Digwyddiad Nadoligaidd Am Ddim ar gyfer Troi Goleuadau’r Nadolig Ymlaen
Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL) a Chyngor Tref y Rhyl wrth eu bodd yn gwahodd y gymuned i gychwyn tymor yr ŵyl gyda digwyddiad Troi Goleuadau Nadolig y Rhyl ymlaen. Mae’r digwyddiad stryd am ddim yn addo prynhawn yn llawn hwyl yr ŵyl, adloniant teuluol, a seremoni goleuo cyffrous.

