ein pobl

Credwn fod ein staff yn elfen hanfodol o lwyddiant Hamdden Sir Ddinbych. Rydym yn gwerthfawrogi’r sgiliau a’r profiad y mae pob unigolyn yn eu dwyn i’w rôl ac er bod y cwmni’n cynnig ystod amrywiol o wasanaethau, mae gan bob un o’r timau yr un rhinweddau yn gyffredin – maent yn llawn angerdd a chymhelliant am eu gwaith, gyda diwylliant o berfformiad uchel ac enw da am wasanaeth cwsmer rhagorol.

Gan mai llawer o’n staff yw’r pwynt cyswllt cyntaf i gwsmeriaid ar draws y cwmni, rydym bob amser yn chwilio am y gweithwyr brwdfrydig, ffyddlon hynny. Yn gyfnewid, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein staff, ymgysylltu â nhw a’u helpu i ddod yn rhan o’n cwmni bywiog sy’n edrych i’r dyfodol. Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a dilyniant gyrfa, ac yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein staff yn hapus yn eu rolau dewisol.

Cefnogir y cwmni hefyd gan Fwrdd Cyfarwyddwyr deinamig sydd ag ystod eang o sgiliau gan gynnwys cefnogaeth gymunedol a chyfrifoldeb cymdeithasol, sydd i gyd yn cyfrannu at gryfderau’r cwmni.

Dydyn ni ddim yn dîm oherwydd ein bod yn gweithio gyda’n gilydd, rydyn ni’n dîm oherwydd ein bod ni’n parchu, yn ymddiried ac yn gofalu am ein gilydd.

“Deuthum yn wreiddiol i Hamdden Sir Ddinbych ar gontract tymor byr, rhan amser ond yn gyflym iawn roeddwn yn gwybod fy mod wedi dod o hyd i rywbeth eithaf unigryw ac arbennig. Felly, pan ddaeth swydd y Rheolwr Ariannol i fyny, neidiais ar y cyfle! Nawr, ar ôl bron i 6 mis yn fy swydd amser llawn, gallaf ddweud yn onest nad wyf erioed wedi gweithio gyda thîm mor ysbrydoledig ac rwyf mor gyffrous i fod yn rhan o ddyfodol anhygoel gyda Hamdden Sir Ddinbych.”
Helen Turner
Helen Turner
Rheolwr Ariannol yn Hamdden Sir Ddinbych Cyf
 “Fel PA i Jamie, ein Rheolwr Gyfarwyddwr, rwyf wedi bod yn hynod freintiedig i fod yn rhan o daith Hamdden Sir Ddinbych o’r cychwyn cyntaf, ac mae wedi bod yn brofiad cyffrous a boddhaus mewn gwirionedd. Wrth gwrs bu heriau ar hyd y ffordd, ond mae eu hwynebu wyneb yn wyneb a’u goresgyn wedi gwneud ein cyflawniadau hyd yn oed yn fwy boddhaol. Rwyf wedi bod wrth fy modd yn rhan o dîm Jamie, gyda’i weledigaeth, ei egni a’i frwdfrydedd dros bopeth hamdden, rwy’n teimlo’n ffodus fy mod yn gallu dweud fy mod yn edrych ymlaen at ddod i’r gwaith bob dydd.”
Marian Harvey
Marian Harvey
CP i RG yn Hamdden Sir Ddinbych Cyf

Dechreuwch eich gyrfa gyda Hamdden Sir Ddinbych heddiw.

Gyrfaoedd
“Rwyf wedi treulio 10 mlynedd olaf fy ngyrfa yn gweithio yn y sector preifat mewn rhai cwmnïau adnabyddus iawn, ond nid oes yr un o’r rhain yn cymharu â Hamdden Sir Ddinbych Cyf. Mae hwn yn wirioneddol yn gwmni arloesol a blaengar, gyda thîm sydd wastad yn brysur. Mae’r penderfyniad a’r gefnogaeth a roddwyd gan Jamie ein Rheolwr Gyfarwyddwr yn ysbrydoledig ac yn ddigyffelyb mewn unrhyw le rydw i erioed wedi gweithio ynddo. Rwy’n gwybod fy mod i wedi dod o hyd i rywbeth arbennig yn Hamdden Sir Ddinbych Cyf, rwyf mor falch o fod yn rhan ohono ac ni allaf aros i weld beth ddaw yn ystod y 10 mlynedd nesaf!”
Angie Platt
Angie Platt
Rheolwr Marchnata Hamdden Sir Ddinbych Cyf
Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu