Daeth gwersyll bŵt camp gyntaf HSDdCyf i ben gyda chlec yr wythnos hon, ar ôl diweddglo dwys o ddau ddiwrnod o Ruthun i Brestatyn.

Daeth cefnogwyr ffitrwydd at ei gilydd i ymgymryd â her trydydd cam bŵt camp Eithafol HSDdCyf, gan ei alw’n ‘y bŵt camp gorau o gwmpas’ ac yn ‘rhagorol o’r dechrau i’r diwedd’.

Dechreuodd y bŵt camp Eithafol ar y dydd Sadwrn yn Nova, gan gychwyn gyda thaith cerdded gyda stretsier i fyny Graig Fawr Meliden, yna bŵt camp ar y traeth, pilates yng Nghlwb Nova, brecwast iach, cinio a byrbrydau yng Nghwt y Traeth  cyn tarfu’r diwrnod gyda gêm o rownderi!

Taith gerdded gyda’r stretsier i fyny Moel Famau oedd y gweithgaredd cyntaf ar y dydd Sul, gyda chinio yng Nghaffi R i ddilyn, yna i’r Rhyl am ysgytlaeth protein o 1891, a Ioga yng Nghlwb Rhyl i orffen y diwrnod gyda chlec a bŵt camp y tu allan yng Nghlwb y Rhyl.

Cynhaliwyd seremoni wobrwyo nos Lun I gyflwyno tystysgrifau i’r cyfranogwyr, hwdis personol, medalau yn ogystal â bwyd a diod ym 1891. Yn dilyn hyn, rhoddodd y maethegydd uchel ei glod, Dr Colin Robertson, seminar i’r grŵp yn trafod ffitrwydd a maeth.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDdCyf: “Rydym wedi ein syfrdanu gan yr adborth o’r bŵt camp hwn! Dyma’r ffordd berffaith i lansio ein bŵt camp Eithafol, a chydiodd y grŵp yr her yn llwyr a gwthio eu hunain i’r eithaf! Yn dilyn y bŵt camp hwn sydd wedi gwerthu allan, rydyn ni nawr yn edrych i redeg mwy yn hwyrach yn y flwyddyn ac ailgychwyn y bŵt camp tri cham y flwyddyn nesaf hefyd! Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, roedd ymrwymiad ein hyfforddwyr heb ei ail ac rydym yn falch iawn o bawb a gymerodd ran.”