Rydym wrth ein bodd i rhannu’r newyddion ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ledled Cymru ar gyfer pum Gwobr fawreddog CIPR! Mae ein categorïau ar y rhestr fer yn cynnwys Ymgyrch Cyllideb Isel, Defnydd Gorau o Gynnwys, Digwyddiad Gorau, Ymgyrch Hirdymor Orau, a Thîm Cysylltiadau Cyhoeddus Mewnol y Flwyddyn. Mae hwn yn gyflawniad rhyfeddol, ac yn un yr ydym yn hynod falch ohono. Mae’n destament i waith caled, ymroddiad, a chreadigrwydd ein tîm HSDdCyf, ac mae’n fraint fawr i ni gael ein cydnabod am ein hymdrechion ac edrychwn ymlaen at ganlyniadau’r gwobrau yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd. Llongyfarchiadau i’r holl enwebeion!

Mae hyn yn dilyn llwyddiant tîm Cyllid HSDdCyf a gafodd hefyd wobr canmoliaeth uchel yn seremoni Gwobrau Cyllid Cymru yn gynharach eleni. Mae bob amser yn bleser gweld ein tîm yn derbyn y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu am eu gwaith caled a’u hymroddiad. Mae llwyddiant parhaus ein timau yn profi bod HSDdCyf yn arwain y diwydiant ym mhob maes o’r busnes.