HSDd Cyf yn lansio partneriaeth newydd gyda chynllun ailgylchu Leisure Loop
HSDd Cyf yn lansio partneriaeth newydd gyda chynllun ailgylchu Leisure Loop
Mae HSDd Cyf yn falch o gyhoeddi lansiad partneriaeth newydd gyda Leisure Loop, cynllun newydd gyda datrysiad dim gwastraff i dirlenwi ar gyfer nofwyr a’u pyllau nofio lleol.
Mae hen fflotiau, gogls wedi torri a fflip fflops wedi torri ymhlith yr eitemau a fyddai fel arfer yn mynd i’r bin ac i safle tirlenwi yn y pen draw. Fodd bynnag, mae HSDd Cyf a Leisure Loop yn dangos bod dewis arall, wrth gyflwyno menter yn y Nova, Prestatyn.
Mae canfyddiadau Leisure Loop yn dangos bod pwll nofio cyfartalog chwe lôn yn cynhyrchu mwy na 100 litr o wastraff pwll bob mis. Caiff y gwastraff hwn ei rwygo, ei lanhau a’i drawsnewid yn baneli plastig wedi’u hailgylchu ac eitemau defnyddiol eraill. Trwy gydweithio, carreg filltir gyntaf rhwydwaith ailgylchu Leisure Loop yw casglu digon o wastraff pwll i lenwi pwll nofio 25m ac mae HSDd Cyf yn falch o fod yn rhan o’r nod hwnnw bellach.
Dywedodd Luke Parkinson, Rheolwr Gyfarwyddwr Leisure Loop: “Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda HSDd Cyf ar y bartneriaeth newydd hon, mae ein brandiau a’n gwerthoedd yn alinio. Dechreuwyd Leisure Loop ar yr egwyddor bod pob darn o offer nofio, o gogls i nwdlau pwll, yn haeddu ail fywyd yn y cyfleusterau lle buont unwaith, gan greu ‘Leisure Loop’. Ein gweledigaeth oedd sefydlu rhwydwaith ailgylchu cenedlaethol, gan drawsnewid gweithrediadau cyfleusterau nofio trwy integreiddio arferion cynaliadwy’n ddi-dor i mewn i arfer dyddiol. Trwy uno pyllau nofio a’u defnyddwyr ar draws y genedl, gallwn gydweithio i greu gwir economi gylchol. Mae pob pwll a nofiwr yn chwarae rhan wrth leihau gwastraff a chreu datrysiadau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Gyda’n gilydd, nid dim ond ailgylchu ydym ni – rydym yn ailffurfio dyfodol ein cyfleusterau.”
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd Cyf: “Rydym yn hynod o falch o fod yn lansio Leisure Loop yn HSDd Cyf, gan ddechrau gyda’n safle mwyaf, sef pwll nofio Nova ym Mhrestatyn. Fel brand, mae’r amgylchedd yn bwysig iawn i ni ac rydym yn ailgylchu popeth a ddefnyddiwn. Mae’r bartneriaeth newydd hon yn enghraifft wych o hynny. Rydym yn edrych ymlaen at weld y gwahaniaeth all ei wneud, nid yn unig i Sir Ddinbych, ond i’r fenter ehangach fel cyfanrwydd.”
