Cynllun Grant Cymunedol HSDdCyf

beth yw e?
pwy gall ymgeisio?
cyllid ar gael
amserlen
sut i ymgeisio
ffurflen gais

Beth yw Cronfa Grantiau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych?

Bydd Cynllun Grantiau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych yn fodd i sefydliadau bach fel clybiau chwaraeon lleol a grwpiau celfyddydol i ymgeisio am gyllid i ariannu celfyddydau lleol, gweithgareddau diwylliannol a chreadigol a chyfleusterau chwaraeon i gynnal twrnameintiau a thyfu timau a chynghreiriau newydd.

Bydd y cynllun Grantiau Cymunedol ar gael i’r holl glybiau a sefydliadau cymwys yn Sir Ddinbych ond byddwn yn rhoi sylw penodol i sicrhau y cefnogir ardaloedd difreintiedig. Anogir clybiau a sefydliadau i gynnig prosiectau sy’n cefnogi grwpiau lleiafrifol.

Mae cyllid cyfalaf a refeniw ar gael.

CYFALAF – gellir defnyddio cyllid cyfalaf i brynu asedau newydd neu adnewyddu rhai presennol. Mae disgwyl i’r rhain fod â “budd i’r gymuned ehangach” ac y byddant yn para o leiaf pum mlynedd.

REFENIW – gellir defnyddio cyllid refeniw pan nad oes ased parhaol dan sylw. Gellir defnyddio cyllid refeniw i gynnal digwyddiadau, perfformiadau a gweithgareddau, talu costau gweithredu’r sefydliad neu dalu am deithiau ac ati. Gall hyn fod ar gyfer hamdden, chwaraeon, celfyddydau, diwylliant neu iechyd a lles. Mae’n rhaid dangos budd i’r gymuned.

Pwy gall ymgeisio?

Pwy sy’n gymwys i ymgeisio:

  • Grwpiau cymunedol a gwirfoddol
  • Clybiau chwaraeon neu fudiadau cymunedol dielw
  • Cynghorau Tref a Chymuned
  • Elusennau sy’n darparu gwasanaethau lleol a chefnogaeth (gan gynnwys grwpiau mewn lifrai)
  • Ysgolion a sefydliadau addysgol

I fod yn gymwys mae’n rhaid ichi ddangos sut fydd y prosiect yn hybu un o amcanion y Gronfa Ffyniant Gyffredin:

  • Cefnogi gweithgareddau creadigol, diwylliannol, treftadaeth a chelfyddydau lleol
  • Cyllid ar gyfer cyfleusterau chwaraeon, twrnameintiau, timau a chynghreiriau lleol; i ddod â phobl at ei gilydd.

Cyllid ar gael

Mae’r holl grantiau (cyfalaf a refeniw) yn agored i glybiau chwaraeon, sefydliadau celfyddydol a diwylliannol.

  Cyfalaf Refeniw
23/24 £60,000 Cyfanswm

(£20,000 ar gyfer y celfyddydau a diwylliant a £40,000 ar gyfer chwaraeon)

£0
24/25 £200,000 Cyfanswm

(£40,000 ar gyfer y celfyddydau a diwylliant a £160,000 ar gyfer chwaraeon)

£170,000 Cyfanswm

(£72,500 ar gyfer y celfyddydau a diwylliant a £97,500 ar gyfer chwaraeon)

Graddfeydd Amser

Bydd yno DDAU brif gylch ar gyfer ceisiadau:

CYLCH 1: Yn agor ddydd Llun 13 Tachwedd ac yn cau 11 Rhagfyr 2023 Cyllid cyfalaf yn unig

CYLCH 2: Yn dechrau 22 Ionawr 2024 ac yn cau 19 Chwefror 2024 Cyllid refeniw a chyfalaf

Mae’n rhaid gwario’r holl gyllid erbyn 31 Hydref 2024 fan bellaf yn ddieithriad.

Sut i Ymgeisio

Gallwch wneud cais trwy lawrlwytho’r ffurflen gais oddi ar ein gwefan. Bydd angen dychwelyd y ffurflen wedyn i activecommunities@denbighshireleisure.co.uk

neu drwy’r post i’r :

Tîm Cymunedau Bywiog, Hamdden Sir Ddinbych, 8-11 Trem y Dyffryn, Stad Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych LL16 5TX.

ffurflen gais
amodau a thelerau

‘Ariennir y prosiect hwn gan lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.’
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog o agenda Lefelu i Fyny llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder yn ei lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i:

https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus

I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau eraill Cronfa Ffyniant a Rennir Sir Ddinbych, ewch i

UK Shared Prosperity Fund | Denbighshire County Council

Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu