Celfyddydau Cymunedol

Adnoddau Cymunedol
Y Celfyddydau Mewn Iechyd a Lles
Ymgolli mewn Celf
Noson Allan

Mae tîm Celfyddydau Cymunedol DLL yn dathlu Diwrnod Presgripsiynu Cymdeithasol gyda llwyddiant rhaglen gelfyddydol.

Mae tîm Celfyddydau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL) wedi bod yn dathlu llwyddiant ei raglen gelfyddydol o fewn cymunedau lleol.

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn cysylltu pobl â chymorth anfeddygol sy’n helpu i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar iechyd, ond na ellir eu trin gan feddygon neu feddyginiaeth yn unig, fel unigrwydd, arwahanrwydd neu straen. Mae Diwrnod Presgripsiynu Cymdeithasol a gynhelir ddydd Mercher 19 Mawrth yn ddathliad blynyddol o grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol sy’n cefnogi iechyd a lles pobl.

Llwyddodd DLL i gael grant Cronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU i greu prosiectau llesiant creadigol a rhyng-genhedlaeth newydd ar draws y sir, a chyflawnodd y tîm Celfyddydau Cymunedol raglen o weithgareddau a gynlluniwyd i rymuso pobl i reoli problemau iechyd presennol a helpu pobl i gysylltu a thyfu mewn hyder. Cymerodd dros 2,000 o unigolion ran mewn amrywiol sesiynau cerddoriaeth, dawns, celf a chreadigol rhwng Gorffennaf 2023 a Thachwedd 2024. Roedd gan rai sesiynau amcan clir i ddefnyddio’r celfyddydau i gefnogi pobl ag  anghenion iechyd a lles amrywiol megis dementia, gorbryder, straen neu iselder. Roedd canlyniadau unigolion a fynychodd weithgareddau tymor hwy yn dangos 79% yn teimlo’n llai unig. Roedd gan 83% newid cadarnhaol yn eu lles meddyliol ac roedd gan 79% well hunan-barch.

Roedd y rhaglen yn cynnwys Ymgolli mewn Celf yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, ynghyd â chyngherddau a sesiynau cerddoriaeth yn y gymuned, cartrefi gofal a chyfleusterau gofal ychwanegol mewn partneriaeth â Chanolfan Gerdd William Mathias. Bu’r tîm hefyd yn cydlynu prosiectau rhwng cenedlaethau gyda disgyblion ysgol ac ysbytai cymunedol a nifer o brosiectau creadigol yn cefnogi iechyd meddwl a lles pobl gyda phartneriaid fel Kim Inspire, Mind Dyffryn Clwyd a Chanolfan Ni yng Nghorwen. Cynhaliodd tîm DLL 38 o brosiectau celf gwahanol, gan gyflogi 34 o artistiaid llawrydd a chyfrannu mwy na £50,000 i’r economi greadigol leol. Mae adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd gan Social Value Cymru wedi dangos bod pob £1 a fuddsoddir yn darparu mwy na 5x y swm mewn gwerth cymdeithasol i unigolion sy’n cymryd rhan mewn prosiectau celfyddydau DLL.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL ‘Mae ein tîm Celfyddydau Cymunedol wedi gweithio’n eithriadol o galed i gyflwyno eu rhaglen o fewn ein cymunedau. Mae rhagnodi cymdeithasol yn elfen hynod bwysig o fynd i’r afael â materion difrifol sy’n effeithio ar iechyd, a gall ein rhaglen ddangos yr effeithiau cadarnhaol y mae wedi’u cael ar iechyd a lles pobl. Yn ogystal â’r manteision hyn, mae’r rhaglen hefyd wedi cyfrannu’n llwyddiannus at yr economi greadigol leol, rhywbeth y gallwn oll fod yn hynod falch ohono.”


Rydym yn gweithio i hyrwyddo, cefnogi a datblygu gweithgaredd celfyddydol yng nghymunedau’r sir, yn amrywio o’r celfyddydau gweledol i gerddoriaeth, dawns, drama, ysgrifennu creadigol a ffilm. Mae Celfyddydau Cymunedol yn rhoi cyfle i bawb gymryd rhan yn y celfyddydau beth bynnag yw eu profiad, oed neu gefndir.

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid, o sefydliadau trydydd sector i grwpiau cymunedol ar draws meysydd iechyd a lles, addysg ac adfywio. Mae ein Rhaglen Celf Cymunedol wedi’i dylunio i gefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) Llywodraeth Cymru ac fe’i noddir gan gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth y DU yn ogystal â drwy nawdd grant a nawdd partneriaeth arall ar sail prosiectau unigol.

Rydym yn dîm bach o ddwy – Rheolwr Celfyddydau Cymunedol, Siân Fitzgerald a Chydlynydd Prosiect Celfyddydau Cymunedol, Jo McGregor. Rydym hefyd yn cyflogi tîm o weithwyr creadigol proffesiynol llawrydd i gyflawni ein prosiectau.

I gael rhagor o wybodaeth gallwch gysylltu drwy ein tudalen Cysylltwch â Ni

Gallwch hefyd ein dilyn ar @DLLCelfArts

Mae celf yn gwneud pethau gwych yn ein cymunedau lleol:

  • Dod â phobl ynghyd
  • Creu swyddi
  • Cynnig cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd
  • Datblygu diddordebau newydd
  • Gwneud pentrefi, trefi a dinasoedd yn llefydd gwych i fyw, i weithio, ac i ymweld â nhw

Noson Allan

Rydym hefyd yn cefnogi ac yn rheoli Cynllun Noson Allan ar ran Cyngor Sir Ddinbych. Mae Cynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i helpu grwpiau o wirfoddolwyr o bob rhan o Gymru i ddod â’r celfyddydau i galon eu cymunedau.

Gall grwpiau cymunedol (a elwir yn Hyrwyddwyr) ddewis o blith nifer fawr o artistiaid proffesiynol gwych i berfformio mewn neuaddau cymunedol neu neuaddau pentref a lleoliadau eraill llai traddodiadol ar draws y sir.  Os ydych eisiau gwybodaeth am sut y mae’r cynllun yn gweithio a sut y caiff nosweithiau eu hyrwyddo ewch i www.nightout.org.uk

Bob blwyddyn caiff bron 550 o sioeau eu bwcio drwy’r cynllun gan tua 350 o wahanol grwpiau cymunedol. Ochr yn ochr â’r prif gynllun rydym hefyd yn rhedeg cynllun Noson Allan Fach sy’n cynnig sioeau bychan ar gyfer sefydliadau aelodaeth megis y Merched y Wawr a’r WI.

Gan weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol Cymru, mae’r tîm Noson Allan hefyd yn gwarantu yn erbyn colledion ar  ddigwyddiadau drwy dalu ffi’r perfformiwr gyda’r hyrwyddwr cymunedol yn talu’r ffi yn ôl o incwm o docynnau wrth y drws.

Nid ydym ni byth yn cymryd mwy na chostau’r perfformiwr felly fel hyrwyddwr fyddwch chi byth ar eich colled o ddefnyddio’r cynllun. Po fwyaf o arian y bydd hyrwyddwyr yn ei wneud y mwyaf o arian fydd gennym ni i allu cytuno i gais arall.

Mae ein hyrwyddwyr yn gallu bwcio amrywiaeth eang o artistiaid proffesiynol. Mae llawer yn dod at Noson Allan am gyngor ynghylch sioeau priodol o safon uchel sy’n addas ar gyfer lleoliadau cymunedol bychan.

Nod Noson Allan yw hyrwyddo, galluogi a chefnogi:
  • Perfformiadau proffesiynol o safon uchel mewn cymunedau ledled Cymru, llawer ohonynt heb fawr o fynediad at ddigwyddiadau celfyddydol.
  • Economi’r celfyddydau –  darparu llwyfan ar gyfer perfformwyr o Gymru a thu hwnt i gyrraedd cymunedau lleol.
  • Datblygiad cymunedol, gwirfoddol a’r economi lleol a chyfrannu at y defnydd o neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol fel mannau ymgynnull hyfyw ar gyfer sefydliadau lleol.
  • Grwpiau hyrwyddwyr gyda chyngor, syniadau ac argymhellion.

Cysylltwch â ni drwy ein tudalen Cysylltwch â ni.


Y Celfyddydau Mewn Iechyd a Lles

Mae pwysigrwydd y celfyddydau mewn hyrwyddo iechyd a lles yn cael ei dderbyn yn eang erbyn hyn.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi bod yn cefnogi gweithgaredd yn y maes hwn ers peth amser ac wedi sefydlu Memorandwm o Ddealltwriaeth gyda Conffederasiwn GIG Cymru, ac maent hefyd yn gweithio’n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyda chyfranogwyr Grŵp Trawsbleidiol y Celfyddydau ac Iechyd Llywodraeth Cymru. Ym mis Mai 2017, dywedodd Cyfarwyddwr Sefydliad Baring fod Cymru yn ‘arwain y byd’ yn y celfyddydau ar gyfer pobl hŷn ac rydym wedi parhau i ddatblygu ein gwaith yn y sector hwn. Mae’r adroddiad i’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol dros y Celfyddydau, Iechyd a Lles yn San Steffan hefyd yn amlygu manteision iechyd a lles cyfranogiad yn y celfyddydau creadigol: Y Celfyddydau er Iechyd a Lles.

Rydym ni yng Nghelfyddydau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych yn rhedeg rhaglen lawn o weithgareddau’r Celfyddydau mewn Iechyd mewn partneriaeth â gwasanaethau awdurdodau lleol megis y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gwasanaeth Tai,  sefydliadau partner megis Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a sefydliadau ac elusennau trydydd sector megis Mind, KIM Inspire, Grŵp Cynefin a Chanolfan Ni yng Nghorwen.

Cafodd peth o’n gwaith sylw yn nogfen fapio’r Celfyddydau ac Iechyd yng Nghymru Cyngor Celfyddydau Cymru: Astudiaeth fapio o weithgaredd presennol 2018 https://arts.wales/our-impact/how-we-reach-wider-audiences/art-and-health

Rydym ni, yn yr un modd â Chyngor Celfyddydau Cymru, yn credu’n gryf fod gan y Celfyddydau gyfraniad pwerus dros ben i’w wneud tuag at fywydau iach a ymgysylltiedig.

Wyddoch chi?

  • Mae mynychu digwyddiad celfyddydol o leiaf unwaith y mis yn ystod blynyddoedd hwyrach bywyd yn lleihau’r risg o iselder 50%.
  • Mae ymweld ag oriel neu amgueddfa bob ychydig fisoedd yn lleihau eich risg o ddatblygu dementia 44% – ac mae’r manteision yn para am hyd at 10 mlynedd ar ôl i chi stopio.

Gwobrau a Chydnabyddiaeth

Celfyddydau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych oedd yr unig bartner yng Nghymru i gymryd rhan yn y prosiect ymchwil pwysig ‘Dementia a’r Dychymyg’ (http://dementiaandimagination.org.uk/). Yn dilyn y prosiect ymchwil mae’r tîm wedi parhau i ddatblygu ei waith gyda phobl sy’n byw â dementia ac maent yn arweinwyr yn y sector gyda’r prosiect arobryn Ymgolli Mewn Celf.

Prosiect celfyddydau gweledol ar gyfer pobl sy’n byw â dementia â’u gofalwyr yw Ymgolli Mewn Celf, sydd wedi ennill y wobr Hearts for the Arts am y Prosiect Celfyddydau Awdurdod Lleol Gorau am Annog Cydlyniad Cymunedol yn 2018.

Rydym hefyd yn aelodau o WAHWN.

Ewch i’n tudalen Adnoddau Cymunedol i weld yr holl adnoddau a gynigiwn ar-lein:
Adnoddau Cymunedol

Ymgolli mewn Celf

Mae’r prosiect Ymgolli Mewn Celf ar gyfer pobl sy’n byw â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Nod y prosiect yw ymchwilio i’r hyn y gall y celfyddydau gweledol ei gyfrannu wrth fynd i’r afael â’r materion a all effeithio ar bobl â dementia, gan gynnwys ynysu cymdeithasol, hyder, cyfathrebu, ansawdd bywyd a lles.  Datblygwyd y prosiect gyda chefnogaeth y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor.

Mae Ymgolli Mewn Celf yn cael ei gynnal bob wythnos yng Nghanolfan Grefft Rhuthun.

Os ydach chi’n byw hefo dementia neu yn gofalu am rhywun sydd yn byw hefo dementia, ac am ymuno ni am sesiwn blasu, cysylltwch gyda ni.

Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu