I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn heddiw, mae DLL yn lansio dau gynnig ffitrwydd gwych gyda gostyngiadau, wedi’u targedu at gymuned pobl dros 60 oed yn Sir Ddinbych. Wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru a chynllun Hamdden Actif Chwaraeon Cymru, mae’r cynigion yn cynnig dechrau perffaith i unrhyw un sydd am ddod yn fwy ffit a chynyddu eu lefelau gweithgaredd.

Mae DLL yn cynnig mynediad i aelodaeth ffitrwydd i gwsmeriaid dros 60 oed, gyda’r mis cyntaf yn hollol AM DDIM, a’r ail a’r trydydd mis am ddim ond 50% o’r gost safonol. Mae’r cynnig ar gael ar sail y cyntaf i’r felin. Mae dewis o bedair aelodaeth ar gael fel rhan o’r cynnig: Assist Fit, Assist Fit Premium, Assist Fit & Swim ac Aelodaeth ‘Off Peak’ (cyfnodau tawelach) i bobl dros 60 oed. Mae Assist Fit yn defnyddio technoleg ymarfer corff gyda chymorth pŵer DLL, ac mae’n berffaith i’r rhai sy’n wynebu heriau symudedd, cyflyrau iechyd, neu unrhyw un a fyddai’n elwa ar arweiniad ychwanegol. Mae aelodaeth ‘off peak’ DLL i bobl dros 60 oed yn rhoi mynediad i aelodau i’r gampfa, nofio a dosbarthiadau ymarfer corff grŵp y tu allan i’r cyfnodau prysuraf (hyd at 4pm ac ar benwythnosau).

I’r rhai sy’n well ganddynt chwarae camp newydd neu ddychwelyd at hen hoff gamp, mae DLL hefyd yn cynnig cyfle i bobl dros 60 oed chwarae amrywiaeth o chwaraeon raced yn hollol AM DDIM, gan ddefnyddio’r un cyllid. Mae’r cynnig, sy’n rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth 2027, yn cynnwys amrywiaeth o chwaraeon raced gwahanol sydd ar gael ym mhob un o safleoedd DLL ledled y sir.
Mae manylion llawn am y ddau gynnig ar gael yma: Dros 60 – Denbighshire Leisure Ltd

Rhaid archebu aelodaethau yn y safleoedd, ac mae telerau ac amodau yn berthnasol. Meddai Jamie Groves, DLL, MD “Rydym i gyd yn ymwybodol bod cadw’n egnïol yn helpu i wella iechyd corfforol, cydbwysedd a lles meddyliol ac yn DLL rydym bob amser yn edrych i annog hyn trwy gynnig rhywbeth i bawb, waeth beth fo’u hoedran neu eu gallu. I bobl hŷn, gall rhoi cynnig ar weithgaredd newydd fel nofio, mynychu’r gampfa, neu chwarae chwaraeon raced gael effaith hynod fuddiol ar les meddyliol, darparu cyfleoedd i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd, yn ogystal â meithrin hyder. Mae ein tîm cyfeillgar o hyfforddwyr bob amser ar gael i helpu unrhyw un sy’n newydd i ymarfer corff i ddod o hyd i’w traed ac i’w cefnogi trwy’r wythnosau pwysig cyntaf hynny. Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu cael mynediad at y cyllid i gynnig y cyfleoedd gwych hyn a chyda dim ond nifer gyfyngedig o aelodaethau ar gael, byddem yn annog unrhyw un sy’n gymwys i wneud cais heddiw!”