Aelodaeth wedi’i hariannu i bobl dros 60 oed
Mae gweithgaredd corfforol ac ymarfer corff rheolaidd yn helpu i wella iechyd meddwl a chorfforol; bydd y ddau yn eich helpu i gynnal eich annibyniaeth wrth i chi heneiddio. Mae ymarfer corff yn gwella cryfder, cydbwysedd, symudedd a dygnwch, gan helpu i atal cwympiadau a chlefydau penodol. Gall ymarfer corff godi ein hwyliau a’n gwneud yn hapus.
Yn DLL, rydym yn ymfalchïo mewn darparu cyfleoedd hygyrch o ansawdd uchel i wella lles trigolion Sir Ddinbych.
Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, rydym yn falch o fod yn rhan o fenter Llywodraeth Cymru, ‘Pwysau Iach Cymru Iach’, a ‘Chynllun Hamdden Actif’ Chwaraeon Cymru. Mae’r rhain yn ein cefnogi i gynnig cyfle newydd i bobl dros 60 oed – yn enwedig y rhai nad ydynt yn egnïol ar hyn o bryd – i annog gweithgaredd corfforol a dewisiadau ffordd o fyw iach.


Beth yw’r cynnig?
Mae’r cynnig hwn, sy’n cael ei ariannu ac yn para 16 wythnos, yn cynnwys:
- Aelodaeth am ddim am fis i un o’r mathau canlynol o aelodaeth: Start Assist,
- Assist Fit and Swim, Assist Fit Premium, ac Over 60’s Off-peak Premium.
- Ar ôl y mis cyntaf, byddwch yn cael yr un aelodaeth am ddau fis arall gyda gostyngiad o 50%.
- Gellir defnyddio’r aelodaethau ym mhob safle. Sylwch mai yn Club Rhyl yn unig y mae Assist Fit ar gael.
Ar ôl y tri mis, byddwch yn symud i’n strwythur prisio cyfredol. Mae telerau ac amodau yn berthnasol; siaradwch â’r staff ar y safle.
Sut ydw i’n cofrestru?
Cysylltwch â’ch safle DLL lleol i fanteisio ar y cynnig hwn.
Cynnig chwaraeon raced am ddim DLL i bobl dros 60 oed, wedi’i ariannu gan y Cynllun Hamdden Actif i Bobl dros 60 oed (ALS)
Chwaraeon sydd ar gael:
Llangollen – Pickleball a Badminton
CHHJ Corwen – Sgwash
Rhuthun – Badminton
Dinbych – Badminton
X20 – Sgwash a Badminton
Prestatyn – Sgwash a Badminton
Y Rhyl – Badminton
Gellir archebu’r cynnig hwn dros y ffôn neu drwy ymweld â’ch canolfan hamdden leol. Nid oes angen i chi fod yn aelod ar hyn o bryd i fanteisio ar y cynnig hwn.

Nofio am ddim i bobl dros 60 oed (wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru)
| Canolfan Hamdden | Diwrnod | Amser |
|---|---|---|
| Canolfan Hamdden Huw Jones, Corwen | Dydd Mercher | 2:30pm - 3:30pm |
| Dinbych | Dydd Mawrth | 7:30am - 8:30am |
| Nova Prestatyn | Dydd Mercher | 6:30am - 7:30am |
| Rhuthun | Dydd Gwener | 6:45am - 8:45am |
| Y Rhyl | Dydd Mercher | 7:30am - 8:30am |
Rhifau Cyswllt:
☎️ Hamdden Llangollen: 01824 774879
☎️ Canolfan Hamdden Huw Jones Corwen: 01824 774880
☎️ Hamdden Rhuthun: 01824 774877
☎️ Hamdden Dinbych : 01824 774876
☎️ X20 Llanelwy: 01824 774875
☎️ Hamdden y Rhyl : 01824 774871
☎️ Nova Prestatyn: 01824 774872
Llenwch y ffurflen isod a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.



