Cynhaliwyd digwyddiad BeachROX cyntaf erioed yr RNLI, a gefnogwyd gan DLL, y penwythnos diwethaf ar Arena Digwyddiadau’r Rhyl a thraeth y Rhyl, i ddathlu 25 mlynedd ers achubwyr bywyd yr RNLI.
 
Cynhaliwyd y digwyddiad cymunedol llwyddiannus, a oedd yn un o raglen ehangach o weithgareddau i ddathlu 25 mlynedd ers sefydlu Achubwyr Bywyd yr RNLI yn 2026, yng Ngorsaf Bad Achub y Rhyl rhwng 4pm a 9pm, ddydd Sadwrn 15 Awst yn y Rhyl, a bu nifer wych o bobl yno yn cymryd rhan. 
 
Mae BeachROX yn her ar y traeth sydd wedi’i ysbrydoli gan Hyrox, ac mae’n cyfuno dygnwch, ffitrwydd gweithredol ac elfennau bad achub ac achub bywyd yr RNLI gyda dros 80 o gyfranogwyr yn cymryd rhan.
 
Cafodd cryfder, stamina a phenderfyniad y cyfranogwyr eu profi, ac fe aethant ati’n frwdfrydig p’un a ddaethant draw i gael hwyl gyda’u ffrindiau, neu am eu bod eisiau her ffitrwydd gwirioneddol.  
 
Er mwyn helpu i gefnogi’r digwyddiad gwych yma, darparodd HSDd amrywiaeth o’i offer ffitrwydd gorau, ac fe  ymunodd un o hyfforddwyr ysbrydoledig HSDd â’r RNLI ar y diwrnod. Derbyniodd pob cyfranogwr a gwblhaodd y digwyddiad daleb ar gyfer bwyty blaenllaw DLL, 1891.
 
Dywedodd Lucy Tilston, Goruchwylydd Arweiniol Achubwyr Bywyd “Dydd Sadwrn cynhaliom ein digwyddiad BeachROX cyntaf un yng Ngorsaf Bad Achub y Rhyl, gyda mwy na 85 o gyfranogwyr yn cymryd y cwrs heriol o 8 x 1km o rediadau, pob un wedi’i gyfuno ag ymarfer ymarferol wedi’i ysbrydoli gan weithgareddau achub bywyd allweddol. Roeddem wrth ein bodd i gael cwmni dylanwadwyr Jamie Ayshford ac Alexandra Huffen, a gefnogodd a gymerodd ran yn y digwyddiad. Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol, ac ni allem fod wedi’i wneud heb gefnogaeth anhygoel ein gwirfoddolwyr RNLI a’r cymorth gwych gan DLL, a weithiodd ochr yn ochr â ni drwy gydol y digwyddiad. Rydym eisoes wedi cael llawer o bobl yn gofyn pryd fydd yr un nesaf, felly cadwch lygad ar ein gwefan Instagram: rnli_lifeguards_northwales am ddiweddariadau yn y dyfodol!”
 
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL “Ers cyflwyno Achubwyr Bywyd cyntaf yr RNLI 25 mlynedd yn ôl, mae eu timau wedi achub mwy na 2,000 o fywydau ar draws y DU. Gan fod ein harfordir hardd yn rhan mor annatod o’n bywydau yma yn Sir Ddinbych, rydym i gyd yn ddiolchgar am y mae gwaith mae RNLI yn ei wneud yn ddyddiol.  Gan fod ffitrwydd yn rhywbeth rydym ni’n angerddol yn ei gylch yn HSDd, roeddem wrth ein boddau yn cefnogi’r digwyddiad gwerth chweil yma ac rydym yn falch fod pawb wedi cael prynhawn gwych, boed nhw’n cymryd rhan neu’n cefnogi ffrindiau neu deulu. Mae’r RNLI yn gwneud cyfraniad enfawr i gymuned y Rhyl ac rydym ni’n falch ein bod wedi cefnogi’r prynhawn yma i’w gofio!” 
 
Am y 25 mlynedd diwethaf, mae Achubwyr Bywyd yr RNLI wedi bod yn helpu i gadw ein harfordiroedd yn fwy diogel. Fel rhan o ddathliadau 25 mlwyddiant Achubwyr Bywyd yr RNLI, mae’r RNLI yn gobeithio codi cymaint o roddion â phosib i gefnogi eu gwaith achub bywyd a’u helpu i barhau i achub bywydau am flynyddoedd lawer i ddod.