Daeth cymuned y Rhyl ynghyd ddydd Mawrth i ddathlu lansiad llyfr ryseitiau, a gafodd ei greu fel rhan o brosiect ailgartrefu yng Ngogledd Cymru. Crëwyd y llyfr coginio “From the World to Wales” gan deuluoedd a ailgartrefwyd ac sydd wedi gwneud Cymru yn gartref iddynt; mae pob pryd yn adrodd stori am gartref, teithiau a dechreuadau newydd.

Bu tîm Celfyddydau Cymunedol DLL yn cydweithio â thimau Ailgartrefu a Chydlyniant Cymunedol Gogledd-ddwyrain Cymru Cyngor Sir Ddinbych ar y prosiect llwyddiannus hwn, gyda chymorth grant o gronfa Loteri Celfyddydau, Iechyd a Lles Cyngor Celfyddydau Cymru yn ariannu’r llyfr.

Gwahoddwyd gwesteion o’r sefydliadau partner i’r lansiad a gynhaliwyd yng Nghanolfan Ieuenctid y Rhyl. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i westeion gwrdd â’r teuluoedd a ailgartrefwyd a oedd yn rhan o’r prosiect, blasu rhai o’u prydau a dathlu cwblhau’r llyfr, a ddaeth â theuluoedd o gefndiroedd amrywiol ynghyd i rannu ryseitiau a phrofiadau.

Bu’r teuluoedd yn gweithio gyda’r artist Jude Wood dros gyfnod o dri mis yn rhannu straeon ac yn creu gwaith celf a ryseitiau ar gyfer y llyfr, gan wahodd pobl i archwilio blasau newydd a phrofi’r diwylliannau a’r traddodiadau y tu ôl i bob pryd. Roedd prydau o Colombia, Pacistan, Trinidad ac Wcráin ymhlith y rhai a gafodd sylw, a chafodd gwesteion y digwyddiad gyfle i gwrdd â’r teuluoedd a Jude i ddysgu’n uniongyrchol am y gwaith a wnaed i greu’r llyfr.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Datblygwyd y llyfr coginio gwych hwn fel rhan o brosiect ailgartrefu yng Ngogledd Cymru, gan ddod â theuluoedd o gefndiroedd amrywiol ynghyd i rannu eu ryseitiau a’u profiadau. Roedd lansiad heddiw yn gyfle gwych i bawb a fynychodd ddysgu ychydig mwy am greu’r llyfr, y teuluoedd a gymerodd ran a’r prosiect ailgartrefu ehangach. Mae tîm Celfyddydau Cymunedol DLL wedi bod wrth eu bodd yn cymryd rhan mewn prosiect mor galonogol, ac yn gweld cwblhau llyfr coginio sy’n dod â’n cymuned amrywiol ynghyd i ddathlu cysylltiadau trwy fwyd, traddodiadau, straeon a diwylliannau.”