Ynghylch Assist Fit
Ymarfer corff gyda chymorth pŵer
Oriau agor
Equipment
Sesiynau blasu am ddim
Ymunwch Ar-lein
Cysylltwch â ni

Ynghylch Assist Fit

Datblygwyd ein hystafell Assist Fit newydd i ddarparu amgylchedd diogel, cyffyrddus a chymdeithasol i bobl hŷn, pobl sydd â chyflyrau hirdymor a’r rhai sy’n teimlo’n bryderus am fynd i gampfa traddodiadol.
Mae HSDd wedi gweithio mewn partneriaeth â sefydliad o’r enw Innerva – yr unig wneuthurwyr offer ffitrwydd ‘Ymarfer corff gyda chymorth pŵer’ ar gyfer pobl hŷn (a phobl â chyflyrau hirdymor/adferiad arbenigol) (https://www.innerva.com/)
📍Hamdden Y Rhyl

Ymarfer corff gyda chymorth pŵer:

✅ Mae technoleg ymarfer corff gyda chymorth pŵer yn rhoi help llaw gyda sesiwn ymarfer cylchol ysgafn i’r corff cyfan
✅ Mae’n defnyddio systemau pŵer electronig i gychwyn a chynnal symudiad
✅ Ail-ymarfer patrymau cyhyrau
✅ Ysgogi’r cyhyrau

Mae grwpiau defnyddwyr arferol yn cynnwys:

  • Oedolion hŷn
  • Pobl â chyflyrau niwrolegol
  • Pobl â chyflyrau anadlol/cardio-pwlmonaidd
  • Pobl â phroblemau iechyd meddwl
  • Pobl sy’n aros am lawdriniaeth neu’n adfer wedi llawdriniaeth
  • Pobl sy’n byw â chyflyrau cyhyrysgerbydol
  • Pobl sy’n byw â chyflyrau Metabolig
  • Pobl sy’n byw â phoen, ffibromyalgia a blinder cronig

Oriau agor

Mae Assist Fit ar gael i’w ddefnyddio yn ystod oriau agor y ganolfan, ac mae gwahanol sesiynau ar gael i’w harchebu.
  • Sesiynau wedi’u goruchwylio – bydd Hyfforddwr Assist Fit yn bresennol yn y sesiynau hyn i gynnig mwy o gefnogaeth a chymorth i chi
  • Sesiynau heb oruchwyliaeth – ni fydd aelod o staff yn bresennol yn y sesiynau hyn yn yr ystafell Assist Fit
  • Sesiynau cyflwyno – mae’n rhaid i bawb sy’n awyddus i ddefnyddio Assist Fit gael sesiwn gyflwyno ar y safle â Hyfforddwr Assist Fit. Yn ystod sesiwn gyflwyno, byddwch yn cael gweld sut i ddefnyddio’r offer yn ddiogel, a thrafod a oes unrhyw resymau na ddylech ddefnyddio unrhyw offer.   Byddwch hefyd yn cael cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau. 

Mae’n bosibl y bydd adegau o’r diwrnod nad ydynt ar gael i’w harchebu, gan gynnwys sesiynau a gynhelir fel rhan o’n Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff.


Offer Assist Fit

Seiclo Croes – Ardaloedd a dargedir:  Breichiau, ysgwyddau, brest, bol, a’r pen ôl.

Gwella symudiad y coesau, ac ystwytho ac ymestyn y breichiau.  Bydd yr ymarfer hwn yn helpu i gryfhau’r cluniau a chyhyrau’r ysgwyddau ac yn gwella ffitrwydd aerobig.

Sedd Ddringo – Ardaloedd a dargedir:  Breichiau, ysgwyddau, meingefn, bol, canol a’r coesau

Peiriant cardio fasgwlaidd sy’n ymarfer y coesau a’r breichiau, ac yn helpu i siapio a chryfhau’r grwpiau mawr o gyhyrau yn rhan uchaf y cefn. Mae’r sedd ddringo hefyd yn helpu i wella osgo.

Brest a Choesau: Ardaloedd a dargedir:  Best, breichiau, ysgwyddau, meingefn, bol, canol, coesau a’r pen ôl

Helpu â phlygu ac ymestyn y breichiau a’r coesau  Drwy wthio i lawr ar y coesau, bydd cyhyrau’r cluniau a’r pen ôl yn cryfhau.  Bydd y weithred o rwyfo’r breichiau’n cryfhau’r cyhyrau yn y breichiau a’r ysgwyddau.

Codi Pwysau Drosodd o’ch Gorwedd – Ardaloedd a dargedir:  Brest, breichiau, ysgwyddau, meingefn, bol, canol a’r cluniau.

Mae codi pwysau drosodd o’ch gorwedd yn rhoi cyfuniad o ymestyn a chryfhau sy’n helpu i wella hyblygrwydd yr ysgwyddau a’r cluniau, ac yn cryfhau cyhyrau’r bol a’r cefn.

Dipiau cyhyr triphen a chyrlio’r coesau- Ardaloedd a dargedir:  Breichiau, ysgwyddau, cefn, bol, canol a blaen a chefn y cluniau

Peiriant amlbwrpas sy’n cyfuno gwahanol swyddogaethau i ymarfer gwahanol rannau o’r corff.  Mae’n cynnwys cyrlio’r breichiau ac ymestyn y cyhyr deuben er mwyn gweithio blaen y breichiau, a chyrlio yn ôl a gwthio i lawr gan ddefnyddio’r cyhyr triphen er mwyn gweithio cefn y breichiau.  Gellir hefyd codi pwysau tra’n sefyll neu’n gorwedd er mwyn cryfhau cyhyrau’r trapesiws a’r gwddf yn ogystal ag ymestyn y coesau i ddefnyddio cyhyrau pedryben a chyrlio’r coesau i ddefnyddio llinynnau’r garrau.

Peiriant Camu a Phlygu – Ardaloedd a dargedir: Breichiau, ysgwyddau, gwaelod y cefn, canol, cluniau mewnol ac allanol, coesau a’r bol

Ymarferion ar gyfer grwpiau mawr o gyhyrau, sy’n gweithio’r galon a’r ysgyfaint er mwyn helpu i godi lefelau egni a chynyddu’r cyflenwad ocsigen yn y celloedd.  Helpu i wella cydlyniant.

Troi’r Torso – Ardaloedd a dargedir:  Breichiau, ysgwyddau, cefn, bol, canol, cluniau mewnol ac allanol.

Helpu â hyblygrwydd y canol, cluniau a’r ysgwyddau.  Hyblygrwydd y torso yw un o’r elfennau cyntaf i ddirywio yn y broses o fynd yn hŷn.  Mae hyn yn digwydd yn gynt i bobl â newidiadau niwrolegol.  Mae dirywiad yn symudedd y canol yn arwain at ddirywiad yn symudiad y breichiau wrth gerdded, llai o gydbwysedd, poen cefn ac anystwythder.  Mae’r peiriant troi’r torso’n helpu i wrthdroi neu leihau’r newidiadau hyn.

Agor y Breichiau a’r Cluniau – Ardaloedd a dargedir:  Best, breichiau, canol, meingefn, cluniau mewnol ac allanol, coesau a’r bol.

Cryfhau’r cluniau mewnol ac allanol, helpu i gryfhau a siapio’r frest a’r ysgwyddau, a chynyddu symudedd yng nghymalau’r cluniau a’r ysgwyddau.   Mae rhan uchaf y corff yn agor y breichiau gan dargedu’r cyhyrau pectoral. Ar yr un pryd, bydd y coesau’n ymarfer y cyhyrau tyniadol a’r atynwyr i weithio’r cluniau mewnol ac allanol.

Gwasgu’r bol – Ardaloedd a dargedir:  Breichiau, canol, gwaelod y cefn, coesau, cluniau a’r pen ôl

Mae’r peiriant amlbwrpas hwn yn darparu ymarfer gwasgu’r bol ynghyd ag ymestyn y torso.  Tynhau’r bol, a gwarchod a chryfhau gwaelod y cefn.

Canllawiau Cyffredinol

Dillad – dillad llac, cyfforddus a hosanau, dim beltiau, jîns, festiau na sgarffiau. Dylid osgoi gwisgo dillad rhy lac megis cardiganau hir rhag ofn iddynt gael eu dal yn y peiriannau.  Nid oes rhaid i chi wisgo dillad campfa arbenigol.

Esgidiau – yn ddelfrydol, dylid gwisgo esgidiau glân, ni ddylid defnyddio’r gampfa’n droednoeth na gwisgo sandalau llac

Gemwaith – ni ddylai cleientiaid wisgo gemwaith a allai achosi niwed i’r peiriant neu i’r cleient e.e. breichledi neu gadwyni hir

Eiddo personol – gellir storio’r rhain yn yr ardal storio yn yr ystafell Assist fit

Ni ddylid bwyta nag yfed diodydd poeth yn yr ystafell Assist Fit, dim ond dŵr.


✨Sesiynau blasu AM DDIM ✨

I ddathlu, rydym yn cynnig sesiynau blasu AM DDIM – y cyfle perffaith i brofi’r ystafell hon gyda pheiriannau â chymorth pŵer yma yng Nghlwb y Rhyl!
✅Perffaith ar gyfer pobl hŷn, pobl sy’n adfer, neu bobl â chyflyrau iechyd hirdymor
✅ Sesiynau ymarfer corff llawn ysgafn 30-40 munud
✅ Offer cefnogol gydag arweiniad mewn gofod croesawgar
✅ Dewch i gwrdd â’n tîm cyfeillgar a gwybodus sydd yma i’ch helpu drwy bob cam o’r broses.
Dewch i weld sut y gall AssistFit eich helpu chi i symud yn well, ac i deimlo’n gryfach, ac i fyw yn iachach 
📞 Archebwch eich sesiwn am ddim rŵan: 01824 712661
 

Dewisiadau Aelodaeth

Dewis 1Dewis 2
Assist Fit a Nofio*Assist Fit Premiwm (Assist Fit, Campfa, Dosbarthiadau a Nofio)*
£35 Debyd Uniongyrchol
£30 Consesiwn
£385 Blwyddyn
£42
£37 Consesiwn
£462 Blwyddyn

Talu wrth fynd – £25 ffi cofrestru (aelodaeth achlysurol) £9 ar adegau prysur, £6.50 ar adegau tawel

 *£25 Ffi Ymuno

FAQ’s:

Beth yw Assist Fit?
Mae Assist Ffit yng Nghanolfan Hamdden y Rhyl.  88 Ffordd Grange, Y Rhyl, LL18 4BY
Pryd mae Assist Fit ar agor?
Mae Assist Fit ar agor i’w ddefnyddio yn ystod oriau agor y ganolfan, ac mae gwahanol sesiynau ar gael i’w harchebu.
Pwy fydd yn elwa o Assist Fit?
Mae Assist Fit yn addas ar gyfer pobl 16 oed a hŷn.  Mae’r offer yn gweithio drwy ymarferion ailadroddus isocinetig sy’n defnyddio’r prif grwpiau cyhyrau.   Mae’r symudiadau ysgafn wedi’u rheoli’n gwella symudedd a hyblygrwydd y corff yn ogystal â helpu i siapio’r corff.
Sawl sesiwn ddylwn i eu gwneud mewn wythnos?

I sicrhau’r canlyniadau gorau, argymhellir i chi wneud 3 sesiwn yr wythnos.

Beth yw hyd y sesiynau?

Bydd yn cymryd oddeutu 40 munud i gwblhau ymarfer cylch 9 darn gan gynnwys seibiant.

A oes rhaid i mi gael sesiwn gyflwyno?

Bydd aelod o dîm profiadol y gampfa yn cyflwyno’r offer i chi ac yn dangos sut i wneud defnydd effeithiol ohonynt.

Cysylltwch â ni:


    Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â activecommunities@denbighshireleisure.co.uk, neu ffoniwch Ganolfan Hamdden y Rhyl ar 01824 712661.

    Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

    Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

    Rhagor o wybodaeth

    Gadewch i ni gymdeithasu