Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn falch o lansio partneriaeth gyda Heart North and Mid Wales, er mwyn hyrwyddo lleoliadau, atyniadau a safleoedd hamdden HSDd ar draws y rhanbarth i wrandawyr Heart.

Daeth HSDd a Heart North and Mid Wales yn bartneriaid yn 2025 ar gyfer ail agoriad atyniad enwog Hamdden Sir Ddinbych, sef SC2 y Rhyl, ac mae’r tîm bellach yn ôl gyda’i gilydd.

Meddai Kristy John, Cyfarwyddwr Gorsaf Heart North and Mid Wales: “Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Hamdden Sir Ddinbych Cyf eto am flwyddyn arall, mae HSDd wrth galon maes hamdden a thwristiaeth Gogledd Cymru felly rydym yn falch o gyhoeddi’r bartneriaeth 12 mis yma.  Mae’n enghraifft wych o sut gall radio ddod â brandiau lleol enwog yn nes at ein gwrandawyr ffyddlon, ar yr awyr ac allan yn y gymuned mewn lleoliadau fel HSDd.

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd “Mae gweithio gyda brand cenedlaethol fel Heart North and Mid Wales yn wych i ni fel cwmni ac rydym yn gyffrous ein bod mewn partneriaeth gyda nhw eto am ail flwyddyn.  Mae gan Heart North and Mid Wales gynulleidfa enfawr ac rydym ni’n credu y bydd y bartneriaeth hon nid yn unig o fudd i HSDd, ond i Sir Ddinbych gyfan. Mae ethos Heart North and Mid Wales yn cynnwys yr un gwerthoedd â HSDd ac rydym ni wir yn gyffrous ein bod am gydweithio dros y 12 mis nesaf.”