Hamdden Sir Ddinbych Cyf a Hope House Tŷ Gobaith yn Cydweithio mewn Partneriaeth Gymunedol
Mae’r busnes hamdden a lletygarwch lleol, Hamdden Sir Ddinbych Cyf wedi cyhoeddi partneriaeth newydd gyda Hosbisau Plant Hope House Tŷ Gobaith, i gefnogi gwaith hanfodol yr elusen ar draws gogledd Cymru a helpu i greu mwy o eiliadau arbennig i blant a theuluoedd sy’n wynebu cyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd.
Menter newydd gan Hamdden Sir Ddinbych yw dewis ‘Elusen y Flwyddyn’ ac mae’r tîm yn gyffrous o rannu mai Hope House Tŷ Gobaith yw’r dewis ar gyfer 2026-27. Bydd Hamdden Sir Ddinbych yn cefnogi mentrau codi arian yr elusen wrth ddefnyddio ei leoliadau, digwyddiadau a phlatfformau i helpu i amlygu’r gwaith anhygoel mae’r elusen yn ei wneud.
Mae elusen Hosbisau Plant Hope House Tŷ Gobaith yn rhoi mynediad i bob plentyn lleol â chyflwr sy’n cyfyngu ar fywyd, a’u teuluoedd, at ofal proffesiynol ac mae’n gwella ansawdd eu bywyd o’r adeg pan gânt ddiagnosis.
Bydd y bartneriaeth newydd hon yn gweld Hamdden Sir Ddinbych yn gweithio’n agos gyda’r elusen plant trwy gydol y flwyddyn, gan gyfuno gweithgareddau codi arian, gweithgareddau i’r teulu, digwyddiadau, ymgysylltiad staff a mentrau cymunedol i godi ymwybyddiaeth ac arian hanfodol i’r elusen. Bydd y bartneriaeth yn cynnig cyfleoedd i deuluoedd fwynhau profiadau cofiadwy hefyd, a bydd gwobrau a gweithgareddau seibiant ar gael.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd Cyf: “Rydym yn hynod o falch o fod yn gweithio gyda Hope House Tŷ Gobaith ac o gael cyfle i gefnogi’r gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud i blant a theuluoedd ar draws gogledd Cymru. I ni, mae’r bartneriaeth hon yn gyfle i godi ymwybyddiaeth, codi arian a chreu eiliadau arbennig, gan ddod â’n cydweithwyr, ein cwsmeriaid a’r gymuned ehangach at ei gilydd, a helpu mwy o bobl i ddeall y gefnogaeth anhygoel mae’r elusen hon yn ei darparu. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda thîm Hope House Tŷ Gobaith i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd hyn dros y flwyddyn i ddod. Trwy godi arian, rhannu profiadau a digwyddiadau cymunedol, mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf a Tŷ Gobaith yn gobeithio gwneud gwahaniaeth ystyrlon – helpu i greu mwy o eiliadau arbennig sy’n bwysig i blant a theuluoedd pan fo eu hangen fwyaf.”
Mae elusen Hosbisau Plant Hope House Tŷ Gobaith yn rhoi mynediad i bob plentyn lleol â chyflwr sy’n cyfyngu ar fywyd, a’u teuluoedd, at ofal proffesiynol ac mae’n gwella ansawdd eu bywyd o’r adeg pan gânt ddiagnosis.
I ddathlu lansiad Elusen y Flwyddyn HSDd Cyf, mae’r cwmni yn goleuo eu hatyniadau yn lliwiau logo’r elusen. Bydd SC2 y Rhyl, y Tŵr Awyr, Theatr Pafiliwn y Rhyl ac 1891, yn ogystal â Chanolfan Grefft Rhuthun, i gyd yn cael eu goleuo yn las, melyn, gwyrdd a phinc o 19 – 23 Hydref.
Dywedodd llefarydd ar ran Hosbisau Plant Hope House Tŷ Gobaith: “Rydym wrth ein boddau bod Hamdden Sir Ddinbych Cyf wedi dewis Hope House Tŷ Gobaith fel Elusen y Flwyddyn. Bydd eu hymrwymiad i gefnogi ein hymgyrchoedd a chreu profiadau arbennig i blant a theuluoedd lleol yn gwneud gwir wahaniaeth. Rydym mor gyffrous i gydweithio ac rydym yn hynod o ddiolchgar am eu cefnogaeth.”
Bydd y bartneriaeth yn creu cyfleoedd i weithio gyda chwsmeriaid, cyflenwyr a budd-ddeiliaid Hamdden Sir Ddinbych Cyf hefyd, gan annog y gymuned fusnes ehangach i gymryd rhan a helpu i godi ymwybyddiaeth a chodi arian ar gyfer Tŷ Gobaith.
