Yn dilyn llwyddiant ‘Seaside Soul’ yn 2019, mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn gyffrous i gyhoeddi bod cyngerdd hafaidd gwych arall ar thema enaid yn dychwelyd i Arena Digwyddiadau’r Rhyl.

Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim i’r gymuned, a drefnir gan HSDd Cyf mewn partneriaeth â Chyngor Tref y Rhyl, yn dathlu cerddoriaeth y 70au, motown a ‘Northern soul’.

Mae Enaid Haf, sydd yn cael ei gynnal ar ddydd Sul 30 Gorffennaf o 12yp ymlaen, yn brolio rhaglen wych gydag adloniant byw gan Northern Soul Live gyda Stefan Taylor a Lorraine Silver; band poblogaidd y 70au Heatwave; band Edwin Starr yn cynnwys Angelo Starr; DJs Northern Soul a teyrnged motown Jackie Marie.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd Cyf: “Rydym yn gyffrous iawn at gynnal digwyddiad i drigolion, ac ymwelwyr Sir Ddinbych, sydd am ddim i’w fynychu, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. Fel cwmni, mae’n bwysig i ni wneud yn fawr o’r cyfleusterau gwych ar stepen ein drws, ac mae Arena Ddigwyddiadau y Rhyl yn leoliad awyr agored perffaith ar gyfer y math hwn o ddigwyddiad, gyda digonedd o lefydd parcio gerllaw, ac ond tafliad carreg oddi wrth ein Bwyty a Bar Teras blaenllaw 1891.”

Dywedodd Maer y Rhyl, y Cynghorydd Jacquie McAlpine “Bydd digwyddiad Enaid Haf eleni yn gyfle gwych i edrych ymlaen at dymor yr haf, ac mae’n un o’r digwyddiadau rhad ac am ddim sydd i ddod gyda Cyngor Tref y Rhyl yn falch o gefnogi Hamdden Sir Ddinbych i’w gynnal yr haf hwn.”

“Mae’n sicr y bydd y gerddoriaeth gyflym hon a chantorion llawn enaid gan gynnwys amrywiaeth o berfformwyr talentog a DJ’s o’r genre cerddoriaeth hwn yn brynhawn o adloniant rhythmig, dyrchafol a fydd yn ail-greu synau enaid sy’n byw hyd heddiw”.

Ymhlith y prif berfformwyr mae Northern Soul Live, sy’n cynnwys prif fand Northern Soul y DU, The Signatures, gyda prif leisydd Stefan Taylor, ynghyd â eicon wreiddiol Northern Soul Lorraine Silver a’i thrac clasurol Northern Soul ‘Lost Summer Love’.

Yn ymuno â’r criw mae’r band ffync/disgo poblogaidd, Heatwave, a ddaeth i lwyddiant rhyngwladol yng nghanol y 70au a’r 80au, sy’n adnabyddus am y caneuon poblogaidd, “Boogie Nights,” “Always and Forever” a “The Groove Line.”

Brawd y diweddar wych Edwin Starr o UDA, Angelo Starr, fydd yn cyflwyno parti Enaid a Motown. Mae Angelo wedi cymryd yr awenau gyda band gwreiddiol Edwin Starr, sy’n dal i berfformio gyda sacsoffon, allweddellau, offerynnau taro, gitâr arweiniol, gitâr fas, drymiau a chantorion cefnogi. Gyda rhaglen mor anhygoel, mae hwn yn ddigwyddiad na ddylid ei golli!

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: denbighshireleisure.co.uk/summer-soul