Bydd aelodau o’r gymuned leol yn chwarae 24 awr o bêl-droed di-stop i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn cynnal gêm bêl-droed 24 awr yn Rhuthun i godi arian at elusen ddewisol ac yn galw ar aelodau o’r gymuned i ymuno’r digwyddiad.

Cynhelir y gêm 24 awr ar gae pob tywydd Hamdden Rhuthun o 11yb ddydd Gwener 1af Medi tan 11yb dydd Sadwrn 2il ac anogir y cyhoedd i ddod i gefnogi’r timau neu ymuno â’r pêl-droed gyda rhodd o £3 y pen o leiaf.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDdCyf: “Boed glaw neu haul disglair, rydym yn edrych ymlaen at 24 awr lawn o chwarae pêl-droed at achos gwych! Fel un o elusennau dewisol HSDdCyf, rydym yn siŵr y byddwch yn cytuno fod Ambiwlans Awyr Cymru yn hanfodol i’n cymunedau, gan achub nifer fawr o fywydau gwerthfawr o’r rhai sy’n byw o’n cwmpas. Gobeithiwn weld cymaint o bobl â phosib yn cymryd rhan dros y 24 awr ac yn dod draw i gefnogi’r timau!”

Os hoffech gefnogi’r digwyddiad/ gyfrannu at Ambiwlans Awyr Cymru ewch i: https://www.justgiving.com/page/ashley-vaughan-evans-1684154545638?utm_source=copyLink&utm_medium=one_page&utm_content=page/ashley- vaughan-evans-1684154545638&utm_campaign=pfp-rhannu&utm_term=efc07e7fae924fd09fb017a20bb1cc99

Am ragor o wybodaeth e-bostiwch: CanolfanHamddenRhuthun@hamddensirddinbych.co.uk