DLL wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau GO 2026 yn dilyn llwyddiant Fframwaith Hamdden Cenedlaethol y DU
Canolfan Grefft Rhuthun yn ennill Gwobr Gwirfoddolwyr Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych am Hybu Diwylliant a Threftadaeth Cymru
DLL is celebrating after Ruthin Craft Centre has been awarded the 2026 Denbighshire Voluntary Services Council (DVSC) award for Promoting Welsh Culture & Heritage.
The team at Ruthin Craft Centre received the award in a ceremony held at Ruthin Craft Centre on Friday 5th June, for establishing their Volunteer Gallery Invigilation Scheme as part of the CELF National Contemporary Art Gallery for Wales initiative.
Ruthin Craft Centre is one of nine galleries across Wales who were selected to be part of the prestigious scheme, which is a method of ensuring the national collections of contemporary art in Wales can be enjoyed by everybody. Through an extensive loans programme from the National Museum in Cardiff and the National Library in Aberystwyth, collections are showcased at different venues across Wales, allowing people to explore the collections within their own localities.
The Volunteer Gallery Invigilation scheme was introduced in March 2025 to assist with CELF exhibitions throughout the year. Invigilators create a warm and welcoming atmosphere for visitors, ensure they have any resources or information relating to the exhibition, keep a watchful eye over artwork and exhibition materials, and record visitor feedback.
The DVSC hosts their annual Volunteer Awards to celebrate the dedication and impact of volunteers across the county. The awards also help to celebrate Volunteers Week, which takes place during the first week of June, and highlight the hard work of individuals who contribute to their local communities.
Jamie Groves, DLL Managing Director said “DLL has always been committed to providing the best possible customer experience to anyone visiting our venues, and Ruthin Craft Centre is no exception. The invigilator programme has proved to be extremely successful at raising awareness and increasing understanding of the Arts and the standard of commitment from our volunteer invigilators has exceeded our expectations on all fronts. We are very proud to receive this DVSC award, as our invigilators are such an excellent example of the benefits volunteers can bring to any organisation.”
Nofio’n ddiogel yr haf hwn gydag Academi Nofio DLL
Dathlu blwyddyn o ffitrwydd â chymorth pŵer yng Nghlwb y Rhyl gyda chynnig cyffrous newydd i aelodau
Mae DLL yn dathlu pen-blwydd blwyddyn eu brand technoleg ymarfer corff â chymorth pŵer poblogaidd ‘Assist Fit’ yng Nghlwb y Rhyl, gyda lansiad o aelodaethau newydd yn dechrau o £9.99 y mis.
Mae Assist Fit, sydd wedi’i leoli yng Nghlwb y Rhyl, wedi’i gynllunio i fod yr ateb perffaith i’r rhai sy’n byw gyda chyflyrau hirdymor a’r rhai nad ydynt yn teimlo’n barod ar gyfer amgylchedd campfa arferol. Mae technoleg ymarfer corff â chymorth pŵer yn ddiogel i bob gallu, gan nad oes angen i ddefnyddwyr ddarparu’r grym cymhellol i oresgyn inertia. Nid oes unrhyw bentyrrau pwysau i’w rheoli, dim ond technoleg ddiogel ac effeithiol, sy’n darparu ystod symudiad â chymorth gweithredol i ddefnyddwyr. Gall defnyddio Assist Fit helpu i feithrin hyder a helpu aelodau i symud ymlaen i weithgareddau pellach yn y dyfodol. I aelodau sy’n chwilio am ymarfer corff llawn effaith isel, mae Assist Fit yn darparu’r ‘llaw gymorth’ berffaith i gael eu cryfder yn ôl.
I ddathlu llwyddiant Assist Fit, mae DLL yn lansio tair aelodaeth newydd, gan gynnwys aelodaeth Cyplau ac aelodaeth penwythnos. Mae aelodaethau’n dechrau am £9.99 ac maent ar gael o’r 8fed Mehefin.
Yn ei flwyddyn gyntaf, mae Assist Fit wedi profi’n hynod boblogaidd o fewn y gymuned leol, gan ddarparu nid yn unig fuddion iechyd cadarnhaol, ond hefyd cyfle i gymdeithasu ag aelodau eraill. Dros y deuddeg mis cychwynnol, mae adborth gan ddefnyddwyr wedi bod yn arbennig, gyda llawer yn ymweld yn rheolaidd ac yn canfod bod y gampfa yn lle cyfforddus a hygyrch, gan ganiatáu iddynt gymryd rhan mewn ymarfer corff rheolaidd a chreu newidiadau ymddygiad cadarnhaol.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL “Mae DLL wedi ymrwymo erioed i ddod â chynigion hamdden i’w aelodau gyda’r nod o helpu i wella ffitrwydd, iechyd a lles meddyliol yn ein cymunedau. Mae Assist Fit wedi’i gynllunio i ganolbwyntio ar gwsmeriaid ag anghenion ffitrwydd penodol, lle nad yw ein hamgylchedd campfa yn addas ar eu cyfer ar hyn o bryd ac rydym wedi bod yn falch iawn o glywed am yr effaith cadarnhaol y mae Assist Fit wedi cael ar ein haelodau. Yn fwy cadarnhaol fyth, yw’r gymuned wych sydd wedi’i chreu o fewn amgylchedd Assist Fit. I ymestyn hyn ymhellach fyth, rydym wedi creu tair categori aelodaeth newydd yn benodol ar gyfer Assist Fit, ac yn gobeithio dod â manteision cadarnhaol y dechnoleg wych hon i fywydau hyd yn oed mwy o bobl.”
Mae manylion llawn yr aelodaethau newydd ar gael ar wefan DLL. Mae sesiynau blasu am ddim ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhoi cynnig ar Assist Fit, i archebu cysylltwch â Chlwb Y Rhyl ar 01824 774871.
Miloedd yn dathlu’r haul gyda HSDd wrth i’r haf ddechrau gyda haul tanbaid
Bu miloedd o breswylwyr lleol ac ymwelwyr yn dathlu’r haul gyda HSDd yr wythnos ddiwethaf, wrth i’r haf gyrraedd o’r diwedd gyda thywydd poeth. Am unwaith roedd y tymereddau o’n plaid dros wyliau’r ysgol, ac fe agorodd HSDd ei ddrysau i groesawu preswylwyr lleol ac ymwelwyr o bob cwr o’r DU.
Fe agorodd Pad Sblasio SC2 ar gyfer tymor yr haf dros benwythnos Gŵyl y Banc, a gyda’r tymereddau uchel, roedd y sesiynau yn llawn gydol yr wythnos. Roedd yr ardal sblasio boblogaidd yn lle perffaith i oeri rhywfaint, gadael i’r rhai bach losgi’u hegni tra bod yr oedolion yn gallu ymlacio. Roedd y parc dŵr dan do’n brysur hefyd, gyda miloedd wrth eu boddau gyda’r cafnau a’r llithrennau ac yn mwynhau’r dŵr!
Roedd Caban y Traeth gan HSDd sydd newydd ei agor yn y Nova yn rhoi ymdeimlad hiraethus o hwyl traeth traddodiadol ym Mhrestatyn, gyda’i ddetholiad blasus o hufen iâ Mario, coffi Costa ac anrhegion traeth. Gan fod popeth sydd ei angen arnoch i gael diwrnod ar y traeth yno, roedd Caban y Traeth yn llwyddiant arall gan HSDd!
Cafodd y tîm Cymunedau Bywiog hefyd hwyl yn yr haul yr wythnos ddiwethaf, gan gyflwyno amrywiaeth o ddigwyddiadau cymunedol yn yr awyr agored ar draws y Sir. Roedd llawer o blant a theuluoedd yn bresennol mewn digwyddiad ar y traeth yn y Rhyl gan dreulio prynhawn heulog braf yn mwynhau eu hunain yn cymryd rhan mewn gemau traeth. Fe ymunodd y tîm â phartneriaid (e.e. Gwasanaethau Ieuenctid CSDd, Chwarae CSDd, Grwpiau Cymunedol) i fynychu tair sesiwn gymunedol i deuluoedd yng Nghorwen, Rhuthun a Dinbych, lle buont yn helpu i gyflwyno gweithgareddau awyr agored e.e. criced, pêl-droed, tennis a seiclo.
Roedd bwyty Cwt y Traeth a Theras 1891 HSDd, sydd yn enwog am eu lleoliadau godidog a golygfeydd di-guro o arfordir Gogledd Cymru, yn falch o groesawu cwsmeriaid am brydau ysgafn, bwyd i fynd a swper blasus. Fe ymlaciodd nifer o gwsmeriaid gan fwynhau’r tywydd braf neu wylio’r haul yn machlud gyda diod oer. Gyda bwydlen Spritz newydd a bwydlen coctêls ar ei newydd wedd, fe agorodd bar coctêls gwych Cwt y Traeth, Mojitos, am ei benwythnos cynta’r flwyddyn, ac fel bob amser, bu’n lleoliad delfrydol i flasu amrywiaeth o goctêls a moctêls, yn cynnwys y clasuron.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych: “Pan mae’r haul yn tywynnu, does yna unlle gwell nag arfordir Gogledd Cymru! Felly os ydych chi eisiau mwynhau hwyl a gemau i’r teulu, mwynhau pryd blasus, neu eistedd ger y môr gyda choctêl yn eich llaw, mae yna rywbeth i bawb yn HSDd! Fel bob amser, fe fydd tîm HSDd yn gwneud ei orau i ddarparu haf i’w gofio i bawb, felly diolch i chi am eich cefnogaeth ac rydym ni’n edrych ymlaen at eich gweld yn ein lleoliadau’n fuan eto!”
Mae DLL yn annog gwirfoddolwyr i gefnogi eu cymunedau i fod yn egnïol
Miloedd yn mwynhau parc dŵr a phad sblasio SC2 Y Rhyl dros benwythnos Gŵyl y Banc
Mae’r haf yn dechrau yn y Rhyl y penwythnos hwn wrth i DLL roi dros 500 o docynnau AM DDIM i agoriad y Pad Sblashio yn SC2.
Gweithdai Celf Cyffrous a Goleuo Adeiladau i Gefnogi Wythnos Gweithredu ar Ddementia
Chwilio newyddion
Newyddion Diweddar
- DLL yn dod â haf o nosweithiau DJ i 1891 Y Rhyl 30 Gorffennaf 2026
- Hamdden Sir Ddinbych yn cefnogi dros 130 o ddigwyddiadau hwyliog am ddim ar hyd a lled Sir Ddinbych dros yr haf 23 Gorffennaf 2026
- Assist Fit yng Nghlwb Rhyl wedi newid bywydau medd aelodau 14 Gorffennaf 2026
- Curo’r Gwres yn y Pad Sblasio yn SC2 gyda sesiynau pris gostyngedig i breswylwyr 6 Gorffennaf 2026
- Sêr y Teledu a Ffefrynnau Panto’n dod i ddisgleirio yn Aladdin ym Mhafiliwn y Rhyl 6 Gorffennaf 2026
