Mae’r gweithredwr hamdden DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf), sydd wedi’i leoli yn Sir Ddinbych, yn falch o gyhoeddi’r ychwanegiad diweddaraf i’w bortffolio ffitrwydd – Bwtîc 6 – campfa unigryw i ferched yn unig, a fydd yn agor yn Ninbych ym mis Ionawr 2027.

Fel gweithredwr hamdden blaenllaw yn y sector, mae DLL wedi datblygu a buddsoddi mewn cymunedau ffitrwydd ar draws Sir Ddinbych, sy’n darparu amgylcheddau hyfforddi pwrpasol sydd wedi’u cynllunio’n arbennig i ysgogi a chefnogi eu haelodau. Mae’r cwmni’n deall y rhwystrau y mae llawer o ferched yn eu hwynebu wrth geisio ymuno â champfa ac o ystyried bod cymaint o alw am gampfeydd i ferched yn unig, maent yn falch o ddarparu’r gampfa gyntaf ar gyfer merched yn unig yn ardal Dinbych. 

Bydd Bwtîc 6 yn ofod hyfforddi unigryw a fydd yn helpu i hyrwyddo positifrwydd a hyder i ferched a bydd wedi’i leoli ym mhencadlys DLL yn Nhrem y Dyffryn ar Ystâd Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych.  

Bydd y gampfa, a fydd dan oruchwyliaeth lawn gan hyfforddwyr benywaidd, yn cynnig gofod hyfforddi diogel a chefnogol i ferched o bob oed, gallu a lefel ffitrwydd, ynghyd â’r offer Technogym gorau, wedi’u teilwra’n benodol yn ôl nodau ffitrwydd merched. 

Bydd modd i aelodau presennol a chwsmeriaid newydd ymaelodi â champfa Bwtîc 6 o’r Flwyddyn Newydd ymlaen. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael i gwsmeriaid dros yr wythnosau nesaf ac anogir unrhyw un sydd â diddordeb i gadw llygad ar sianeli cymdeithasol DLL neu gysylltu’n uniongyrchol â DLL drwy aelodaethau@dll.co.uk 

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Fel cwmni, mae DLL bob amser wedi buddsoddi yn ein cymunedau ac mae ein tîm yn gweithio’n galed i sicrhau bod gan aelodau fannau hyfforddi sy’n darparu offer a gweithgareddau er mwyn cynyddu ffitrwydd, iechyd a lles, yn ogystal ag amgylcheddau lle maent yn teimlo’n hyderus ac yn cael eu cefnogi. Rydym eisiau i aelodau Bwtîc 6 deimlo’n llawn cymhelliant, wedi’u grymuso ac yn barod i gymryd rheolaeth o’u siwrnai ffitrwydd eu hunain. Bydd Bwtîc 6 yn gyfle i aelodau ffurfio cymuned newydd sbon o ddefnyddwyr campfa, ac er bod pawb ar eu siwrnai ffitrwydd eu hunain, rydym am iddo fod yn gyfle i ferched ymarfer gyda’i gilydd, gwneud ffrindiau newydd ac yn bwysicach na dim, mwynhau’r profiad ffitrwydd gwych hwn.”