Mae aelodau yng Nghlwb Rhyl sy’n defnyddio ystafell Assist Fit modern Hamdden Sir Ddinbych wedi dweud ei fod wedi newid bywydau a bod yna ymdeimlad o gymuned yno.
 
Mae Dilys Bagnall, 87, o’r Rhyl, wedi bod yn defnyddio Assist Fit ers iddo agor flwyddyn yn ôl ac mae hi’n creu bod defnyddio’r stiwdio yn aml wedi bod o fudd iddi hi yn feddyliol ac yn gorfforol, a phobl eraill mae hi’n ymarfer corff gyda nhw’n rheolaidd.
 
Mae Assist Fit, sydd wedi’i leoli yng Nghlwb Rhyl poblogaidd Hamdden Sir Ddinbych, wedi’i ddylunio i fod yn ddatrysiad perffaith i’r rheini sy’n byw gyda chyflyrau hirdymor a’r rhai sy’n teimlo nad ydynt yn barod ar gyfer amgylchedd campfa arferol.  Mae technoleg ymarfer corff gyda chymorth pŵer yn ddiogel i bob gallu, gan nad yw defnyddwyr yn gorfod darparu’r pŵer symudol i oresgyn llesgedd.
Gall defnyddio Assist Fit helpu i fagu hyder a helpu aelodau o bosibl i symud ymlaen i weithgareddau pellach yn y dyfodol.   I’r aelodau sy’n chwilio am ymarferion effaith isel i’r corff cyfan, mae Assist Fit yn rhoi help llaw perffaith iddynt gael eu cryfder yn ôl.
 
Meddai Dilys: “Dwi wedi gweld sut mae wedi bod o fudd yn gorfforol ac yn feddyliol i bobl eraill sydd yn dod yma.  Mae werth ei wneud ac mae ar gael i unrhyw un! Dwi’n teimlo fel ei fod yn rhoi diwedd ar unigrwydd ac mae yna ymdeimlad cymunedol o fod yn sesiynau Assist Fit. Mae tîm Hamdden Sir Ddinbych sydd ar y safle yn hyfryd ac yn groesawgar iawn.  Mae’n sicr wedi fy helpu i yn gorfforol, fe ges i glun newydd 18 mlynedd yn ôl a ‘dwi wedi cael dwy ben-glin newydd, ynghyd â phinnau a phlatiau yn fy nhraed, ac mae hyn yn sicr yn helpu.  Mae wedi newid fy mywyd a dwi wedi cyfarfod pobl hyfryd”.
Yn ei flwyddyn gyntaf, mae Assist Fit wedi bod yn boblogaidd iawn yn y gymuned leol, gan ddarparu nid yn unig buddion iechyd, ond cyfle i gymdeithasu gydag aelodau eraill.   Dros y deuddeg mis cychwynnol, mae’r adborth gan ddefnyddwyr wedi bod yn eithriadol, ac mae nifer yn ymweld yn rheolaidd ac yn meddwl bod y gampfa’n lle cyfforddus a hygyrch, gan alluogi iddynt ymgysylltu mewn ymarfer rheolaidd a chreu newidiadau cadarnhaol yn eu hymddygiad.  
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych:  “Mae’n wych clywed sut mae aelodau’n elwa o Assist Fit. Mae Assist Fit yn ymwneud â chefnogaeth, cymuned a lles ac mae’n glod i’r tîm yng Nghlwb Rhyl am eu gwasanaeth gwych i gwsmeriaid.  Mae Hamdden Sir Ddinbych wedi bod yn ymroddedig i gyflwyno cynigion hamdden i’w aelodau gyda’r nod o wella ffitrwydd, iechyd a lles meddyliol yn ein cymunedau.   Mae Assist Fit wedi’i ddylunio i ganolbwyntio ar gwsmeriaid gydag anghenion ffitrwydd penodol, ac i bobl nad ydi amgylchedd ein campfa yn addas, ac rydym yn falch iawn o glywed am fanteision Assist Fit ymysg ein haelodau.   Mae’r gymuned wych sydd wedi cael ei ffurfio o fewn amgylchedd Assist Fit yn newyddion mwy cadarnhaol.
 
Mae manylion llawn yr aelodaeth newydd ar gael ar wefan Hamdden Sir Ddinbych.   Mae sesiynau blasu am ddim ar gael i unrhyw un sydd awydd rhoi cynnig ar Assist Fit. I archebu, cysylltwch â Chlwb Rhyl drwy ffonio 01824 774871.