Hwyl ‘ysbrydol’ wedi’i gynllunio ar gyfer gwyliau hanner tymor yn atyniadau DLL
Mae gwyliau ysgol yn gyfle perffaith i dreulio amser gwych gyda theulu a ffrindiau. P’un a ydych chi am losgi egni, cystadlu, neu ganu ynghyd mewn sioe, mae gan DLL bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer hanner tymor mis Hydref.
Mae gan atyniad gwych SC2 yn y Rhyl rywbeth i bob oedran y gwyliau hyn, gyda sesiynau hwyliog yn y Parc Dŵr, Ninja TAG a’r Ardal Chwarae Antur – gallwch sblasio, neidio a chwarae, a hynny i gyd gydag naws ‘ysbrydol’ Calan Gaeaf. Gall oedolion a phlant ymuno yn yr hwyl gyda’i gilydd yng nghanolfan hamdden hynod boblogaidd DLL ym Mhrestatyn, lle bydd sesiynau IGames a Clip n’ Climb â thema Calan Gaeaf yn cael eu cynnal trwy gydol y gwyliau. Yn Nova, Prestatyn, gallwch gyfnewid amser sgrin am amser chwarae yn ein hardal Chwarae Antur â thema môr-ladron. Gyda rhaffau, sleidiau a pheli, gall y rhai bach aros yn egnïol ac yn hapus, tra bod yr oedolion yn ymlacio ac yn adnewyddu eu hegni yn y ‘Caffi Chwarae’.
Os ydych chi’n chwilio am ychydig o hud yr hanner tymor hwn, ymunwch â ni yn Theatr y Pafiliwn yn y Rhyl ar gyfer Unicorn Live! Mae’r sioe yn cynnwys eich hoff ganeuon pop a chaneuon o sioeau cerdd, gwisgoedd disglair, ac uncorn go iawn o’r enw Sparkle. Mae’r sioe hon yn unigryw ac yn sicr o ddiddanu plant o bob oed. I blant hŷn sy’n dal i fwynhau ychydig o hud, dewch i weld Illusion Impossible – profiad theatrig syfrdanol sy’n llawn hud ac rhithiau anhygoel i bob oedran.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym i gyd yn gwybod pa mor anodd y gall fod i gadw plant wedi’u diddanu yn ystod gwyliau ysgol, yn enwedig os nad yw’r tywydd o’n hochr ni! Yn DLL, rydym yn barod i groesawu teuluoedd a ffrindiau sy’n chwilio am ddiwrnodau llawn hwyl ac antur! Mae gennym gymaint i gwsmeriaid ddewis ohono, ac nid oes dim byd gwell gennym na gweld plant yn cadw’n egnïol ac yn cael hwyl gyda ffrindiau, hen a newydd. Ymunwch â ni yr wythnos nesaf am ddiwrnodau llawn chwerthin, hwyl ac anturiaethau Calan Gaeaf.”
