Nosweithiau DJ yn ystod machlud haul yn 1891, dros 130 o sesiynau chwaraeon cymunedol am ddim a diwrnodau allan ar y pad sblasio a pharc dŵr, i enwi dim ond rhai o’r gweithgareddau llawn hwyl cafodd ei gynnal yr haf hwn.

Gyda’r tymereddau’n cyrraedd dros 30 gradd dros y gwyliau, roedd sesiynau yn un o brif atyniadau Hamdden Sir Ddinbych, SC2 y Rhyl wedi gwerthu allan, yn y parc dŵr dan do a’r pad sblasio awyr agored.  Cynhaliodd yr atyniad ei Wobr Aur Croeso Cymru am ragoriaeth eleni, ac roedd yn llawn cwsmeriaid o bob oed yn ymuno yn yr hwyl, gan wneud y mwyaf o sesiynau Hamdden Sir Ddinbych am ddim a gostyngedig i breswylwyr. 

Mwynhaodd y cwsmeriaid awyrgylch trydanol yn nosweithiau DJ byw ar y Teras yn 1891, a ddenodd naws gwyliau i arfordir y Rhyl. Cynhaliwyd nosweithiau DJ am ddim trwy gydol mis Awst gyda naws Môr y Canoldir, gyda cherddoriaeth fyw a bwyd gwych. Profodd y noson Garibïaidd yn boblogaidd iawn gyda chwsmeriaid.

Cafodd aelodau ffitrwydd yn Nova gyfle i fwynhau ffordd newydd o ymarfer corff, wrth lansio’r gampfa newydd ei adnewyddu yn Nova. Roedd y digwyddiadau Sesiwn Sadwrn yn llawn, gyda DJ personol Nova yn darparu’r caneuon ar gyfer yr ymarfer corff, ac i ddilyn gyda noson ymlaciol yng Nghwt y Traeth, gardd gwrw gorau Gogledd Cymru. Daeth yr haf i ben gyda diwrnod agored cymunedol Nova. Diwrnod hynod o lwyddiannus, am ddim, gyda gweithgareddau, dosbarthiadau ffitrwydd a mwy, gyda dros 1000 o bobl wedi mynychu ar draws Nova, Cwt y Traeth, Chwarae Antur a Chaban y Traeth.

Ledled y sir, mae tîm chwaraeon cymunedol Hamdden Sir Ddinbych wedi cefnogi nifer o bartneriaid i ddarparu dros 130 o ddigwyddiadau lles am ddim.  Roedd y sesiynau’n cynnwys gweithgareddau traeth, pêl-droed i ferched, sesiynau chwarae, digwyddiadau ieuenctid a diwrnodau hwyl i’r teulu.  Roedd y digwyddiadau’n boblogaidd ac yn darparu amgylchedd diogel a chroesawgar i bawb.

Cafodd cwsmeriaid a oedd yn ymweld â 1891 a Chwt y Traeth fwynhau ystod o gynigion bwyd a diod dros yr haf gan gynnwys bwydlen befriog wych a chynnig pitsa Sip a Sleis.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych, “Wrth i haf gwych arall gyda Hamdden Sir Ddinbych ddod i ben, hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ymuno â ni am ddiwrnodau cofiadwy, digwyddiadau hwyliog a chynigion bwyta gwych yn 1891 a Chwt y Traeth.  Rydym wedi ymrwymo i roi yn ôl i’n preswylwyr ac roedd ein sesiynau am ddim yn SC2 yn boblogaidd dros ben. Mae ein tîm Chwaraeon Cymunedol wedi gweithio’n agos gyda phartneriaid ar draws Sir Ddinbych i helpu darparu rhaglen lawn o ddigwyddiadau am ddim i bobl ifanc, ac roedd yn braf gweld pa mor boblogaidd yr oeddent. Fe wnaeth ein haelodau ffitrwydd ymuno yn hwyl yr haf hefyd, gan ymarfer corff yn ein Sesiwn Sadwrn! Hoffai pob aelod o’r tîm yn Hamdden Sir Ddinbych ddiolch i’n cwsmeriaid am eu ffyddlondeb a chefnogaeth. Cafodd pawb yn Hamdden Sir Ddinbych haf gwych, ac rydym  yn hapus iawn gyda’r ymateb gan bawb a ymunodd gyda ni, ac am y gefnogaeth anhygoel. Ond nid hyn yw’r diwedd, mae gan Hamdden Sir Ddinbych mwy o gyhoeddiadau cyffrous ar gyfer yr hydref a’r gaeaf!”