DLL i gynnal Diwrnod Agored Ffitrwydd Cymunedol AM DDIM yng Nghlwb Nova, Prestatyn
Mae DLL yn cynnal Diwrnod Agored Ffitrwydd Cymunedol am ddim, ddydd Sul 13 Medi, 12pm-4pm, i ddangos y profiadau ffitrwydd gorau yng Nghlwb Nova Prestatyn.
Gyda champfa newydd gael ei hailwampio, amrywiaeth eang o ddosbarthiadau ymarfer corff i grwpiau, a gwersi nofio, mae yna weithgareddau i’r teulu cyfan yn y Diwrnod Agored Ffitrwydd.
Yn dilyn llwyddiant Diwrnod Agored Cymunedol y llynedd yng Nghlwb y Rhyl, fe fydd y digwyddiad, a gynhelir rhwng 12pm a 4pm yn cynnwys gweithgareddau am ddim, ynghyd â gostyngiadau arbennig ar gyfer sesiynau Chwarae Antur, a chynigion i unrhyw un sy’n dymuno cychwyn eu siwrnai ffitrwydd gyda DLL.
Fe fydd prif hyfforddwr Technogym, Kara Frost yn dychwelyd ar ôl galw mawr i gyflwyno clinigau dosbarth meistr Technogym, yn cynnwys clinig i ferched yn unig, ynghyd ag adloniant i’r teulu a DJ. Fe fydd bwyty Cwt y Traeth a Chaffi Chwarae poblogaidd y Nova ar agor, a bydd gostyngiadau arbennig ar gael ar brydau a byrbrydau.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL, “Rydym ni wir yn edrych ymlaen at ddangos y gorau sydd gan y Nova i’w gynnig i bawb yn ein Diwrnod Agored Ffitrwydd Cymunedol. Rydym ni’n falch iawn o’n hatyniad enwog, sydd â phopeth y mae’r gymuned ei angen ar gyfer ffitrwydd a chwarae ynghyd â’r bwytai gorau dan do ac yn yr awyr agored. Gyda gweithgareddau i bob oedran ac arweiniad gan arbenigwyr ar gael drwy gydol y dydd, fe fydd y Diwrnod Agored Ffitrwydd yn cynnig rhywbeth i bawb. Mae ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein cyfleusterau yn golygu bod y Nova yn enghraifft berffaith o safon a gwerth eithriadol y gall aelodau DLL ei fwynhau. Mae’r tîm cyfan yng Nghlwb Nova yn edrych ymlaen at ddangos i bawb yr hyn sydd gan DLL i’w gynnig i’r gymuned, felly dewch draw i ymuno â ni am yr hyn sydd yn sicr o fod yn ddiwrnod o ffitrwydd a hwyl!”
Gall rhai nad ydynt yn aelodau archebu o ddydd Sul 30 Awst trwy gysylltu â’r safle ar 01824 774872. Gall aelodau archebu o ddydd Sul 6 Medi ar Ap DLL.
