Mae tîm Celfyddydau Cymunedol DLL wedi cynllunio ystod o brosiectau celfyddydol i hyrwyddo a dathlu Wythnos Genedlaethol Rhwng Cenedlaethau rhwng 24 a 30 Ebrill.

2024 yw pedwaredd flwyddyn Wythnos Genedlaethol Rhwng Cenedlaethau, yr ymgyrch fyd-eang flynyddol sy’n annog pobl o bob oed i groesawu arferion a pherthnasoedd rhwng cenedlaethau. Mae’r ymgyrch yn ceisio dod â phobl at ei gilydd i ffurfio cysylltiadau a chyfeillgarwch pwysig a pharhaol, ac i fwynhau prosiectau sydd â buddion fel gwelliannau lles, tra hefyd yn addysgiadol ac yn hwyl.

Bydd y rhaglen a ddyluniwyd gan y Gwasanaeth Celfyddydau Cymunedol yn cynnwys disgyblion o Ysgol Borthyn, Rhuthun yn ymuno â’r Grŵp Ymgolli Mewn Celf ar ddydd Mawrth rhwng 1-3pm yng Nghanolfan Grefft Rhuthun i fwynhau prynhawn o chelf a chrefft. Mae Ymgolli Mewn Celf yn brosiect sydd wedi’i anelu at bobl sy’n byw gyda dementia, ynghyd ag aelodau o’u teulu a’u gofalwyr, a’i nod yw defnyddio celfyddydau gweledol i fynd i’r afael â materion fel ynysu cymdeithasol.

Mae Paned a Chân, y grŵp cymunedol canu Cymraeg er lles wythnosol ym mhentref Llanrhaeadr wedi’i wahodd i ymuno â disgyblion Ysgol Bro Cinmeirch ar ddydd Mawrth, 30 Ebrill (10.30am-11.30am) ar gyfer sesiwn ganu hwyliog rhwng cenedlaethau i ddathlu Wythnos Genedlaethol Rhwng Cenedlaethau mewn partneriaeth gyda Chanolfan Gerdd William Mathias.

Yn ogystal ag Wythnos Genedlaethol Rhwng Cenedlaethau, mae’r tîm yn parhau i weithio ar ystod o brosiectau parhaus, megis cefnogi adran Tai CSDd i ymgysylltu â’u dinasyddion ledled y sir trwy ymyriadau creadigol; cefnogi Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych i redeg grwpiau celf greadigol yng Nghanolfan Ni yng Nghorwen a Chanolfan Pengwern yn Llangollen a gweithio gyda chymdeithasau tai i gefnogi gweithgaredd creadigol mewn cyfleusterau gofal ychwanegol fel Gorwel Newydd (Clwyd Alyn), Awel y Dyffryn a Llys Awelon (Grŵp Cynefin). Mae’r tîm hefyd yn rhedeg ‘Story Pals’, prosiect cyfeillgarwch creadigol sy’n pontio’r cenedlaethau rhwng gwahanol ysgolion cynradd a chartrefi gofal ac ysbytai cymunedol yn Sir Ddinbych ac yn gweithio’n rheolaidd mewn partneriaeth â sefydliadau trydydd sector fel Kim Inspire a Mind Dyffryn Clwyd i drefnu pob math o weithdai creadigol gwahanol ar gyfer pobl sy’n byw gyda heriau iechyd meddwl ym Mhrestatyn, y Rhyl, Corwen a Llangollen.

Bydd DLL hefyd yn goleuo adeiladau yn y Rhyl mewn pinc i gefnogi Wythnos Genedlaethol Rhwng Cenedlaethau.

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL “Mae DLL yn falch iawn o gefnogi Wythnos Genedlaethol Rhwng Cenedlaethau trwy’r mentrau celfyddydol dyfeisgar ac ysbrydoledig hyn. Mae ein Tîm Celfyddydau Cymunedol wastad wedi gweithio’n eithriadol o galed i ddod ag ystod o brosiectau ysgogol, addysgol a phleserus at ei gilydd i bobl o bob oed ar draws Sir Ddinbych eu mwynhau. Mae’n bwysig cofio nad yw gwaith Gwasanaeth Celfyddydau Cymunedol DLL wedi’i gyfyngu i Wythnos Genedlaethol Rhwng Cenedlaethau yn unig, yn ychwanegol, maent yn brysur yn cyflwyno llawer o fentrau tebyg yn rheolaidd, sy’n gweld manteision cadarnhaol i lawer o drigolion ar draws y sir.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn unrhyw un o’r prosiectau uchod, cysylltwch â Siân Fitzgerald ar Sian.Fitzgerald@hamddensirddinbych.co.uk.