Cyflwynwyd seminar maeth gan faethegydd byd-enwog a siaradwr Ted Talk, ym mwyty 1891 yn Theatr Pafiliwn y Rhyl.

Roedd HSDdCyf  yn falch o groesawu’r maethegydd uchel ei barch, Dr Colin Robertson i fwyty 1891 yr wythnos hon i chwalu chwedlau am nodau maeth a ffitrwydd.

Roedd y sgwrs ym Mwyty 1891 yn Theatr Pafiliwn y Rhyl yn canolbwyntio ar rôl maeth wrth gyflawni eich nodau iechyd a ffitrwydd, colli pwysau, cryfder a magu cyhyrau, iechyd teulu. Soniodd hefyd am fwydydd wedi’u prosesu a bwydydd wedi’u prosesu’n drwm, sut mae’r diwydiant bwyd wedi sicrhau newid mewn arferion maeth gwael ers y 1950au; y rhan y mae maeth yn ei chwarae mewn iechyd merched, yn enwedig iechyd hormonau; datgloi’r ffaith y tu ôl i’r ffuglen o ran maeth a chwalu chwedlau cyffredin am ffeithiau maeth.

Mae Dr Colin Robertson yn Ffisiolegydd Ymarfer Corff Clinigol enwog ac amlwg, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru, Maethegydd, Ymchwilydd Clinigol, gyda chyfoeth o wybodaeth a phrofiad o weithio gyda thimau elitaidd ac unigolion ar draws y byd. Roedd Colin yn ymddangos ar Ted Talk ei hun, ‘The Eternal Suffering of the Endurance Mind’ yn 2016.

Dywedodd Colin: “Mae maeth yn chwarae rhan fawr yn ein hiechyd a’n lles corfforol a meddyliol cyffredinol, ac mae’n siŵr y bydd y sgwrs hon yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i’ch helpu i fod ar eich gorau. Dydw i ddim wedi bod yn y Rhyl ers amser maith a pan wnes i barcio y tu allan i Bafiliwn y Rhyl heddiw, cefais fy syfrdanu, mae’n leoliad anhygoel, o’r safon uchaf gyda golygfa wych o Arfordir Gogledd Cymru! Rydw i mor falch o gael siarad yma gydag aelodau a chwsmeriaid HSDdCyf, mae’n wych gweld cymaint o bobl â diddordeb mewn bod y fersiwn orau ohonyn nhw eu hunain!”

Angerdd arbennig Colin yw chwaraeon eithafol, yn arbennig digwyddiadau pellter eithafol. Mae Colin wedi cefnogi a hyfforddi athletwyr o sawl disgyblaeth, o bêl-droed uwch gynghrair, rygbi, beicio proffesiynol, crefft ymladd, alldeithiau Everest a Marathon des Sables, i enwi dim ond rhai.

Dywedodd Jamie Groves: “Roeddem wrth ein bodd yn croesawu Colin i’r Rhyl, ac mae cael siaradwr byd-enwog ym Mwyty 1891, Pafiliwn y Rhyl yn anrhydedd i bob un ohonom yn HSDdCyf. Dyma un arall eto yn ein cyfres serennog o berfformwyr o’r radd flaenaf eleni ym Mhafiliwn y Rhyl. Mae HSDdCyf yn prysur ddod yn weithredwr o ddewis i nifer o arbenigwyr poblogaidd, gyda’r soffistigedigrwydd a’r awyrgylch hamddenol ym Mwyty a Bar 1891, mae’n lleoliad perffaith ar gyfer cynadleddau, digwyddiadau busnes a digwyddiadau corfforaethol.”

Fel cam olaf bŵt camp Eithafol HSDdCyf, a rhan o gyfres sgyrsiau newydd HSDdCyf, agorwyd y seminar i’r cyhoedd, gan gynnwys aelodau HSDdCyf am bris gostyngol.