Darparu cyfleoedd hamdden hygyrch, o safon uchel, sy’n denu lefelau cyfranogi uchel, a gwella lles trigolion ac ymwelwyr Sir Ddinbych

Hamdden Sir Ddinbych Cyf
Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn gwmni masnachol cyfyngedig drwy warant sy’n perthyn yn gyfan gwbl i’r Cyngor. Roedd y Gwasanaeth yn arfer bod yn rhan o Gyngor Sir Ddinbych, ond mae’r cwmni bellach yn weithredol, gyda’r holl staff Hamdden yn trosglwyddo i’r Cwmni o 1 Ebrill 2020 ymlaen.
Mae tîm Hamdden Sir Ddinbych yn dîm sefydledig, angerddol a llawn cymhelliant sydd â diwylliant o ddarparu gwasanaeth perfformiad uchel a rhagorol i gwsmeriaid. Mae ein llwyddiannau yn y gorffennol wedi ein harwain at ein sefyllfa bresennol, sef enw da am brofiadau gwych yn ein cyfleusterau i gyd a thîm o weithwyr caled sy’n ffynnu o ddarparu’r profiadau gorau posibl i gwsmeriaid.


Ein Gweledigaeth
Mae ein gweledigaeth a’n hamcanion fel cwmni yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd hamdden hygyrch o ansawdd uchel sy’n denu lefelau uchel o gyfranogiad ac yn gwella lles trigolion ac ymwelwyr Sir Ddinbych.
Mae Hamdden Sir Ddinbych yn darparu cynnig amrywiol i gwsmeriaid drwy’r sir o Ganolfan Hamdden Llangollen i Theatr Pafiliwn y Rhyl.
Ymhlith ein hasedau presennol mae; 7 Canolfan Hamdden, Atyniad i Ymwelwyr SC2, Bwyty a Bar 1891, Theatr Pafiliwn y Rhyl, Neuadd y Dref y Rhyl, Canolfan Bowls Gogledd Cymru, Nova, Canolfan Grefft Rhuthun a Chaffi R, Pafiliwn Llangollen. Rydym yn gweithredu rhaglen ail-fuddsoddi barhaus ym mhob un o’r safleoedd hyn i sicrhau ein bod yn cynnig y profiad gorau i’n cwsmeriaid.