Atyniadau
SC2 Rhyl
TAG Ninja y Rhyl
Pafiliwn y Rhyl
Nova
Canolfan Bowlio Gogledd Cymru
Canolfan Grefft Rhuthun

Parc Dŵr SC2 y Rhyl

Mae gennym rywbeth at ddant pawb yn SC2, os ydych chi’n hoff o’r wefr, padlo neu eisiau rhoi eich traed i fyny ac ymlacio. Mae prif ardal y parc dŵr yn addas i bob oed a gallu, a gall plant archwilio a mwynhau’r dŵr wrth eu pwysau gyda dyfnder mwyaf posibl o 900mm.

Ewch i’r wefan
SC2 Logo

TAG Ninja Y Rhyl

Mae’r cwrs rhwystrau aml-lefel dan do gwych yma yn debyg i Total Wipeout a Ninja Warrior, ac mae’r cyfan yn un profiad cyffrous. Profwch eich sgiliau, ffitrwydd a dewrder wrth i chi ruthro trwy’r Môr o Raffau, rasio yn erbyn eich ffrindiau ar y Bibell Chwarter a cheisio taro bob targed ar y Wal Pry Cop. Gyda gemau ugain munud o hyd, 21 her, 4 lefel ac 80 targed – pwy fyddwch chi’n ei herio?

Ewch i’r wefan

Theatr Pafiliwn y Rhyl

Cafodd y theatr 1031 o seddi, a leolir ar lan y môr y Rhyl, ei chynllunio i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o berfformiadau o bob genre. Yn ogystal â chynyrchiadau mawr, mae Theatr y Pafiliwn wedi ymrwymo i hwyluso theatr a dawns yn y gymuned yn ogystal â chynyrchiadau ysgol lleol. Mae gan y Theatr ardal far gyfforddus i lawr y grisiau, ac i fyny grisiau, fe ymgorfforir naws gyfoes a modern bwyty a bar 1891, gyda golygfeydd godidog o arfordir Gogledd Cymru, ar draws i Eryri a thu hwnt.

Ewch i’r wefan

Nova Prestatyn

Nova yw un o atyniadau ymwelwyr dan do mwyaf Gogledd-ddwyrain Cymru ac mae’n cynnig amrywiaeth wych o weithgareddau i bob oed. Bydd ymwelwyr iau wrth eu bodd â’n man chwarae meddal antur dan do tri llawr ar thema môr-ladron a’n pwll nofio 4 lôn a’n pwll sblash. Pan ddaw’n amser gael rhywbeth i’w fwyta gallwch ddewis o’n bwydlen gwerth gwych yn y caffi Chwarae, gydag amrywiaeth o fargeinion, prydau i blant a’n ffatri hufen iâ nodedig neu am naws fwy ymlaciol, galwch draw i’n bwyty cwt traeth am olygfeydd godidog yn edrych dros arfordir Gogledd Cymru. Mae gennym hefyd ystafell ffitrwydd o’r radd flaenaf â 60 gorsaf a stiwdios/ystafelloedd digwyddiadau amlbwrpas ynghyd â Bar Nova ei hun, sy’n unigryw i aelodau fwynhau tamaid ysgafn i’w fwyta, smwddi protein neu goctel! P’un a ydych chi’n ymweld â Nova ar gyfer ffitrwydd, nofio, chwarae, partïon, dathliadau neu i fwynhau’r golygfeydd syfrdanol wrth ymlacio yn ein bwyty, mae gennym ni rywbeth i’r teulu cyfan ei fwynhau..

Ewch i’r wefan
CHWARAE ANTUR

Canolfan Bowlio Gogledd Cymru

Mae Canolfan Bowlio Gogledd Cymru yn ganolfan bowlio dan do gwyrdd a fflat sydd ag 8 llawr bowlio, o safon ryngwladol. Mae’n agored i aelodau a rhai nad ydynt yn aelodau, ac rydym yn croesawu unigolion, parau, grwpiau a phartïon sy’n ymweld. Mae’r ganolfan ar agor i’r rhai nad ydynt yn dymuno bowlio hefyd – galwch i mewn am goffi, archebu bwyd o fwydlen ein bwyty neu roi cynnig ar ein cinio dydd Sul gwych.

MWY O WYBODAETH

Canolfan Grefft Rhuthun

Canolfan Grefft Rhuthun yw’r Ganolfan ar gyfer Celfyddydau Cymhwysol, gyda thair oriel yn dangos y gorau o gelfyddydau cymhwysol cyfoes cenedlaethol a rhyngwladol, stiwdios gwneuthurwyr ar y safle, caffi ac oriel manwerthu ar agor yn ddyddiol. Caiff Canolfan Grefft Rhuthun ei hariannu gan refeniw Cyngor Celfyddydau Cymru.

Ewch i’r wefan

Ewch i un o’n gwefannau trwy ddefnyddio’r map i ddod o hyd i bob un:

Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu