categorïau gwobrau
RHESTR FER

Bydd y Gwobrau Cymunedau Bywiog yn dathlu rhagoriaeth chwaraeon a diwylliannol Sir Ddinbych. Cynhelir y digwyddiad ym mis Tachwedd 2023 yn Theatr Pafiliwn y Rhyl.

Mae hwn yn ddigwyddiad mawreddog, sy’n dathlu ein cymuned yn Sir Ddinbych a’r bobl sy’n byw yma. Bydd y ffocws ar y rhai sydd wedi gwneud gwahaniaeth neu wedi cyflawni rhywbeth mewn chwaraeon neu weithgaredd, y celfyddydau a diwylliant.

Bydd dros 400 o westeion, gan gynnwys trigolion, partneriaid a busnesau lleol yn mynychu’r digwyddiad mawr hwn yn Theatr y Pafiliwn, y Rhyl ochr yn ochr â’r holl enwebeion a’u teuluoedd.

Rhestr Fer

Gwirfoddolwr y Flwyddyn

Prestatyn Park Run

Carla Hargraves

Anna Gresty

Ysgol Gynradd y Flwyddyn

Ysgol Pen Barras

Ysgol Bodnant

Ysgol Twm o’r Nant

Ysgol Uwchradd y Flwyddyn

Ysgol Uwchradd Prestatyn 

Ysgol Dinas Bran

Ysgol Brynhyfryd

Hyfforddwr Chwaraeon y Flwyddyn

Gareth Pritchard

Gerwyn Jones

Liam Bell

Clwb Chwaraeon y Flwyddyn

Clwb Pel Droed Dinbych

Clwb Pel Droed Genod Henllan ‘dan 16

Ravens – Hwb Clwstwr Rygbi Merched

Prosiect Celfyddydau mewn Iechyd Gorau

Well-being with Art (Gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol)

Arts for Health (Hwb, Dinbych)

Work in Progress (Grŵp celfyddydau perfformio cymunedol)

Prosiect Creadigol Cymunedol Gorau

Lleihau arwahanrwydd cymdeithasol trwy Gelf (STAND NW CIC ) 

Sesiynau cerdd Paned a Chân (Canolfan Gerdd William Mathias)

Meinciau Cyfeillgar Dinbych (Grŵp Cynefin a Partneriaid)

Gweithle Gweithgar y Flwyddyn

Ysgol Bodnant

Ysgol Brynhyfryd

Ysgol Llywelyn

Ysbrydoliaeth Ifanc

Pip Jones

Hanna Tudor

Ash Mersino

Gwobr Rhagoriaeth - Person Ifanc

Cadi Doran

Dafydd Jones

Olivia Schrimshaw

Luis Gardner

William Bishop

Gwobr Rhagoriaeth - Oedolyn

Kara Roberts

Elis Jones

Ceri Roberts

Categorïau Gwobrau

Gwirfoddolwr y Flwyddyn

Gwirfoddolwr unigol, o unrhyw oed, sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i gymuned Sir Ddinbych o fewn amgylchedd chwaraeon neu ddiwylliannol. Bydd y person hwn wedi dangos ymrwymiad eithriadol i weithgaredd di-dâl.

Ysgol Gynradd y Flwyddyn

Ysgol yn Sir Ddinbych sy’n blaenoriaethu cadw’n heini, cyfleoedd chwaraeon a/neu weithgareddau celfyddydau creadigol wrth galon yr ysgol a’r gymuned ac sy’n cydnabod cyfraniad y gweithgareddau hyn at hyrwyddo iechyd lles.

Ysgol Uwchradd y Flwyddyn

Ysgol yn Sir Ddinbych sy’n blaenoriaethu cadw’n heini, cyfleoedd chwaraeon a/neu weithgareddau celfyddydau creadigol wrth galon yr ysgol a’r gymuned ac sy’n cydnabod cyfraniad y gweithgareddau hyn at hyrwyddo iechyd lles.

Hyfforddwr Chwaraeon y Flwyddyn

Hyfforddwr o unrhyw oed yn Sir Ddinbych sydd wedi dangos sgiliau hyfforddi rhagorol ac wedi cyfrannu at gyfleoedd chwaraeon a/neu lwyddiant o lawr gwlad i ragoriaeth.

Clwb Chwaraeon y Flwyddyn

Clwb Cymunedol yn Sir Ddinbych sydd wedi dangos rhagoriaeth mewn rheolaeth, datblygiad a chystadleuaeth ar draws y clwb.

Prosiect Celfyddydau mewn Iechyd Gorau

Unrhyw brosiect yn Sir Ddinbych a gyflwynwyd mewn lleoliad cymunedol, iechyd, gofal cymdeithasol neu ysgol a gefnogodd iechyd a lles y cyfranogwyr yn llwyddiannus gan ddefnyddio offer creadigol megis celf, cerddoriaeth, drama, dawns neu ysgrifennu creadigol.

Prosiect Creadigol Cymunedol Gorau

Unrhyw brosiect yn Sir Ddinbych a gyflwynir i gefnogi cydlyniant cymunedol trwy gyfranogiad creadigol mewn unrhyw ffurf  gelfyddyd.

Gweithle Gweithgar y Flwyddyn

Busnes lleol yn Sir Ddinbych sydd yn cefnogi lles corfforol a meddyliol eu gweithwyr drwy eu hannog i fod yn heini a/neu greadigol e.e. côr gwaith, clwb gwau, tîm pêl-droed, teithiau cerdded amser cinio.

Ysbrydoliaeth Ifanc

Person ifanc ysbrydoledig 25 oed neu iau (ar 1 Tachwedd 2023) sydd wedi cyfrannu trwy ysgol, cymuned neu’r ddwy i helpu i ddatblygu cyfleoedd  chwaraeon neu ddiwylliannol sy’n hybu iechyd meddwl a lles yn Sir Ddinbych.

Gwobr Rhagoriaeth – Person Ifanc

Gwobr i gydnabod person ifanc 25 oed neu iau (ar 1 Tachwedd 2023) sy’n byw yn Sir Ddinbych, sydd wedi arddangos y lefel uchaf o sgil, perfformiad, ymroddiad ac ymrwymiad i’w chwaraeon neu gelfyddyd rhwng Ionawr 2022 a Gorffennaf 2023.

Gwobr Rhagoriaeth – Oedolyn

Gwobr i gydnabod un o drigolion Sir Ddinbych 26 oed a throsodd, sydd wedi arddangos y lefel uchaf o sgil, perfformiad, ymroddiad ac ymrwymiad i’w chwaraeon neu gelfyddyd rhwng Ionawr 2022 a Gorffennaf 2023.

Cyrhaeddiad Oes

Unigolyn sydd wedi gwella’r amgylchedd chwaraeon neu ddiwylliannol yn sylweddol yn Sir Ddinbych am gyfnod parhaus o 15 mlynedd neu fwy.

Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu