan roi help llaw ysgafn i chi yn ystod eich ymarfer corff. Wedi ei ddylunio’n benodol i oedolion hŷn, y rhai sy’n ceisio adsefydlu, ac unigolion sy’n rheoli cyflyrau iechyd hirdymor, mae’n cynnig ffordd ddiogel, gefnogol i wella symudedd, cryfder a lles yn gyffredinol – ar eich cyflymder eich hun.
RIG HYFFORDDIANT AWYR AGORED

Pan fydd yr haul yn tywynnu, does unman gwell i wthio eich ffiniau a mwynhau’r awyr iach. Gydag ystod eang o offer, gallwch dargedu pob grŵp cyhyrau i sicrhau eich bod yn ymarfer y corff llawn. P’un a ydych yn meistroli ymarferion corff neu’n defnyddio cyfarpar cryfder a chyflyru, lluniwyd y rig awyr agored i wella eich profiad ffitrwydd mewn amgylchedd dynamig a llawn ysbrydoliaeth.
PWLL NOFIO

Dewch i ymlacio a chadw’n heini yn ein pwll nofio 25 medr. Mae nofio’n ymarfer ysgafn i’r corff llawn sy’n gwella iechyd y galon, datblygu cryfder ac yn gwella hyblygrwydd. P’un a ydych yn awyddus i wella eich dygnwch, cael eich gwynt yn ôl atoch ar ôl sesiwn ddwys, neu oeri ac ymlacio, ein pwll nofio yw’r lle perffaith i wneud hyn.
BETH AM AIL-LENWI’R TANC YN EIN BAR ARBENNIG I AELODAU?
