Profiad ffitrwydd ‘cyntaf o’i fath yng Nghymru’ yn dod i Brestatyn yr Hydref hwn
Mae antur yn dod i Brestatyn yr Hydref hwn gydag agoriad profiad ffitrwydd digidol, wal ddringo a chwrt sboncen rhyngweithiol ‘cyntaf o’i fath yng Nghymru’.
Unwaith eto mae Hamdden Sir Ddinbych (DLL) yn mynd yn groes i’r duedd genedlaethol ac yn buddsoddi mewn canolfan antur newydd a chyfleusterau ffitrwydd iau.
Yn dilyn llwyddiant Nova, fel cyrchfan Hamdden premiwm DLL, bydd hamdden Prestatyn yn mynd â hyfforddiant i lefel newydd gyda stiwdio ffitrwydd rhyngweithiol Prama newydd, gan drawsnewid rhaglen ffitrwydd iau a darparu cwricwlwm arloesol ar gyfer myfyrwyr.
Y cyntaf o’i fath yng Nghymru, mae Prama yn gysyniad ymarfer corff grŵp rhyngweithiol lle mae sain, goleuadau, lloriau a waliau yn dod yn fyw er mwyn eich cymell a’ch arwain trwy’r profiad hyfforddi unigryw.
Bydd y dechnoleg newydd ar y safle hefyd yn cynnwys profiad trochi Sboncen, gan ddod â’r gamp i oes newydd a’i wneud yn hygyrch i bawb.
Bydd profiad dringo ‘Clip and Climb’ yn cael ei ychwanegu yn Hamdden Prestatyn, gan ychwanegu atyniad newydd i bortffolio helaeth DLL o anturiaethau i’r teulu.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym yn buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf gyda’r brif dechnoleg ddigidol i arloesi ffitrwydd iau. Bydd y stiwdio Prama newydd yn mynd ag Addysg Gorfforol a hyfforddiant ffitrwydd i’r lefel nesaf, gan greu profiad ffitrwydd digidol gyda rhyngweithiad ac ymgysylltiad ar gyfer pob oed. Bydd y buddsoddiad newydd yn dod a Hamdden Prestatyn i’r oes newydd, gan ddangos ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein cymuned a lles ein haelodau a chwsmeriaid. Yn dilyn llwyddiant Nova fel atyniad, gan gynnwys Clwb Nova, Cwt y Traeth a’n chwarae antur, rydym yn falch o ddod ag antur newydd i Hamdden Prestatyn. Rydym yn addo ein cefnogaeth i’r gymuned ac addysg trwy ddarparu’r ganolfan ryngweithiol newydd ar gyfer pobl ifanc yn yr ardal.”
Dywedodd Neil Foley, Pennaeth Ysgol Uwchradd Prestatyn: “Rydym yn falch o fod yn rhan o fuddsoddiad nesaf DLL, bydd y prosiect hwn wir yn trawsnewid y rhaglen Addysg Gorfforol, yn moderneiddio’r cwricwlwm ac yn mynd â hyfforddiant ffitrwydd i lefel newydd. Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth gyda DLL i ddod yr Ysgol Uwchradd gyntaf, a’r unig un yng Ngogledd Cymru gyda stiwdio Prama, ac edrychwn ymlaen at weld y gwaith yn dechrau’n fuan. Bydd hyn, ynghyd â’r waliau dringo newydd a’r sboncen ryngweithiol yn ychwanegu dimensiwn newydd a chyffrous i Ysgol Prestatyn ar gyfer disgyblion presennol ac yn y dyfodol.”
Yn ogystal â’r dechnoleg newydd a chynlluniau antur newydd, bydd gan Hamdden Prestatyn hefyd orsaf ail-lenwi DLL newydd gyda Choffi Costa ac ardal i aelodau ymlacio.
DLL yn dathlu hanner canmlwyddiant Canolfan Hamdden Huw Jones yng Nghorwen
Ar 29 Mawrth, bydd DLL yn dathlu 50 mlynedd o Ganolfan Hamdden Huw Jones, eu safle hamdden yng Nghorwen.
Wedi’i adeiladu’n wreiddiol fel pwll nofio, agorodd y cyfleuster ar 29 Mawrth 1974, yn dilyn ymgyrch gan y Cynghorydd William Roberts ar y pryd. Roedd y Cynghorydd Roberts yn bendant bod angen rhywle yn y dref i blant lleol ddysgu nofio, yn dilyn dau ddigwyddiad boddi trasig yn yr Afon Dyfrdwy gerllaw.
Cafodd y ganolfan hamdden, a gafodd ei rheoli am sawl blwyddyn gan fab y Cynghorydd Roberts, Adrian, ei hymestyn gan Wasanaethau Hamdden Cyngor Sir Ddinbych (DLL nawr) i gynnwys cyrtiau sboncen, ystafell ffitrwydd a chae 3G awyr agored.
Yn 2020, daeth y cyfleuster yn rhan o Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL), sydd wedi parhau i fuddsoddi yn y cyfleuster lleol poblogaidd hwn, gan adnewyddu’r cyfleuster drwyddo draw, gan gynnwys neuadd y pwll, ardaloedd cylchredeg, ardal hyfforddi ymarferol newydd gydag offer blaenllaw yn y sector o’r enw Technogym Skill Range; yn ogystal ag ychwanegu stiwdio newydd i gynnal dosbarthiadau ymarfer corff.
Yn 2021, ailenwyd Canolfan Hamdden Corwen yn Ganolfan Hamdden Huw Jones, mewn teyrnged i Gynghorydd Sir lleol arall a oedd yn boblogaidd ac yn uchel ei barch, a fu farw yn anffodus yn 2020. Roedd Huw Jones yn ymroddedig i gymuned Corwen ac fel Aelod Arweiniol Hamdden Cyngor Sir Ddinbych, chwaraeodd ran bwysig iawn yn y gwaith o wella a datblygu hamdden ar draws y sir.
Bellach mae gan Ganolfan Hamdden Huw Jones bwll nofio 20m, ystafell ffitrwydd sy’n cynnwys amrywiaeth o offer Technogym’s Excite Cardio, a dadansoddwr corff cyfan Tanita, gofod hyfforddi ymarferol ar y llawr cyntaf, cwrt sboncen â blaen gwydr, stiwdio ymarferol, a maes chwarae awyr agored gydag arwyneb 3G.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr DLL, Jamie Groves “Rydym yn hynod falch o Ganolfan Hamdden Huw Jones a’r gwasanaeth mae’n ei gynnig heddiw. Wrth edrych yn ôl dros 50 mlynedd, mae’r cyfleuster wedi gweld llawer o ddatblygiadau a gwelliannau, ac mae bellach yn cynnig darpariaeth hamdden o’r radd flaenaf i drigolion Corwen a’i hymwelwyr. Mae gan y safle enw da am gynnig gwasanaeth cyfeillgar, proffesiynol ac adlewyrchir hyn yn y tystebau niferus a gawn gan ein haelodau.”
Dywedodd y Cynghorydd Alan Hughes “Mae Cyngor Sir Ddinbych yn falch iawn o weld Canolfan Hamdden Huw Jones yn cyrraedd carreg filltir mor wych, ac mae’r safle’n parhau i fod yn ased hynod bwysig i dref Corwen a’r ardaloedd cyfagos. Er eu bod bellach yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau hamdden, mae’r tîm ar y safle yn dal i weithio’n galed iawn i gyflwyno rhaglen gynhwysfawr iawn o wersi nofio, ac rwy’n siŵr y byddai’r Cynghorydd William Roberts yn falch iawn o’u llwyddiant.”
Caban Byrbrydau blasus yn ail-agor ar bromenâd y Rhyl yr Haf hwn
Bydd cerdded ar hyd promenâd y Rhyl ychydig yn fwy blasus, pan fydd y Caban Byrbrydau yn ail-agor yn ystod gwyliau’r Pasg.
Os ydych awydd Pysgodyn a Sglodion traddodiadol neu eisiau rhannu pitsa maint teulu wrth adeiladu cestyll tywod, neu os ydych eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd fel y Sglodion wedi’u Llwytho â Chyw Iâr Halen a Phupur, mae gan y Caban rhywbeth at ddant pawb y Gwanwyn hwn am brisiau fforddiadwy.
Wedi’i leoli ar y prom tu ôl i’r Arena Digwyddiadau, mae’r Caban yn cynnig seddi sy’n croesawu cŵn, gan roi’r golygfeydd gorau i gwsmeriaid o’r tywod a thraeth. Mae’n lleoliad perffaith i ymlacio.
Ar agor yn ystod hanner tymor y Pasg, ac yna pob penwythnos tan ddiwedd yr Haf, mae’r Caban yn le perffaith i gael gorffwys wrth fynd am dro ar hyd yr arfordir neu os ydych eisiau bwyd ar ôl diwrnod ar y traeth. Gan edrych dros ardal fwyaf poblogaidd traeth y Rhyl, mae lleoliad y Caban yn ganolog i draeth y Rhyl, gyda golygfeydd panoramig o’r arfordir gyda machlud haul heb ei ail.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Wrth i’r tywydd gynhesu a’r nosweithiau ddod yn oleuach, edrychwn ymlaen at ail-agor y Caban y Gwanwyn hwn i gynnig egwyl flasus i’r rhai sy’n mwynhau ein harfordir anhygoel. Mae’r traeth yn drysor cudd yn y Rhyl. Os ydych eisiau cerdded y ci, mwynhau’r diwrnod gyda theulu neu eisiau ymlacio a gwylio’r tonnau, mae’r Caban yn lleoliad perffaith i ail-lenwi!”
Profiad ffitrwydd rhyngweithiol 180 newydd yn dod i Glwb Dinbych y gwanwyn hwn
Mae stiwdio ffitrwydd ryngweithiol newydd sbon yn dod i Ddinbych i roi profiad digidol 180 gradd i aelodau ffitrwydd, sy’n trawsnewid y rhaglen ddosbarthiadau ac yn darparu stiwdio ymarfer unigryw o’r radd flaenaf.
Yn dilyn llwyddiant Stiwdio 360 yng Nghlwb y Rhyl, Mae DLL a Future Studios yn cydweithio eto i ddod â stiwdio 180 gradd ryngweithiol i Glwb Dinbych y mis nesaf. Unwaith eto mae DLL yn mynd yn groes i’r duedd genedlaethol wrth greu un o’r clybiau ffitrwydd mwyaf arloesol a chyffrous yn y wlad.
Dyma feicio dan do fel na welwyd o’r blaen, yn cynnwys wal ryngweithiol a beiciau ac offer Technogym o’r radd flaenaf.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Ein nod yw darparu un o’r profiadau ffitrwydd mwyaf arloesol a chyffrous yng Nghymru. Drwy gyflwyno Stiwdio 180 a llwyddiant Stiwdio 360 yng Nghlwb y Rhyl, rydym wedi ymrwymo i ddod â’r dechnoleg fwyaf arloesol i bobl Sir Ddinbych. Mae DLL yn parhau i arwain y ffordd yn y diwydiant ffitrwydd ac yn mynd yn groes i’r duedd genedlaethol o leihau maint – rydym yn tyfu ac yn buddsoddi, gan sicrhau bod ein haelodau’n cael y profiad gorau posibl. Os oeddech chi’n meddwl bod beicio dan do yn gyffrous, daliwch yn dynn oherwydd mae’r profiad ar fin cyrraedd lefel hollol newydd.”
Nid yn unig y bydd y buddsoddiad yn gwella’r arlwy iechyd a ffitrwydd yng Nghlwb Dinbych, ond bydd yn galluogi i DLL ddarparu profiadau sy’n apelio at bobl o bob oed a demograffeg er mwyn helpu i annog mwy o aelodau o’r gymuned i gymryd rhan mewn ymarfer corff.
Fe’i cyflwynir drwy Fframwaith Hamdden y DU, a reolir gan Hamdden Sir Ddinbych ac Alliance Leisure, bydd yr adnodd iechyd a lles arloesol yn cynnig profiadau cynhwysol, dwys i ymgysylltu ac ysbrydoli grwpiau ymarfer corff presennol a denu cynulleidfaoedd newydd.
Mae DLL wedi gweithio gyda’r asiantaeth greadigol ‘Flareform’ i ail-bwrpasu stiwdio ymarfer yng Nghlwb y Rhyl yn Sir Ddinbych. Y nod yw creu amgylchedd ymarfer corff unigryw sy’n defnyddio tafluniad 360 gradd ar holl waliau’r ystafell i greu golygfeydd animeiddiedig di-dor sy’n trawsnewid gyda phob dosbarth.
Meddai Joe Robinson, cyd-sylfaenydd Future Studios a chyfarwyddwr creadigol yn Flareform: “Rydym wedi gwirioni cael cydweithio gyda DLL wrth i ni gychwyn ar yr ail brosiect cyffrous hwn i gyflwyno profiadau newydd sbon i’r aelodau. O’r cyswllt cyntaf un, bu’n amlwg ein bod yn gweithio gyda chleient sy’n rhannu ein hangerdd dros arloesi a rhagoriaeth. Mae eu brwdfrydedd tuag at y prosiect hwn yn heintus ac ysbrydoledig, ac mae’n cyd-fynd yn berffaith â’n gweledigaeth greadigol ar gyfer y cynnyrch. Fel gweithredwr hamdden blaengar, mae DLL yn buddsoddi’n barhaus yn ei gyfleusterau ffitrwydd er mwn darparu’r profiadau gorau un i’w gwsmeriaid. Rydym wir yn teimlo’n freintiedig i fod yn rhan o’r bartneriaeth hon ac ni allwn aros i weld y canlyniadau anhygoel y byddwn yn eu cyflawni gyda’n gilydd ar ein hail brosiect.”
John Bishop yn Dychwelyd i Theatr Pafiliwn y Rhyl gyda Thaith Newydd ‘Back At It’
Mae DLL yn falch o gyhoeddi bod y digrifwr adnabyddus John Bishop yn dychwelyd i lwyfan Theatr Pafiliwn y Rhyl am y tro cyntaf ers 2012.
Cynhelir y digwyddiad ar nos Gwener 21 Chwefror 2025, lle gall cynulleidfaoedd ddisgwyl noson o chwerthin ac adloniant gyda thaith newydd Bishop, ‘SJM Concerts Present: Back At It’.
Mae John Bishop, sy’n adnabyddus am y ffordd mae’n adrodd ei straeon digri ac atyniadol, wedi’i wneud yn un o ddigrifwyr mwyaf annwyl ein hoes.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi ein bod yn croesawu John Bishop yn ôl i Theatr Pafiliwn y Rhyl. Mae hyn yn gymeradwyaeth unwaith eto i Theatr y Pafiliwn, sy’n prysur ddod yn lleoliad ffafriedig ar gyfer prif dalentau comedi’r wlad, ac mae dychweliad Bishop yn cadarnhau ymhellach ein henw da fel canolbwynt ar gyfer rhagoriaeth adloniant. Mae’r buddsoddiad parhaus ym Mhafiliwn y Rhyl yn amlwg yn talu ar ei ganfed. Rydym yn edrych ymlaen at noson llawn chwerthin a llawenydd wrth i ni groesawu John Bishop a’i daith ‘Back at It’. “
Mae tocynnau’n dechrau o £29 a bydd tocynnau cynnar ar gael i danysgrifwyr e-byst marchnata Theatr Pafiliwn y Rhyl ar ddydd Iau, Mawrth 21, 2024, am 10:00yb. Bydd gwerthiant tocynnau cyffredinol ar gael ar wefan theatr pafiliwn y Rhyl ddydd Gwener, Mawrth 22, 2024, am 10:00yb
Cast o sêr ar gyfer Pantomeim y Pasg ym Mhafiliwn y Rhyl y mis hwn
Y seren ddawns Louise Spence, enillwyr Britain’s Got Talent George Sampson ac Ashleigh a Sully, ac yn dychwelyd ar ôl Panto Nadolig hynod o boblogaidd ym Mhafiliwn y Rhyl, mae’r ffefrynnau Jamie a Chuck.
Mae Anton Benson Productions yn falch o gyhoeddi eu bod yn dychwelyd i Theatr Pafiliwn y Rhyl y Pasg hwn gyda chynhyrchiad cyffrous arall i’r teulu cyfan, ‘Robin Hood’.
Mae’r stori oesol o arwriaeth ac antur yn argoeli i fod yn brofiad gwefreiddiol i gynulleidfaoedd o bob oed, yn llawn chwerthin, cerddoriaeth a momentau bythgofiadwy.
Yn serennu ym mhantomeim y Pasg eleni fydd y seren deledu a dawns garismataidd, Louie Spence. Yn enwog am ei berfformiadau dynamig a phersonoliaeth heintus, bydd Spence yn chwarae rôl eiconig Robin Hood, gan arwain cast anhygoel sy’n cynnwys enillwyr Britain’s Got Talent George Sampson ac Ashleigh a Sully. I ychwanegu at y cyffro, bydd y ddeuawd hoffus Jamie a Chuck yn dychwelyd i’r llwyfan.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth gydag Anton Benson Productions unwaith eto ar gyfer pantomeim anhygoel arall. Gyda chast gwych wedi’i arwain gan Louie Spence, George Sampson ac Ashleigh a Sully, mae ‘Robin Hood’ yn argoeli i fod yn strafagansa Pasg gall y teulu cyfan ei fwynhau. Rydym yn falch o groesawu cynulleidfaoedd yn ôl i Theatr Pafiliwn y Rhyl bob Pasg, sydd bob amser yn bleser dros y gwyliau!”
Bydd Robin Hood yn cael ei ddangos yn Theatr Pafiliwn y Rhyl ar ddydd Sadwrn 30 Mawrth, gyda pherfformiadau am 2pm a 6pm, yn ogystal â dydd Sul 31 Mawrth am 2pm, ac mae prisiau tocynnau yn dechrau ar £16.50.
Peidiwch â cholli cyfle i fod yn rhan o’r antur! Archebwch eich tocynnau ar gyfer Robin Hood rŵan: https://mpv.tickets.com/schedule/?agency=PAVV_MPV&orgid=55080#/?event=robin&view=list&includePackages=false
DLL yn Cyhoeddi Dychweliad Eiconig Blood Brothers i Bafiliwn y Rhyl yr haf hwn
Mae’r cynhyrchiad cyffrous o’r ‘Blood Brothers’ eiconig yn dychwelyd i Theatr Pafiliwn y Rhyl fis Awst yma.
Wedi’i weld diwethaf ym Mhafiliwn y Rhyl yn 2018, mae DLL yn gyffrous i groesawu’r cynhyrchiad chwedlonol hwn yn nol. Ysgrifennwyd y cynhyrchiad gan yr enwog Willy Russell, a bydd y stori hudolus am efeilliaid a wahanwyd pan gawsant eu geni ar y llwyfan rhwng Awst 28ain ac Awst 31ain, 2024.
Ychydig o sioeau cerdd sydd wedi ennill cymaint o glod â’r Blood Brothers sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae cynhyrchiad Bill Kenwright wedi rhagori ar 10,000 o berfformiadau anhygoel yn y West End yn Llundain, un o ddim ond tair sioe gerdd erioed i gyrraedd y garreg filltir honno ac mae wedi’i fedyddio’n serchog fel y ‘Standing Ovation Musical’.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL “Rydym yn gyffrous iawn i gael Blood Brothers yn ôl yn Theatr Pafiliwn y Rhyl eleni, y tro cyntaf ers dros bum mlynedd. Nid sioe yn unig yw hwn ond profiad theatrig bythgofiadwy. Bydd y sioe yn rhedeg ychydig ar ôl gŵyl banc mis Awst, ac rydym yn obeithiol y bydd trigolion lleol a phobl ar eu gwyliau fel ei gilydd yn cael y cyfle i ddod i fwynhau’r cynhyrchiad ysblennydd hwn. Peidiwch â cholli’ch cyfle i fod yn rhan o’r dychweliad eiconig hwn!”
Bydd saith dangosiad o Blood Brothers yn Theatr Pafiliwn y Rhyl rhwng Awst 28ain ac Awst 31ain, 2024. Bydd y sioe yn cynnwys sgôr gwych gan gynnwys traciau bythgofiadwy fel Bright New Day, Marilyn Monroe, a’r gan hynod emosiynol Tell Me It’s Not True .
Peidiwch â cholli’ch cyfle i brofi hud Blood Brothers wrth iddo ddychwelyd i Theatr Pafiliwn y Rhyl. Archebwch eich tocynnau nawr ar gyfer profiad theatrig bythgofiadwy: https://mpv.tickets.com/schedule/?agency=PAVV_MPV&orgid=55080#/?event=blood&view=list&includePackages=false
Cyhoeddi Bwyty a Bar 1891 ym Mhafiliwn y Rhyl fel un sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Bwyd Cenedlaethol
Mae Bwyty a Bar 1891, yn Theatr Pafiliwn y Rhyl, wedi’i gyhoeddi fel un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Gwobrau Bwyd Cymru 2024.
Mae’r bwyty eiconig sydd â golygfeydd godidog o’r arfordir wedi cyrraedd y rhestr fer yn rownd derfynol Categori ‘Bwyty Bwyd Cain y Flwyddyn’ yn y gwobrau a gynhelir yng Nghaerdydd yr haf hwn.
Bydd y gwobrau mawreddog hyn yn arddangos y bwytai, bwytai bwyd i fynd, tafarndai, bwytai gwestai, caffis a bistros gorau. Mae Gwobrau Bwyd Cymru yn anrhydeddu’r cyrchfannau coginiol gorau yng Nghymru gan gydnabod gwaith caled ac ymdrechion y rheiny sydd wedi ymrwymo i ddarparu’r cynnyrch mwyaf ffres a danteithion anhygoel i’r wlad bob amser.
Mae Bwyty a Bar 1891 wedi’i leoli ar lawr cyntaf Theatr Pafiliwn y Rhyl ac mae’n meddu ar olygfeydd godidog o arfordir Gogledd Cymru, gyda Theras awyr agored yn ystod misoedd yr haf, rhaglen ddigwyddiadau gyffrous a’r bwyty i fyny’r grisiau sy’n gweini bwydlen fendigedig ac sy’n enwog am ei ginio dydd Sul gwych, mae gan 1891 rywbeth i bawb.
Mae Bwyty 1891 yn Theatr Pafiliwn y Rhyl, sy’n cael ei redeg gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL), yn erbyn naw o lefydd bwyta gwych eraill, yn cynnwys dau o Gonwy, un o Gorwen a nifer o Dde Cymru.
Hwn fydd y 7fed tro i wobrau o’i fath gael ei gynnal gan Creative Oceanic wedi’i bweru gan Oceanic Events.
Dywedodd llefarydd ar gyfer Gwobrau Bwyd Cymru a gynhelir am y seithfed flwyddyn: “Mae’n anrhydedd i ni dynnu sylw at y sefydliadau a’r busnesau bwyd gorau sydd wedi sefyll allan ymysg y gweddill yn niwydiant bwyd Cymru. Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni yn dangos gwydnwch a chreadigrwydd cogyddion, cynhyrchwyr, gweithwyr a rheolwyr sydd bob amser yn sicrhau bod y bobl leol ac ymwelwyr yn bwyta’n dda. Rydym eisiau llongyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar eu llwyddiannau ac yn dymuno’n dda iddynt.”
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym yn falch iawn o 1891, ein bwyty a bar blaenllaw ym Mhafiliwn y Rhyl. Mae’r tîm yn 1891 yn gweithio’n ddiflino i ddarparu’r gwasanaeth a’r profiad gorau i’n cwsmeriaid. Rydym wrth ein boddau o fod wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y gwobrau hyn sy’n dilyn llwyddiant ein Tîm Cysylltiadau Cyhoeddus y gaeaf diwethaf, gwobr cwmni UKActive a dderbynion ar gyfer y Fframwaith Hamdden ym mis Tachwedd a’r gwobrau Cyllid yn gynharach eleni. Mae llwyddiant parhaus ein timau yn profi bod DLL yn arwain y diwydiant ym mhob maes o’r busnes.”






HSDd yn taflu goleuni ar Gancr y Prostad ym mis Mawrth gyda chyfres o weithgareddau ar draws y busnes
Fe fydd Hamdden Sir Ddinbych (HSDd) yn goleuo eu hatyniadau fis Mawrth i daflu goleuni ar Gancr y Prostad, yn ogystal â chynnal cyfres o weithgareddau ar draws eu safleoedd hamdden a chlybiau ffitrwydd.
Yng Nghymru, bydd 1 mewn 8 o ddynion yn cael cancr y prostad ar ryw adeg yn eu bywydau, ac mae tîm HSDd yn ceisio codi ymwybyddiaeth yn ystod mis Mawrth.
Fe fydd y tîm yn codi arian drwy ddosbarthiadau ffitrwydd arbennig, ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol, coffi a theisen yng nghaffis ‘Refuel’ yn ein clybiau ffitrwydd, gwisgo glas ar draws y sir a thrwy oleuo Theatr Pafiliwn y Rhyl, bwyty 1891 a’r bar, y ‘SkyTower’, SC2 y Rhyl, a Chanolfan Grefft Rhuthun rhwng 5 ac 11 Mawrth.
Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych, Jamie Groves: “Dyma achos gwych i’w gefnogi ac mae HSDd yn gwneud pob ymdrech i ledaenu ymwybyddiaeth am Gancr y Prostad fis Mawrth yma. Her gamau dros y we’ yw ‘March the Month’ rydym ni’n ei gyflwyno i’n clybiau a safleoedd hamdden, i unrhyw un sydd eisiau cadw’n heini a helpu i guro cancr y prostad. Fe allwch chi ymuno â miloedd o bobl ar draws y wlad, sydd yn ymrwymo i gerdded 11,000 o gamau neu deithio’r hyn sydd gyfystyr ag 11,000 o gamau y dydd ar olwynion, drwy gydol mis Mawrth. Ymunwch â’n dosbarthiadau, gwisgwch las a rhannwch y neges fis Mawrth yma, fe allai helpu i achub bywyd!”
Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ar gael ar sianeli cyfryngau cymdeithasol HSDd ar Facebook: Mae @DenbighshireLeisure a X @DenbighshireL. yn taflu goleuni ar Gancr y Prostad ym mis Mawrth gyda chyfres o weithgareddau ar draws y busnes.
Chwilio newyddion
Newyddion Diweddar
- Swyddog Dyletswydd – X20 Llanelwy 4th Chwefror 2025
- Swyddog Dyletswydd – Hamdden Rhyl 4th Chwefror 2025
- Stiwdio Cardio o’r radd flaenaf yn cael ei lansio fel rhan o ddatblygiad £1miliwn Clwb y Rhyl 3rd Chwefror 2025
- Cam cyntaf datblygiad campfa gwerth £1 miliwn yn cael ei lansio yng Nghlwb y Rhyl 16th Ionawr 2025
- Cynnig Teyrngarwch Lleol DLL i fywiogi misoedd y gaeaf wrth ddod â gostyngiad 50% ar chwarae ac anturiaethau 28th Tachwedd 2024