Mae Hamdden y Rhyl yn barod i greu’r Clwb y Rhyl newydd, mewn cyfres arall o fuddsoddiadau gan Hamdden Sir Ddinbych (HSDd), er mwyn darparu’r cyfleusterau hamdden a ffitrwydd gorau yn y wlad i’w cwsmeriaid.

Unwaith eto mae HSDd yn mynd yn groes i’r duedd genedlaethol wrth greu Clwb y Rhyl, un o’r clybiau ffitrwydd mwyaf arloesol a chyffrous yn y wlad.    

Yn dilyn llwyddiant Clwb Nova, Clwb Dinbych a X20 Llanelwy, yn ystod camau cyntaf trawsnewid Hamdden y Rhyl, bydd mynedfa newydd yn cael ei chreu ar y llawr gwaelod; a ‘gorsaf Ail-lenwi’ unigryw yn y gampfa yn cynnig Costa a detholiad o ysgytlaeth a byrbrydau maethlon, fydd yn unigryw i’n haelodau ffitrwydd. 

Yn dilyn hyn, bydd y stiwdio yng Nghwb y Rhyl yn cael ei hailwampio’n llwyr, gan chwyldroi’r rhaglen ddosbarthiadau i’n haelodau. Bydd y cynnyrch sydd ar y ffordd y cyntaf o’i fath yn y DU a bydd yn codi rhaglen ddosbarthiadau HSDd i lefel wahanol, gan dorri cwys newydd yn arddull nodweddiadol HSDd.

Fel gweithredwr hamdden blaengar, mae HSDd yn buddsoddi’n barhaus yn ei gyfleusterau ffitrwydd er mwn darparu’r profiadau gorau un i’w gwsmeriaid.  Bydd y prosiect yn cael ei gynnal mewn camau gwahanol yn ystod gweddill 2023 a bydd yn cael ei gwblhau yn 2024.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd, Jamie Groves: “Dyma amser cyffrous iawn i Hamdden y Rhyl, bydd y Clwb y Rhyl newydd yn codi hyfforddiant i lefel wahanol ac rydym yn edrych ymlaen at rannu’r datblygiadau newydd yn fuan iawn! Yn HSDd, rydym bob amser yn rhoi ein haelodau yn gyntaf, ac yn dilyn llwyddiant ysgubol y rhaglen Bwtcamp, mae’n gwneud synnwyr buddsoddi mewn rhaglen ymarfer i grwpiau a dod â datblygiad stiwdio newydd sbon i Sir Ddinbych – a’r cyntaf o’i fath yn y DU.  Gwnewch yn siŵr nad ydych yn methu hyn a byddwn yn cyhoeddi mwy o wybodaeth yn yr wythnosau nesaf!”