FFURFLEN GAIS
Yma yn Hamdden Sir Ddinbych Cyf mae gennym 1 nod pwysig- darparu profiad cwsmer arbennig.
Credwn ein bod yn gwneud hyn, o’n stiwdios ffitrwydd a champfeydd o’r safon uchaf, i’n lleoliadau bwyd a diod arobryn. Rydym yn cynnig rhywbeth i bawb, ac mae gennym y tîm gorau o bobl yn cyflwyno hyn bob dydd.
Rydym yn gwerthfawrogi angerdd, uniondeb ac uchelgais, gan wneud yn siŵr bod gennym y bobl iawn, yn y lleoedd cywir, yn gwneud yr hyn y maent yn ei garu. Rydym yn gwobrwyo llwyddiant ac yn anelu at ysbrydoli, gan ddathlu pob cyflawniad ac unigolyn.
Mae’n bwysig iawn i ni fod ein staff yn gwneud rhywbeth y maent yn angerddol amdano. Rydym wrth ein bodd yn tyfu ein staff felly mae’n rhaid bod yn barod i fanteisio ar ein holl gyfleoedd hyfforddi. Nid oes angen i chi gael blynyddoedd o brofiad mae gennym fwy o ddiddordeb o ddod o hyd i bobl sy’n ffitio ein tîm. Rydym yn chwilio am bobl sy’n frwdfrydig, cyfeillgar ac sy’n rhannu ein dymuniad i sicrhau bod y cwsmer yn cael profiad arbennig.
Pob lwc gyda’ch cais!

Llenwch y ffurflen gais isod

*Yn golygu fod y maes yma angen ei lenwi, sicrhewch eich bod yn llenwi y meysydd hyn

    Diolch am eich cais i ymuno tîm DLL

    Beth sy’n digwydd nesa’?

    Bydd ein tîm yn adolygu eich cais ac yn dewis rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer cyfweliad. Os cewch eich gwahodd am gyfweliad byddwch yn derbyn e-bost gyda manylion llawn. Cofiwch gadw llygad ar eich mewnflwch a ffolderi sbam.

    Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn 3 wythnos, yn anffodus mae hyn yn golygu nad ydych wedi cael eich dewis ar gyfer cyfweliad y tro hwn.

    Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

    Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

    Rhagor o wybodaeth

    Gadewch i ni gymdeithasu