Mae antur yn dod i Brestatyn yr Hydref hwn gydag agoriad profiad ffitrwydd digidol, wal ddringo a chwrt sboncen rhyngweithiol ‘cyntaf o’i fath yng Nghymru’.

Unwaith eto mae Hamdden Sir Ddinbych (DLL) yn mynd yn groes i’r duedd genedlaethol ac yn buddsoddi mewn canolfan antur newydd a chyfleusterau ffitrwydd iau.

Yn dilyn llwyddiant Nova, fel cyrchfan Hamdden premiwm DLL, bydd hamdden Prestatyn yn mynd â hyfforddiant i lefel newydd gyda stiwdio ffitrwydd rhyngweithiol Prama newydd, gan drawsnewid rhaglen ffitrwydd iau a darparu cwricwlwm arloesol ar gyfer myfyrwyr.

Y cyntaf o’i fath yng Nghymru, mae Prama yn gysyniad ymarfer corff grŵp rhyngweithiol lle mae sain, goleuadau, lloriau a waliau yn dod yn fyw er mwyn eich cymell a’ch arwain trwy’r profiad hyfforddi unigryw.

Bydd y dechnoleg newydd ar y safle hefyd yn cynnwys profiad trochi Sboncen, gan ddod â’r gamp i oes newydd a’i wneud yn hygyrch i bawb.

Bydd profiad dringo ‘Clip and Climb’ yn cael ei ychwanegu yn Hamdden Prestatyn, gan ychwanegu atyniad newydd i bortffolio helaeth DLL o anturiaethau i’r teulu.

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym yn buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf gyda’r brif dechnoleg ddigidol i arloesi ffitrwydd iau. Bydd y stiwdio Prama newydd yn mynd ag Addysg Gorfforol a hyfforddiant ffitrwydd i’r lefel nesaf, gan greu profiad ffitrwydd digidol gyda rhyngweithiad ac ymgysylltiad ar gyfer pob oed. Bydd y buddsoddiad newydd yn dod a Hamdden Prestatyn i’r oes newydd, gan ddangos ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein cymuned a lles ein haelodau a chwsmeriaid. Yn dilyn llwyddiant Nova fel atyniad, gan gynnwys Clwb Nova, Cwt y Traeth a’n chwarae antur, rydym yn falch o ddod ag antur newydd i Hamdden Prestatyn. Rydym yn addo ein cefnogaeth i’r gymuned ac addysg trwy ddarparu’r ganolfan ryngweithiol newydd ar gyfer pobl ifanc yn yr ardal.”

Dywedodd Neil Foley, Pennaeth Ysgol Uwchradd Prestatyn: “Rydym yn falch o fod yn rhan o fuddsoddiad nesaf DLL, bydd y prosiect hwn wir yn trawsnewid y rhaglen Addysg Gorfforol, yn moderneiddio’r cwricwlwm ac yn mynd â hyfforddiant ffitrwydd i lefel newydd. Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth gyda DLL i ddod yr Ysgol Uwchradd gyntaf, a’r unig un yng Ngogledd Cymru gyda stiwdio Prama, ac edrychwn ymlaen at weld y gwaith yn dechrau’n fuan. Bydd hyn, ynghyd â’r waliau dringo newydd a’r sboncen ryngweithiol yn ychwanegu dimensiwn newydd a chyffrous i Ysgol Prestatyn ar gyfer disgyblion presennol ac yn y dyfodol.”

Yn ogystal â’r dechnoleg newydd a chynlluniau antur newydd, bydd gan Hamdden Prestatyn hefyd orsaf ail-lenwi DLL newydd gyda Choffi Costa ac ardal i aelodau ymlacio.