archebu gweithgaredd
Llysgenhadon Ifanc
Gwobrau Cymunedau Bywiog
Datblygiad clwb
ners
dros 60
cynllun cymunedol grant HSDDCYF

Pwy yw Cymunedau Bywiog?

Mae lles trigolion ac ymwelwyr Sir Ddinbych yn ganolog i waith ein tîm Cymunedau Bywiog.  Fel unigolion mae ganddynt gyfoeth o brofiad yn eu meysydd eu hunain, a gyda’i gilydd maent yn cyfuno eu sgiliau i gynnig rhaglen amrywiol o gyfleoedd hamdden cynhwysol o’r safon uchaf.  Mae ein rhaglen Cymunedau Gweithgar wedi cael ei ddylunio i ddenu lefelau uchel o gyfranogiad a gwella lles y rhai sy’n cymryd rhan.

Iechyd Cymunedol

Mae ein tîm o arbenigwyr Iechyd Cymunedol yn cynnig ystod eang o raglenni i gynorthwyo pobl sydd angen cymorth ychwanegol i ddod yn weithgar, gwella eu lles a chynnal eu hannibyniaeth. Mae’r rhaglenni yn cynnwys;

  • Cynllun Atgyfeirio Meddygon Teulu

  • Llwybr Chwaraeon Anableddau Iechyd ChAC

Darganfod mwy

Chwaraeon Cymunedol

Mae ein Rhaglenni Chwaraeon Cymunedol darparu dull wedi’i dargedu er mwyn cynyddu lefelau cyfranogi ac annog y gymuned gyfan i fod yn fwy egnïol. Gall fwynhau chwaraeon o fewn eich cymuned leol helpu i leihau arwahanrwydd cymdeithasol, cynyddu lles a sicrhau bod cymunedau yn cysylltu.

Gan gynnwys:

  • Clybiau Allgyrsiol

  • Dysgu Reidio Beic

  • Chwaraeon Cynhwysol

  • Datblygiad ac Ariannu Clwb 

Darganfod mwy

Gwobrau Cymunedol Sir Ddinbych

Bob blwyddyn, mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn cynnal Gwobrau Cymunedol Sir Ddinbych, dathliad o gyflawniadau chwaraeon, celfyddydau a’r gymuned ar gyfer unigolion, timoedd a chlybiau ar draws y sir. Mae’r enwebu’n digwydd ar-lein ac yna caiff rhestrau byr eu llunio ar gyfer y digwyddiad, sy’n cael ei gynnal bob hydref.

Darganfod mwy

Celfyddydau Cymunedol

Mae ein Rhaglenni Celfyddydau Cymunedol yn gweithio i hybu, cefnogi a datblygu gweithgareddau aml gelfyddyd (celfyddyd a chrefftau gweledol, dawns, drama, cerddoriaeth a ffilm) yn ein cymunedau ac yn rhoi cyfle i bawb gymryd rhan yn y celfyddydau beth bynnag yw eu profiad, oed neu gefndir. Trwy weithio gydag ystod eang o bartneriaid o sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector i grwpiau cymunedol ar draws meysydd iechyd a lles, addysg ac adfywio, mae’r gwaith yn mynd i’r afael â’r blaenoriaethau a nodir yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gan gynnwys:

  • Celfyddydau mewn Iechyd

  • Celfyddydau Cymunedol

  • Criw Celf

Darganfod mwy

Arweinyddiaeth Gymunedol

Bydd ein Rhaglenni Arweinyddiaeth Gymunedol yn sicrhau bod pobl yn cael y cyfleoedd, drwy wirfoddoli neu hyfforddi, i ddatblygu sgiliau a chyfrannu at weithgareddau yn eu cymuned.

Gan gynnwys:

  • Llysgenhadon Ifanc

  • Achrediad Arweinwyr Chwaraeon

  • Gwirfoddoli

  • Addysg Hyfforddi

Darganfod mwy
Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu