SC2 Y Rhyl yn cadw ei Wobr Aur am Ragoriaeth gan Croeso Cymru
Mae SC2, atyniad twristiaeth enwog HSDd, wedi llwyddo i gadw ei Wobr Aur anrhydeddus gan Croeso Cymru, yn gydnabyddiaeth am ei safonau uchel fel Atyniad Ymwelwyr â Sicrwydd Ansawdd.
Wedi’i leoli ar bromenâd y Rhyl, mae SC2 yn denu dros 10,000 o ymwelwyr yr wythnos i’r Rhyl yn ystod yr haf, ac mae’n un o brif atyniadau twristiaeth gogledd Cymru.
Yn dilyn Asesiad o Atyniadau Ymwelwyr trylwyr gan Croeso Cymru, dyfernir y Wobr Aur i atyniadau sydd yn cyflawni rhagoriaeth am eu cyfleusterau a gwasanaethau i gwsmeriaid. Mae’r asesiad manwl yn edrych ar daith y cwsmer o’ch dechrau i’r diwedd, ac yn yr adroddiad, fe nodir fod yna nodweddion ardderchog i ymwelwyr o bob oed, ac fe ganmolir SC2 am ei daclusrwydd perffaith a lefelau uchel o lendid.
Mae yna rywbeth i’r teulu cyfan yn SC2, gyda pharc dŵr a reidiau cafn syfrdanol, Pad Sblasio yn yr awyr agored ar gyfer diwrnodau cynnes yr haf, Ninja Tag, cwrs rhwystrau aml lefel cyffrous a Chwarae Antur, ardal chwarae â thema dinosoriaid i ymwelwyr iau. Mae Bwyty’r Goedwig Law a’r Teras awyr agored yn llefydd perffaith i’r teulu gael rhywbeth i fwyta ar ôl eu hanturiaethau.
Meddai Chelsea Bond, tîm Sicrhau Safon Croeso Cymru: “Llongyfarchiadau ar gyflawni Safon Atyniad â Sicrwydd a’r Wobr Aur unwaith eto eleni”.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd, “Mae’r wobr yma’n cydnabod y cynnig gwych yr ydym yn ei ddarparu yn SC2. Mae ein tîm yn gweithio’n arbennig o galed ac yn ymfalchïo yn y ffaith fod cwsmeriaid yn derbyn y profiadau gorau posibl pan maen nhw’n ymweld â ni. Mae’r asesiad gan Croeso Cymru yn cael ei gynnal ar ffurf ymwelydd cudd, felly mae hi’n amhosibl i ni flaen gynllunio. Rydym yn falch ein bod wedi cael marciau llawn mewn sawl rhan o’r asesiad ac yn dilyn y wobr, rydym yn hyderus ein bod yn darparu gwasanaeth o safon euraidd i’n cwsmeriaid o ddydd i ddydd. Mae’n anrhydedd ein bod wedi llwyddo i gadw’r wobr unwaith eto, ac rydym yn edrych ymlaen at greu hyd yn oed mwy o atgofion gwych dros yr haf i’n hymwelwyr.”
