Ar 29 Mawrth, bydd DLL yn dathlu 50 mlynedd o Ganolfan Hamdden Huw Jones, eu safle hamdden yng Nghorwen.

Wedi’i adeiladu’n wreiddiol fel pwll nofio, agorodd y cyfleuster ar 29 Mawrth 1974, yn dilyn ymgyrch gan y Cynghorydd William Roberts ar y pryd.  Roedd y Cynghorydd Roberts yn bendant bod angen rhywle yn y dref i blant lleol ddysgu nofio, yn dilyn dau ddigwyddiad boddi trasig yn yr Afon Dyfrdwy gerllaw. 

Cafodd y ganolfan hamdden, a gafodd ei rheoli am sawl blwyddyn gan fab y Cynghorydd Roberts, Adrian, ei hymestyn gan Wasanaethau Hamdden Cyngor Sir Ddinbych (DLL nawr) i gynnwys cyrtiau sboncen, ystafell ffitrwydd a chae 3G awyr agored. 

Yn 2020, daeth y cyfleuster yn rhan o Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL), sydd wedi parhau i fuddsoddi yn y cyfleuster lleol poblogaidd hwn, gan adnewyddu’r cyfleuster drwyddo draw, gan gynnwys neuadd y pwll, ardaloedd cylchredeg, ardal hyfforddi ymarferol newydd gydag offer blaenllaw yn y sector o’r enw Technogym Skill Range; yn ogystal ag ychwanegu stiwdio newydd i gynnal dosbarthiadau ymarfer corff.

Yn 2021, ailenwyd Canolfan Hamdden Corwen yn Ganolfan Hamdden Huw Jones, mewn teyrnged i Gynghorydd Sir lleol arall a oedd yn boblogaidd ac yn uchel ei barch, a fu farw yn anffodus yn 2020.  Roedd Huw Jones yn ymroddedig i gymuned Corwen ac fel Aelod Arweiniol Hamdden Cyngor Sir Ddinbych, chwaraeodd ran bwysig iawn yn y gwaith o wella a datblygu hamdden ar draws y sir.

Bellach mae gan Ganolfan Hamdden Huw Jones bwll nofio 20m, ystafell ffitrwydd sy’n cynnwys amrywiaeth o offer Technogym’s Excite Cardio, a dadansoddwr corff cyfan Tanita, gofod hyfforddi ymarferol ar y llawr cyntaf, cwrt sboncen â blaen gwydr, stiwdio ymarferol, a maes chwarae awyr agored gydag arwyneb 3G. 

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr DLL, Jamie Groves “Rydym yn hynod falch o Ganolfan Hamdden Huw Jones a’r gwasanaeth mae’n ei gynnig heddiw.  Wrth edrych yn ôl dros 50 mlynedd, mae’r cyfleuster wedi gweld llawer o ddatblygiadau a gwelliannau, ac mae bellach yn cynnig darpariaeth hamdden o’r radd flaenaf i drigolion Corwen a’i hymwelwyr.  Mae gan y safle enw da am gynnig gwasanaeth cyfeillgar, proffesiynol ac adlewyrchir hyn yn y tystebau niferus a gawn gan ein haelodau.”  

Dywedodd y Cynghorydd Alan Hughes “Mae Cyngor Sir Ddinbych yn falch iawn o weld Canolfan Hamdden Huw Jones yn cyrraedd carreg filltir mor wych, ac mae’r safle’n parhau i fod yn ased hynod bwysig i dref Corwen a’r ardaloedd cyfagos.  Er eu bod bellach yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau hamdden, mae’r tîm ar y safle yn dal i weithio’n galed iawn i gyflwyno rhaglen gynhwysfawr iawn o wersi nofio, ac rwy’n siŵr y byddai’r Cynghorydd William Roberts yn falch iawn o’u llwyddiant.”