Cafwyd llwyddiant ysgubol yn y Diwrnod Agored Ffitrwydd Cymunedol am ddim a gynhaliwyd ddydd Sul 13 Medi yng nghlwb DLL, Club Nova Prestatyn; mwynhaodd bron i 1,000 o bobl bopeth sydd gan y ganolfan ffitrwydd o safon uchel i’w gynnig.
 
Roedd y Diwrnod Agored, a gynhaliwyd ddydd Sul 13 Medi, yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i’r teulu cyfan, gan gynnwys teithiau o amgylch y gampfa sydd newydd ei hadnewyddu, amrywiaeth gwych o ddosbarthiadau ymarfer corff grŵp, sesiynau nofio a dosbarthiadau meistr Technogym.
 
Roedd sesiynau am bris gostyngol ar gael hefyd ar gyfer yr ardal chwarae antur môr-ladron, yn ogystal ag adloniant teuluol hwyliog yn yr awyr agored dan arweiniad DJ lleol, gan fanteisio i’r eithaf ar y tywydd gwych.
 
Roedd llawer o’r gweithgareddau ffitrwydd wedi’u harchebu’n llawn cyn y digwyddiad, ac roedd awyrgylch bywiog iawn yn y ganolfan drwy gydol y dydd. Roedd bwyty poblogaidd ‘Cwt y Traeth’ a’r ‘Caffi Chwarae’ yn Nova hefyd yn brysur, gyda llawer o bobl yn manteisio ar y gostyngiadau arbennig ar brydau a byrbrydau.
 
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Gweithiodd y tîm yn Nova yn galed iawn i drefnu digwyddiad i arddangos ein canolfan wych, ac rydym wrth ein bodd bod y diwrnod wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae gweld cymaint o bobl yn cael hwyl ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ffitrwydd, waeth beth fo’u hoedran na’u profiad, yn union yr hyn yr oeddem yn gobeithio amdano. Rydym yn angerddol am ffitrwydd, ac yn falch iawn o’n prif ganolfan hefyd, felly fe wnaethom greu amrywiaeth o weithgareddau a fyddai’n apelio at bawb ac yn creu digwyddiad cymunedol go iawn. Mae ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein cyfleusterau yn golygu bod Nova yn enghraifft berffaith o’r ansawdd a’r gwerth eithriadol y mae aelodau DLL yn eu mwynhau bob dydd, ac roeddem am ymestyn hyn i’r gymuned leol. Gobeithiwn fod pawb wedi cael amser gwych, a’n bod wedi ysbrydoli rhai pobl i ddechrau ar eu taith ffitrwydd gyda DLL!”