Lleoliadau Digwyddiad
Arena Ddigwyddiadau’r Rhyl
Neuadd y Dref y Rhyl
Pafiliwn Llangollen

Os ydych yn chwilio am rywle i gynnal digwyddiad, boed yn ddathliad, codi arian neu rywbeth cwbl unigryw, mae’r tîm yn Hamdden Sir Ddinbych yma i’ch helpu chi. Mae gennym ystod dda o leoliadau i’w cynnig ar draws y Sir, felly cysylltwch â ni am fanylion llawn. Yn ogystal â’r tri lleoliad digwyddiadau mawr isod, gallwch hefyd logi ein Bwyty 1891 ar lan y môr y Rhyl, Canolfan Fowlio Gogledd Cymru ac Ystafell Fwyta’r Goedwig Law yn SC2. Mae ein Canolfannau Hamdden hefyd yn cynnig llogi cyfleuster ar gyfer partïon pen-blwydd a digwyddiadau eraill.


Arena Ddigwyddiadau’r Rhyl

Lleolir ar East Parade ar y Promenâd, mae Arena Ddigwyddiadau’r Rhyl wedi bod yn leoliad i lawer o ddigwyddiadau cofiadwy dros y blynyddoedd, gan gynnwys Tom Jones, McFly, Madness ac UB40 ymysg eraill.

Mae yna le i oddeutu 8,000 yn yr arena awyr agored hon, a defnyddir ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau masnachol preifat gan gynnwys Sioe Awyr y Rhyl a Ras Am Fywyd.

Neuadd y Dref y Rhyl

Lleolir yn ganolog yng nghanol y Rhyl, mae Neuadd y Dref yn leoliad delfrydol ar gyfer unrhyw ddigwyddiad ac mae ar gael ar gyfer:

  • Llogi ar gyfer Partion a Dathliadau (gyda Bar Trwyddedig Llawn)
  • Seremonïau a Derbyniadau
  • Darlithoedd ac Arddangosfeydd
  • Cynadleddau a Seminarau

Mae gennym dîm ymroddedig ar y safle sy’n gallu eich helpu i gynllunio eich digwyddiad a byddant yn sicrhau fod popeth yn rhedeg mor llyfn â phosibl ar y diwrnod ei hun.

Mae neuadd y dref yn gwbl hygyrch a lleolir yn agos at holl gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gyda’r safle Tacsi wedi’i leoli y tu allan i Neuadd y Dref.

Mae Neuadd y Dref Y Rhyl ar gael i’w llogi saith diwrnod yr wythnos.

Pafiliwn Llangollen

Wedi’i leoli yng nghefn gwlad godidog Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Dyfrdwy, mae Llangollen yn leoliad Safle Treftadaeth Y Byd ysbrydoledig ar gyfer eich digwyddiad.

Agored ac yn llawn offer, mae Pafiliwn adnabyddus Llangollen yn cynnwys ystod eang o gyfleusterau ar gyfer pob math o ddigwyddiadau dan do ac awyr agored. Gellir archebu’r rhain yn unigol neu eu pacio gyda’i gilydd ar gyfer eich anghenion penodol.

Mae cyfleusterau yn cynnwys:-

  • Llwyfan ac arena dan do ar gyfer ffeiriau masnach, cyngherddau a digwyddiadau, delfrydol ar gyfer pob math o ddigwyddiad awyr agored, fel gwyliau, cyngherddau, sioeau masnach, ffeiriau crefftau a ralïau clwb.
  • Neuadd dan do ar gael gyda lle i hyd at 400 (mewn arddull theatr) neu 250 (mewn arddull cabaret) Perffaith ar gyfer cynadleddau, digwyddiadau gwobrau, lansio cynnyrch, sioeau masnach, ffeiriau crefft, cyngherddau, cyfarfodydd mawr a chiniawau
  • Amrywiaeth o ystafelloedd llawn offer ar gael ar gyfer cyfarfodydd o 4 i 80 o bobl ac mae taflunwyr, sgriniau, cyfleusterau tywyllu a WiFi am ddim ar gael.
  • Gellir addurno’r man derbynfa mawr i’ch gofynion
  • Cyfleusterau arlwyo a chaffi gydag offer da
  • Bar trwyddedig llawn
  • Maes parcio ar y safle ar gyfer hyd at 160 car

Ewch i un o’n gwefannau trwy ddefnyddio’r map i ddod o hyd i bob un:

Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu