Byddwch yn barod i deimlo’r curiad wrth i Noson Northern Soul ddychwelyd i 1891 Y Rhyl
-
Lleoliad: Bwyty a Bar 1891, Theatr Pafiliwn y Rhyl
-
Dyddiad: Dydd Sadwrn 12fed Medi
-
Amser: Bar a Bwyty ar agor o 4.30pm, Cerddoriaeth o 8pm
-
Cadw bwrdd: 1891rhyl.com/reservations
-
Prynu tocynnau yma: Northern Soul & Modern Soul – Rhyl Pavilion neu fel arall, archebwch fwrdd a chael MYNEDIAD AM DDIM. Mae angen blaendal o £10 y pen, na ellir ei ad-dalu, i archebu bwrdd, a fydd yn cael ei dynnu o’ch prif gwrs wrth fwyta yn 1891 ar noson y digwyddiad.
SC2 Y Rhyl yn cadw ei Wobr Aur am Ragoriaeth gan Croeso Cymru
Mae SC2, atyniad twristiaeth enwog HSDd, wedi llwyddo i gadw ei Wobr Aur anrhydeddus gan Croeso Cymru, yn gydnabyddiaeth am ei safonau uchel fel Atyniad Ymwelwyr â Sicrwydd Ansawdd.
Wedi’i leoli ar bromenâd y Rhyl, mae SC2 yn denu dros 10,000 o ymwelwyr yr wythnos i’r Rhyl yn ystod yr haf, ac mae’n un o brif atyniadau twristiaeth gogledd Cymru.
Yn dilyn Asesiad o Atyniadau Ymwelwyr trylwyr gan Croeso Cymru, dyfernir y Wobr Aur i atyniadau sydd yn cyflawni rhagoriaeth am eu cyfleusterau a gwasanaethau i gwsmeriaid. Mae’r asesiad manwl yn edrych ar daith y cwsmer o’ch dechrau i’r diwedd, ac yn yr adroddiad, fe nodir fod yna nodweddion ardderchog i ymwelwyr o bob oed, ac fe ganmolir SC2 am ei daclusrwydd perffaith a lefelau uchel o lendid.
Mae yna rywbeth i’r teulu cyfan yn SC2, gyda pharc dŵr a reidiau cafn syfrdanol, Pad Sblasio yn yr awyr agored ar gyfer diwrnodau cynnes yr haf, Ninja Tag, cwrs rhwystrau aml lefel cyffrous a Chwarae Antur, ardal chwarae â thema dinosoriaid i ymwelwyr iau. Mae Bwyty’r Goedwig Law a’r Teras awyr agored yn llefydd perffaith i’r teulu gael rhywbeth i fwyta ar ôl eu hanturiaethau.
Meddai Chelsea Bond, tîm Sicrhau Safon Croeso Cymru: “Llongyfarchiadau ar gyflawni Safon Atyniad â Sicrwydd a’r Wobr Aur unwaith eto eleni”.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd, “Mae’r wobr yma’n cydnabod y cynnig gwych yr ydym yn ei ddarparu yn SC2. Mae ein tîm yn gweithio’n arbennig o galed ac yn ymfalchïo yn y ffaith fod cwsmeriaid yn derbyn y profiadau gorau posibl pan maen nhw’n ymweld â ni. Mae’r asesiad gan Croeso Cymru yn cael ei gynnal ar ffurf ymwelydd cudd, felly mae hi’n amhosibl i ni flaen gynllunio. Rydym yn falch ein bod wedi cael marciau llawn mewn sawl rhan o’r asesiad ac yn dilyn y wobr, rydym yn hyderus ein bod yn darparu gwasanaeth o safon euraidd i’n cwsmeriaid o ddydd i ddydd. Mae’n anrhydedd ein bod wedi llwyddo i gadw’r wobr unwaith eto, ac rydym yn edrych ymlaen at greu hyd yn oed mwy o atgofion gwych dros yr haf i’n hymwelwyr.”
DLL i gynnal Diwrnod Agored Ffitrwydd Cymunedol AM DDIM yng Nghlwb Nova, Prestatyn
DLL yn cefnogi RNLI gyda digwyddiad BeachROX hynod lwyddiannus, cyntaf erioed
Prosiect celfyddydau cymunedol arloesol yn darparu manteision cymdeithasol ac economaidd sylweddol ar draws Conwy a Sir Ddinbych






Cyhoeddi cast llawn pantomeim ysblennydd Aladdin Theatr Pafiliwn y Rhyl y Nadolig hwn




DLL yn dod â haf o nosweithiau DJ i 1891 Y Rhyl
Ni fydd y curiad yn stopio ar Deras 1891 yr haf hwn, wrth i DLL lansio mis cyfan o nosweithiau DJ gwych, i gyd yn hollol RHAD AC AM DDIM.
Dewch i ddawnsio i’r trac sain orau, wrth i DJ preswyl 1891 gymysgu’r holl ganeuon poblogaidd, ffefrynnau clasurol ac anthemau llawr dawns. O 4pm tan 9pm, ar ddydd Sadwrn 8fed Awst, dydd Gwener 14eg Awst, dydd Gwener 28ain Awst a dydd Sadwrn 29ain Awst.
I gadw eich lefelau egni yn uchel, beth am edrych ar fwydlen flasus y Teras neu fwynhau cynigion bwyd gwych 1891 – pitsa wedi’i bobi ar garreg gyda photel o prosecco neu jwg 4 peint am ddim ond £25*! Neu ymlaciwch a mwynhewch y machlud haul gyda 2 goctel o’n dewislen Spritz Hafaidd am ddim ond £14*!
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL “Gyda golygfeydd godidog, bwyd gwych a cherddoriaeth wych, bydd DLL yn dathlu’r gwyliau haf ar Deras 1891! Rydym wrth ein bodd yn gweld pobl lleol ac ymwelwyr yn mwynhau’r nosweithiau gorau gyda ni, ac rydym am i bawb ddod draw, ymuno â ni ar y llawr dawnsio a mwynhau’r awyrgylch trydanol na all ond 1891 ei ddarparu. Rydym wrth ein bodd yn dod â’r digwyddiadau haf hyn i chi am ddim, felly gwisgwch eich esgidiau dawnsio a byddwn yn eich gweld chi yn 1891!”
Mae mynediad am ddim ac nid oes angen archebu. *Am delerau ac amodau’r cynnig gweler gwefan DLL
Hamdden Sir Ddinbych yn cefnogi dros 130 o ddigwyddiadau hwyliog am ddim ar hyd a lled Sir Ddinbych dros yr haf
Mae Hamdden Sir Ddinbych a’i bartneriaid yn dod â dros 130 o ddigwyddiadau lles am ddim i Sir Ddinbych ar gyfer plant a phobl ifanc dros yr haf.
Bydd y sesiynau am ddim yn cynnwys gweithgareddau ar y traeth, pêl-droed merched, sesiynau chwarae, digwyddiadau ieuenctid a diwrnodau o hwyl i’r teulu, ac maen nhw wedi’u creu i gynnig rhaglen o ddigwyddiadau am ddim i deuluoedd mewn amgylchedd hwyliog, diogel a chroesawgar. Gan gydweithio â nifer o sefydliadau partner, bydd tîm Chwaraeon Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych yn cefnogi’r sesiynau hwyliog hyn mewn cymunedau ar hyd a lled y sir.
Bydd digwyddiadau’r gogledd yn cynnwys diwrnodau ar y traeth, sesiynau chwarae, sesiynau pêl-droed merched a llawer mwy, ac ymhellach i’r de, bydd y sesiynau’n cynnwys pêl-droed mynediad agored, diwrnodau o hwyl i’r teulu a Diwrnodau Chwarae Cenedlaethol. Gyda chyllid o Gronfa Gymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, ac mewn cydweithrediad â Gwasanaethau Ieuenctid CSDd, bydd digwyddiadau ‘Miri Mawr yr Haf’ i bobl ifanc dros 11 oed hefyd yn cael eu cynnal mewn nifer o gymunedau.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Gyda chwe wythnos o wyliau’r haf o’n blaenau, mae pawb yn gwybod y gall diddanu plant a phobl ifanc fod yn waith drud braidd. Mae Tîm Chwaraeon Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio gyda nifer o sefydliadau partner i lunio rhaglen wych o weithgareddau lles mewn cymunedau ar hyd a lled Sir Ddinbych, a’r rheiny i gyd YN RHAD AC AM DDIM. Mae yna ddigon o ddewis ar gael, gyda rhywbeth i ddiddanu pawb ac i gadw hyd yn oed y plantos mwyaf egnïol yn brysur! Felly p’un a ydych chi yn Llangollen neu ym Mhrestatyn, cofiwch ddod draw i gymryd rhan mewn cymaint o’r digwyddiadau ag y gallwch chi!”
Mae’r manylion llawn i’w gweld ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol, ac i gael gwybodaeth ewch draw i’n gwefan https://denbighshireleisure.co.uk/ac-2026/
Assist Fit yng Nghlwb Rhyl wedi newid bywydau medd aelodau
Chwilio newyddion
Newyddion Diweddar
- HSDd yn cyhoeddi partneriaeth gyfryngau swyddogol gyda ‘Heart North and Mid Wales’ 26 Awst 2026
- Byddwch yn barod i deimlo’r curiad wrth i Noson Northern Soul ddychwelyd i 1891 Y Rhyl 25 Awst 2026
- SC2 Y Rhyl yn cadw ei Wobr Aur am Ragoriaeth gan Croeso Cymru 24 Awst 2026
- DLL i gynnal Diwrnod Agored Ffitrwydd Cymunedol AM DDIM yng Nghlwb Nova, Prestatyn 20 Awst 2026
- DLL yn cefnogi RNLI gyda digwyddiad BeachROX hynod lwyddiannus, cyntaf erioed 19 Awst 2026
