Fe welodd Gogledd Cymru gynnydd mawr mewn twristiaeth dros yr haf, gydag un o’r cyfnodau prysuraf erioed ar gyfer chwiliadau ar-lein, gwestai a darparwyr llety, a chyfanswm derbyniadau.
Gyda Diwrnod Twristiaeth y Byd ddydd Sul 27 Medi, mae busnesau ledled Gogledd Cymru’n edrych yn ôl ar haf 2026 a sut mae twristiaeth yn cynnal pobl leol, swyddi lleol a busnesau lleol.
Mae Sir Ddinbych wedi gweld cynnydd aruthrol mewn twristiaeth ers i ‘wyliau gartref’ ddod yn fwy poblogaidd ac mae Hamdden Sir Ddinbych wedi cael haf hynod llwyddiannus ar yr arfordir gydag atyniad parc dŵr SC2, Theatr Pafiliwn y Rhyl a theras 1981 tu allan a Chwt y Traeth Nova Prestatyn dan eu sang ar sawl achlysur.
Eglurodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd, fod twristiaeth yn sbardun hollbwysig i’r economi leol, yn cynnal swyddi, busnesau a chadwyni cyflenwi wrth ddod â gwariant gwerthfawr i gymunedau ledled y gogledd.
Yn ôl Jamie: “Nid ar ein cyfer ni yn HSDd yn unig mae twristiaeth yn bwysig – mae’n eithriadol o bwysig i’r economi. Mae’n cefnogi’r economi ehangach a’r rhwydwaith o gyflenwyr, busnesau, manwerthwyr a darparwyr lletygarwch lleol sy’n helpu i sicrhau bod ein cymunedau’n ffynnu. Drwy wario’n helaeth gyda chyflenwyr lleol ledled Gogledd Cymru, rydyn ni’n ymroi i gadw’r arian o fewn yr economi leol a chefnogi’r busnesau a’r cymunedau sydd mor hanfodol bwysig i’r rhanbarth. Mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar swyddi, cyflogaeth a’r gadwyn gyflenwi ehangach yn lleol, gan helpu busnesau, yn enwedig rhai bach a meicro-fusnesau, i oroesi misoedd y gaeaf.”
Eglurodd Jim Jones, Prif Weithredwr Twristiaeth Gogledd Cymru, fod dwy ochr i’r tywydd gwych dros yr haf i fusnesau twristiaeth yng Ngogledd Cymru, gyda mwy o wariant ar bethau awyr agored ac mewn busnesau lletygarwch, ond llai mewn atyniadau dan do. Nododd Jim Jones fod yr haf poeth wedi codi gweithredwyr “o ddyfnderoedd anobaith ar ôl dechrau araf, pryderus i’r tymor, gydag ergyd i archebion cynnar yn sgil costau ynni a chyflogaeth uwch a pholisi 182 diwrnod Llywodraeth Cymru ar gyfer llety gwyliau.”
Roedd data trafodion Gwyliau Banc mis Mai gan SumUp a dangosyddion ehangach y tymor yn dangos bod Gogledd Cymru wedi gweld cynnydd o +73% ar dderbyniadau o gymharu â’r llynedd, sydd bron dair gwaith y cynnydd cyfartalog ar draws y DU o 24%. Fe wnaeth pob un o’r lleoliadau “gwyliau gartref” mwyaf poblogaidd roedd SumUp yn eu dilyn guro’r cyfartaledd cenedlaethol, ond Gogledd Cymru a welodd y cynnydd mwyaf. Bu cynnydd o +126% ar gyfanswm derbyniadau caffis a bwytai o gymharu â 2025.
Fe wnaeth diddordeb chwiliadau am wyliau gartref neu “staycation” yn y DU ddyblu bron rhwng y ddwy flynedd hyd at fis Mai 2026 yn ôl Google Trends, sy’n ategu data’r trafodion gwario. Mae SumUp yn dweud bod y newid yn ganlyniad i gostau uwch i
deithio’n rhyngwladol, sy’n golygu bod ymwelwyr yn cadw golwg ar y geiniog ac yn troi at wyliau ym Mhrydain.
Dywedodd Jim Jones: “Twristiaeth yw curiad calon Gogledd Cymru. Mae’n cynnal swyddi lleol, yn cefnogi busnesau annibynnol ac yn cadw ein cymunedau’n llawn bywyd drwy gydol y flwyddyn, wrth roi profiad go iawn i ymwelwyr o dir, diwylliant a chroeso ein hardal. Pan mae’r cynnig twristiaeth yn un da, mae pawb yn elwa: mae trigolion yn mwynhau trefi llewyrchus, gwell amwynderau ac ymdeimlad cryf o falchder yn eu bro, ac ymwelwyr yn gadael gydag atgofion sy’n dod â nhw’n eu holau. Ar Ddiwrnod Twristiaeth y Byd, rydym ni’n dathlu pawb sy’n gwneud Gogledd Cymru’n lle mor arbennig i fyw ac ymweld ag o.”
Ychwanegodd Jamie: “Mae wedi bod yn haf arbennig i HSDd ac rydym ni eisiau diolch i bob unigolyn a theulu sydd wedi dod drwy ein drysau. Gyda thywydd anhygoel yn cyfrannu at ddenu mwy o bobl i’r trefi a’r atyniadau gwych sydd gennym, mae wedi bod yn braf iawn gweld cymaint yn greu atgofion gyda ni. Er bod y ffigyrau’n wych, nid rŵan yw’r amser i orffwys – mae HSDd yn ymrwymo i sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr Sir Ddinbych yn gallu mwynhau ein hatyniadau drwy’r flwyddyn. Twristiaeth yw’r sbardun economaidd mwyaf ar gyfer ein sir, ac mae’n bwysig ein bod yn dal ati i fuddsoddi i weld mwy o dwf. Drwy gydol misoedd y gaeaf a’r gwanwyn, mae angen i ni ganolbwyntio ar gefnogi ein trigolion lleol. Mae gennym ni gynigion am ostyngiadau i bobl leol drwy gydol yr hydref a’r gaeaf i sicrhau bod ein trigolion yn gallu mwynhau’r atyniadau a’r cyfleusterau drwy’r flwyddyn gron.”