ein-cymuned

Yn ardal Sir Ddinbych yn ehangach mae ein timau yn gweithio gyda rhwydwaith o gymunedau llai sy’n cynnwys cwsmeriaid, clybiau chwaraeon, grwpiau lleol a phreswylwyr. Mae’r cymunedau hyn yn greiddiol i bopeth rydym yn ei wneud.

Ein cwsmeriaid

Wrth ymweld â ni neu ymdrin â’n staff, rydym am i bawb gael y profiad gorau posibl, ac mae gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid yn un o’n prif flaenoriaethau. Rydym yn ymgysylltu gyda’n cwsmeriaid yn frwd drwy amryw o sianeli, gan rannu ein brwdfrydedd a’n hangerdd am bopeth rydym yn ei wneud. Rydym yn croesawu sylwadau cwsmeriaid, p’run ai a ydynt yn anffurfiol dros y cyfryngau cymdeithasol neu o ymatebion i arolygon a holiaduron. Pryd bynnag fo’n bosibl rydym yn mabwysiadu’r adborth hwn ac yn defnyddio’r wybodaeth i gynllunio neu wella’r gwasanaethau rydym yn eu darparu.

Cymunedau Gweithgar

Mae ein tîm Cymunedau Gweithgar yn chwarae rhan allweddol mewn hyrwyddo cyfranogiad mewn gweithgareddau i wella lles corfforol a meddyliol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi timau a chlybiau chwaraeon lleol, cydlynu prosiectau celfyddydol cymunedol a gweithio gyda’n hysgolion cynradd ac uwchradd i hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol.  

cymunedau gweithgar

“Roedd y staff a welais yn groesawgar a chyfeillgar, roedd ardal y gampfa’n gwbl lân ac roedd yr ardaloedd cylchrediad cyffredinol yn cael eu cynnal i safon uchel. I nifer sy’n defnyddio’r gwasanaethau, byddant yn mwynhau lefel o wasanaeth a brofir fel arfer yn y sector clwb preifat”.

Paul Cluett
Paul Cluett
Managing Director – Alliance Leisure
Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu