Dathlwch gyda Hamdden Sir Ddinbych wrth i Oktoberfest ddychwelyd i 1891 y Rhyl
Paratowch i brofi arlwy llawn Oktoberfest, wrth i Fwyty a Bar 1891 Hamdden Sir Ddinbych gyflwyno hud Bafaraidd i’r Rhyl, ddydd Gwener, 30 Hydref.
Wedi’i ysbrydoli gan yr ŵyl gwrw enwog Bafaraidd, gallwch ddisgwyl atmosffer llawn sbri, ynghyd â bwyd blasus Almaenaidd, cwrw traddodiadol, ac adloniant byw gan fand Oompah bywiog.
Bydd bratwurst, schnitzel a spatzle yn rhai o’r prydau blasus a fydd yn cael eu cynnig, ynghyd â dewis o gwrw Bafaraidd, sy’n sicr o gadw’r dathliadau i lifo drwy gydol y nos.
Paratowch i fwynhau croeso cynnes, pan mae’r drysau yn agor am 5pm, a’r hwyl yn dechrau am 6pm. Bydd y bar ar agor yn hwyr, gan roi digon o amser i westeion ddawnsio, canu a mwynhau atmosffer hwyliog Oktoberfest.
Anogir gwisg ffansi, ond mae brwdfrydedd yn hanfodol! Felly ewch i chwilio am y laderhosen a’r dirndls, ymgasglwch eich ffrindiau a pharatowch am noswaith o hwyl ac adloniant Bafaraidd.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych “Oktoberfest ydi un o’n nosweithiau thema mwyaf poblogaidd, ac rydym yn edrych ymlaen at gwmni pawb wrth i 1891 roi eu stamp eu hunain ar yr ŵyl ryngwladol enwog hon. Os ydych chi eisiau mynd amdani a dawnsio mewn gwisg ffansi lawn, neu eisiau ymuno â ffrindiau a mwynhau’r atmosffer Almaenaidd, gallwch ddibynnu ar groeso cynnes iawn gan y tîm yn 1891!”
Mae tocynnau ar gael ar Oktoberfest ym Mwyty a Bar 1891 – Pafiliwn y Rhyl
