Hamdden Sir Ddinbych yn cefnogi dros 130 o ddigwyddiadau hwyliog am ddim ar hyd a lled Sir Ddinbych dros yr haf
Mae Hamdden Sir Ddinbych a’i bartneriaid yn dod â dros 130 o ddigwyddiadau lles am ddim i Sir Ddinbych ar gyfer plant a phobl ifanc dros yr haf.
Bydd y sesiynau am ddim yn cynnwys gweithgareddau ar y traeth, pêl-droed merched, sesiynau chwarae, digwyddiadau ieuenctid a diwrnodau o hwyl i’r teulu, ac maen nhw wedi’u creu i gynnig rhaglen o ddigwyddiadau am ddim i deuluoedd mewn amgylchedd hwyliog, diogel a chroesawgar. Gan gydweithio â nifer o sefydliadau partner, bydd tîm Chwaraeon Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych yn cefnogi’r sesiynau hwyliog hyn mewn cymunedau ar hyd a lled y sir.
Bydd digwyddiadau’r gogledd yn cynnwys diwrnodau ar y traeth, sesiynau chwarae, sesiynau pêl-droed merched a llawer mwy, ac ymhellach i’r de, bydd y sesiynau’n cynnwys pêl-droed mynediad agored, diwrnodau o hwyl i’r teulu a Diwrnodau Chwarae Cenedlaethol. Gyda chyllid o Gronfa Gymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, ac mewn cydweithrediad â Gwasanaethau Ieuenctid CSDd, bydd digwyddiadau ‘Miri Mawr yr Haf’ i bobl ifanc dros 11 oed hefyd yn cael eu cynnal mewn nifer o gymunedau.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Gyda chwe wythnos o wyliau’r haf o’n blaenau, mae pawb yn gwybod y gall diddanu plant a phobl ifanc fod yn waith drud braidd. Mae Tîm Chwaraeon Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio gyda nifer o sefydliadau partner i lunio rhaglen wych o weithgareddau lles mewn cymunedau ar hyd a lled Sir Ddinbych, a’r rheiny i gyd YN RHAD AC AM DDIM. Mae yna ddigon o ddewis ar gael, gyda rhywbeth i ddiddanu pawb ac i gadw hyd yn oed y plantos mwyaf egnïol yn brysur! Felly p’un a ydych chi yn Llangollen neu ym Mhrestatyn, cofiwch ddod draw i gymryd rhan mewn cymaint o’r digwyddiadau ag y gallwch chi!”
Mae’r manylion llawn i’w gweld ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol, ac i gael gwybodaeth ewch draw i’n gwefan https://denbighshireleisure.co.uk/ac-2026/
